Poppy’r Llysgennad yn gwneud iawn am amser a gollwyd trwy ddilyn Prentisiaeth Uwch

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Poppy Evans, Llysgennad Prentisiaethau.

Mae gan Poppy Evans yrfa addawol mewn llywodraeth leol diolch i Brentisiaeth Uwch.

Ar ôl astudio’r gyfraith yn y brifysgol am ddwy flynedd, penderfynodd Poppy, 24, o Gaerfyrddin nad hwnnw oedd y cwrs iddi hi ac aeth ati i wneud iawn am yr amser a gollwyd trwy wneud prentisiaeth fel cynorthwyydd cymorth busnes gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.

Erbyn hyn, mae’n symud ymlaen yn ei gyrfa a chafodd ddyrchafiad yn ddiweddar i fod yn swyddog digidol recriwtio ac ymgysylltu â theuluoedd gyda chyfrifoldeb am waith marchnata a chyfathrebu ar ran gwasanaethau plant a theuluoedd y cyngor. Ei huchelgais yw dringo i fod yn un o’r uwch-reolwyr.

Mae Poppy yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Busnes a Gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg. Cafodd addysg Gymraeg yn yr ysgol a’r brifysgol er nad oedd ei rhieni’n siarad yr iaith.

Gan ei bod mor frwd o blaid y Gymraeg a phrentisiaethau, penodwyd hi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru a’r NTfW sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

“Rwy’n falch o gael bod yn Llysgennad Prentisiaethau ac rwy’n edrych ymlaen at ddangos bod prentisiaethau’n addas i bobl o bob oed a phob cefndir,” meddai Poppy.

“Yn sicr, chefais i ddim gwybod am y posibilrwydd o wneud prentisiaeth pan oeddwn i yn yr ysgol ond hoffwn feddwl y bydd fy chwaer iau yn cael gwybod am yr holl opsiynau sy’n agored iddi pan fydd hi’n cyrraedd y cyfnod hwnnw. Mae cyfrifoldeb ar ysgolion i arwain a mentora eu myfyrwyr.

“Pe bawn i wedi dechrau ar brentisiaeth yn lle mynd i’r brifysgol, mae’n fwy na thebyg y byddwn i yn un o’r uwch-reolwyr erbyn hyn.”

Gan droi at ei chariad at y Gymraeg, dywedodd Poppy: “O safbwynt polisïau cenedlaethol, mae’r pwyslais ar ddwyieithrwydd yn gryf ac yn cryfhau. Mae bod yn ddwyieithog yn sicr yn fuddiol pan fyddwch yn ymgeisio am swydd broffesiynol yma yng Nghymru.”

Fel rhan o’i gwaith, mae’n ymdrechu i hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn unol â pholisi dwyieithog y cyngor ac mae’n Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant, gan ganolbwyntio’n neilltuol ar faeth.

Dywedodd Julie Mason-Davies, uwch-asesydd LRC Training: “Pob clod i Poppy am gael ei phenodi’n Llysgennad Prentisiaethau. Mae’n rhywbeth i ymfalchïo ynddo.

“Er ei bod yn rhugl yn y Gymraeg, mae’n un o’r ychydig bobl sydd wedi dewis gwneud y Brentisiaeth Uwch trwy gyfrwng yr iaith. Fel rhan o’i swydd, mae’n ymroi i hyrwyddo defnydd o’r iaith ac mae wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau i wneud hynny.”

Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

“Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,” meddai.

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r ail flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

More News Articles

  —