Hyrwyddwr Dwyieithrwydd

English | Cymraeg

Caiff Prosiect yr Hyrwyddwr Dwyieithrwydd mewn Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Y bwriad yw cefnogi darparwyr hyfforddiant DSW yng Nghymru i gyrraedd y targedau a bennwyd yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg; a helpu i gyflawni strategaeth ‘Cymraeg 2050’, sef gweledigaeth a nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae’r prosiect yn ceisio gweithio i gyflawni’r amcanion a nodir yn y Strategaeth ar gyfer y Sector Addysg Bellach a Phrentisiaethau. Bydd yr Hyrwyddwr Dwyieithrwydd mewn DSW yn cydweithio’n agos â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar y 6 philer allweddol (Dysgwyr, Staff, Darpariaeth, Adnoddau, Cymwysterau a Chyflogwyr), er mwyn canfod rhwystrau a’u goresgyn. Y nod fydd cynyddu nifer y prentisiaid fydd yn gwneud eu prentisiaethau yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Llysgenhadon Prentisiaethau
Fel ffordd o hyrwyddo manteision Prentisiaethau Cymraeg a Dwyieithog, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ariannu o leiaf 10 o Lysgenhadon Prentisiaethau trwy NTfW ym mhob blwyddyn academaidd. Mae’r Llysgenhadon yn rhannu eu profiadau o fod yn brentis dwyieithog yng Nghymru ac yn dangos y pleser a gânt o fod yn brentis, a manteision defnyddio #CymraegYnYGweithle.

Cewch wybod mwy am y Llysgenhadon:
Annwen Roberts
Celyn Jones
Ceris Jones
Gethin Evans
Iestyn Morgan
Ifan Williams
Lleucu Edwards
Llio Jones
Poppy Evans
Tom Acreman

Cynllun Gwreiddio
Mae croeso i unrhyw aelod o staff yn y sector ôl-16 sy’n cyfrannu at addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog neu sydd â diddordeb yn y maes fod yn aelod o’r Cynllun Gwreiddio, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg. Mae aelodau’r Cynllun Gwreiddio yn rhan o gymuned frwdfrydig o staff, sy’n gweithio’n ddwyieithog ar draws y sector ôl-16.

Y Gymraeg: Mae Gen Ti Fantais
Mae’n bwysig manteisio ar bob cyfle i ddatblygu sgiliau dwyieithog er lles eich gyrfa yn y dyfodol. Yn ôl arolygon cyflogwyr, mae prinder gweithwyr â sgiliau Cymraeg, yn enwedig ym meysydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant, a Gwasanaethau Cyhoeddus. Dyma rai o fanteision addysg ddwyieithog.

Llawlyfr Arferion Da Dwyieithog
Diben y Llawlyfr Arferion Da Dwyieithog yw rhannu enghreifftiau o arferion da cyfredol yn y sector Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) er mwyn annog dysgwyr i barhau â’u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Y nod yn y pen draw yw sicrhau gweithlu dwyieithog er budd dyfodol Cymru.

Adnoddau
Mae rhestr o adnoddau hwylus ar gael i chi eu defnyddio yn cynnwys: geiriaduron, termiaduron, gwirwyr sillafu, adnoddau ar-lein a gwybodaeth am ddysgu Cymraeg a gwasanaethau cyfieithu Cymraeg. Cymerwch gip i weld beth sydd ar gael.

For further information, please contact:
Ryan Evans, Bilingual Champion
Email: ryan.evans@ntfw.org
Mobile: 07425 621710