Llysgennad Prentisiaethau’n cynghori disgyblion i ymchwilio i bob opsiwn cyn dewis gyrfa

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Annwen Roberts, Llysgennad Prentisiaethau.

Gweinyddes feithrin yw Annwen Roberts ac mae’n cynghori disgyblion ysgol i ymchwilio i’w holl opsiynau cyn penderfynu ar yrfa.

Dewisodd Annwen, 28, o Gwm-ann, ger Llambed, wneud gradd mewn Datblygiad Plentyndod ar ôl gadael yr ysgol ond hoffai pe bai wedi cael gwybod y gallai wneud prentisiaeth yn lle hynny.

“Rwy’n credu mod i wedi gwastraffu tair blynedd o fy mywyd, i fod yn onest, oherwydd wnaeth y radd ddim arwain at ddim byd,” esboniodd. “Rwy’n difaru peidio ag ymchwilio i’r holl opsiynau oedd yn agored i fi. Byddwn i’n sicr wedi dewis gwneud prentisiaeth yn lle mynd i’r brifysgol pe bawn i’n gwybod yr hyn rwy’n ei wybod nawr.”

Mae Annwen, sy’n gweithio ym Meithrinfa Enfys, Cross Inn, ger Llan-non, yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefel 5) ddwyieithog mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant gyda’r darparwr dysgu Itec.

Gan ei bod mor frwd dros brentisiaethau a’r iaith Gymraeg, cafodd ei phenodi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

Fel rhan o waith Llysgennad, mwynhaodd Annwen gymryd rhan mewn ymgyrch i feddiannu cyfrif Instagram neilltuol yn ystod Wythnos Prentisiaethau er mwyn rhoi cipolwg i bobl ar ei gwaith fel prentis. Mae’n gobeithio cymryd rhan mewn gweithareddau eraill i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a phrentisiaethau dwyieithog pan fydd cyfyngiadau Covid-19 yn caniatáu.

“Mae’n fraint cael hyrwyddo’r iaith Gymraeg a phrentisiaethau Cymraeg,” meddai. “Hoffwn i berswadio rhagor o bobl i siarad Cymraeg – fel fy mhartner oedd yn methu siarad Cymraeg pan gwrddon ni wyth mlynedd yn ôl ond sy’n rhugl erbyn hyn.

“Gobeithio y gallaf i gyfrannu at gyflawni nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Cafodd Annwen brofiad o weithio mewn meithrinfeydd yng Nghellan a’r Eglwys Newydd, Caerdydd cyn dod adref i weithio bum mlynedd yn ôl. Ei huchelgais yw bod yn arolygydd er mwyn sicrhau bod meithrinfeydd yn cael eu rhedeg yn iawn, gan gynnig y cyfleoedd gorau i blant.

“Rwy wrth fy modd yng nghwmni plant, yn eu hannog i archwilio’u hamgylchoedd a’u herio’u hunain,” meddai.

Dechreuodd ar ei Phrentisiaeth Uwch ym mis Tachwedd 2019 ac mae wedi dal ati i weithio tuag at y cymhwyster er ei bod wedi colli ei thad ac wedi gorfod gohirio ei phriodas. Y bwriad yn awr yw priodi ym mis Rhagfyr.

Yn ôl Dana James, asesydd gydag Itec, mae Annwen yn fenyw ifanc sy’n gweithio’n galed, yn gweld gwaith ac sydd ag agwedd gadarnhaol. Dywedodd ei bod yn Llysgennad Prentisiaethau ardderchog.

“Rwy’n credu ei bod yn eithriadol o bwysig bod prentisiaid yn cael y cyfle i ddysgu yn eu dewis iaith,” meddai.

Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

“Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,” meddai.

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”
Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r ail flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

More News Articles

  —