
Prentisiaethau
Gwnewch Ddewis Doeth a recriwtiwch brentis
Mae prentisiaethau yn ddewis doeth sy’n gallu:
- Galluogi recriwtio cost-effeithiol – rydych chi’n talu cyflog y prentis ac rydym ni’n talu am gost yr hyfforddiant
- Creu cronfa o dalent – gyda gweithlu medrus, cymwysedig
- Llenwi bylchau sgiliau – i fodloni eich gofynion presennol ac yn y dyfodol
- Helpu eich busnes i dyfu – p’un a ydych yn dewis recriwtio, ailhyfforddi neu adleoli eich gweithlu
Dod yn brentis
Hoffech chi ennill cyflog wrth ddysgu?
Prentisiaethau – Yng Nghymru, mae Prentisiaethau yn swyddi sy’n cynnwys cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau sy’n benodol i swydd. Mae Prentisiaethau yn agored i unrhyw un 16 oed a throsodd, gan gynnwys pobl ag anableddau, cyflwr iechyd neu anawsterau dysgu. Nid oes terfyn oedran uchaf.
Hyfforddeiaethau – Mae Hyfforddeiaeth yn addas ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed yng Nghymru. Rhaglen ddysgu ydyw sy’n darparu’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i gael swydd neu i fynd ymlaen i ddysgu pellach neu i brentisiaeth yn y dyfodol.