Hoffech chi ennill cyflog wrth ddysgu?


English | Cymraeg

Beth yw prentisiaeth?

Swyddi yw prentisiaethau yng Nghymru sy’n cynnwys cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau sy’n benodol i swydd. Rydych yn cael cyflog tra’n gweithio a dysgu.

Mae prentisiaethau yn agored i unrhyw un dros 16 oed, gan gynnwys pobl ag anableddau, cyflwr iechyd neu anawsterau dysgu. Nid oes uchafswm oedran.

Mae’n rhaid i chi ymgeisio fel unrhyw swydd arall. Bydd y cyflogwr sy’n hysbysebu’r Prentisiaeth yn nodi’r cymwysterau, sgiliau a phrofiad maent eu hangen. Darganfod mwy neu ffoniwch 0800 028 4844.


Ddim yn siŵr pa lwybr gyrfa rydych chi am ei ddilyn?

Twf Swyddi Cymru Plws
Am ennill arian, bod yn annibynnol a chael dy droed ar yr ysgol yrfa?

Cael dy dalu gyda lwfansau hyfforddiant wythnosol tra’n dysgu a chyflog go iawn pan fyddi di’n cael dy gyflogi.

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Mae’n ffordd wych o roi hwb i dy hyder ac yn gyfle heb ei ail i ti gael blas ar waith a allai fod o ddiddordeb i ti. Bydd gen ti hefyd fynediad at hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi â thâl gyda chyflogwyr yn dy ardal. Darganfod mwy neu ffoniwch 0800 028 4844.

yn ôl i’r brig>>