Siaradwyr Gwadd 2018
Huw Morris
Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes (SAUDGO), Llywodraeth Cymru
Gwireddu’r Uchelgais – cyflogadwyedd a’r sgiliau sy’n sicrhau‘Ffyniant i Bawb’
Ian Price
Cyfarwyddwr CBI Cymru a Cadeirydd WAAB
Mae mwy iddi na’r Ardoll
Mae’r hyn rŷn ni’n ei wneud yn awr yn iawn ond beth allen ni ei wneud yn well?
Mae mwy iddi na’r Ardoll – mae gwendidau yn y system. Mae angen i ni newid o system a arweinir gan y cyflenwad i system a arweinir gan y galw.
Rŷn ni’n gwneud rhai pethau’n dda iawn. Mae gennym sector Addysg Bellach a Sgiliau cryf iawn. Sut mae adeiladu ar hynny?
Ai Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yw’r ateb?
Yr Athro Karel Williams
Athro Cyfrifeg a’r Economi Wleidyddol, Ysgol Fusnes Alliance Manchester
Hyfforddi ar gyfer y dyfodol sylfaenol
Yr economi sylfaenol yw ffynhonnell fwyaf swyddi yng Nghymru ar hyn o bryd a bydd hynny’n parhau i’r dyfodol. Ond bydd angen i hyfforddiant ar gyfer sectorau fel gofal addasu yng ngoleuni dau ddatblygiad allweddol yn y dyfodol.
Yn gyntaf, addasu i economi o BBaChau a meicro fusnesau lle mae’r perchennog/rheolwr a’r unig fasnachwr yn ffigwr allweddol; mae un rhan o dair o gyflogaeth Cymru mewn meicro fusnesau yn barod. Yn ail, gydnabod y bydd gwaith ailadroddus, gwaith sy’n dilyn sgript a gwaith cymryd archebion ym meysydd manwerthu, canolfannau galwadau ac ati yn cael ei awtomeiddio; ac y bydd angen sgiliau cyfathrebu ar gyfer swyddi yn y dyfodol.
Bydd hyn i gyd yn gofyn am fodelau busnes newydd a chyflenwi hyfforddiant ar gyfer rheoli busnesau bach a bydd llawer mwy o bwyslais ar sgiliau meddal.