Taflen Newyddion NTfW – Mawrth 2012
Cynnwys y daflen newyddion
Aelodau NTfW yn helpu i gydnabod dysgu blaenorol ffoaduriaid sydd wedi dod i Gymru
Rhaglen Arian am Oes Lloyds TSB
Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru – Prosiect Ymchwil Microfusnesau
UCMC – Cerdyn Apprentice Extra
Dinasyddiaeth a Diwylliant
Newyddion gan y Rhanbarthau
Grŵp Colegau Coleg Glannau Dyfrdwy yn dathlu prentisiaethau gyda’r Siambr Fasnach
Y De’n Arwain y Ffordd i Rannu CPD
Conduit yn symud i swyddfeydd newydd yng Nghaerdydd
Cydnabod Llwyddiant NVQ gydag Excelsior Plus
Gorsaf Wybodaeth Casnewydd yn Un
Mae ACT, darparwr dysgu seiliedig ar waith mwyaf Cymru, wedi agor Academi Sgiliau ar ei newydd wedd yng Nghaerffili i helpu i leihau diweithdra ymhlith pobl ifanc
Seminar i annog defnyddio’r Gymraeg i Ddysgu Oedolion yn y Gymuned yn y de orllewin
Seminarau i drafod sgiliau y bydd cyflogwyr yn chwilio amdanynt
Newyddion Busnes
Gwybod faint o wyliau i’w rhoi i’ch staff
Defnyddio eich cynllun busnes i gael cyllid
Iaith Fyw: Iaith Byw
Dates for your diary
Check dates for the latest events
Aelodau NTfW yn helpu i gydnabod dysgu blaenorol ffoaduriaid sydd wedi dod i Gymru

Mae cynllun peilot cyffrous lle mae aelodau NTfW, Cyngor Ffoaduriaid Cymru (WRC) ac Alltudion ar Waith (DPiA) yn cydweithio wedi cael ei draed dano yn ne Cymru.
Mae’r cynllun peilot yn rhan o gynllun braenaru ehangach ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol. Ei nod yw sefydlu rhaglen gynaliadwy sy’n cydnabod dysgu blaenorol pobl sydd â statws ffoaduriaid yng Nghymru a’r sgiliau sydd ganddynt eisoes trwy brosesau sydd eisoes ar waith mewn fframweithiau credydau.
Mae’r cynllun peilot yn helpu chwech o bobl i fynd trwy’r “broses RPL” ym meysydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Adeiladu a Manwerthu. Mae’r arwyddion cyntaf gan y tri darparwr (A4e, Acorn Learning Solutions a TSW Training) yn awgrymu bod y cynllun peilot yn mynd yn dda ac, oherwydd natur y bobl sydd arno, ei fod yn “ymestyn y systemau mewnol”.
Ar ôl gwerthuso’r cynllun peilot, bwriedir cyflwyno cynnig i Lywodraeth Cymru gyda’r nod o sicrhau cyllid ar gyfer rhaglen gynaliadwy lle byddai Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith yn helpu’r rhai y mae’r Swyddfa Gartref yn eu hanfon i Gymru ac sy’n eithriadol o awyddus i weithio yng Nghymru.
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jeff Protheroe, Ebost: jeff.protheroe@ntfw.org neu ffôn symudol: 07425 621711.
Rhaglen Arian am Oes Lloyds TSB

Her Arian am Oes
Mae ColegauCymru ac NTfW yn llawn cyffro am yr her Arian am Oes (MFL). Mae’r syniadau am brosiectau wedi’u cyflwyno a rhoddwyd grantiau i 40 prosiect yng Nghymru (104 ledled y DU). Da iawn chi, Canolfan Adnoddau Blaenau Gwent, Babcock Training, ACT, A4E a nifer fawr o golegau am gyflwyno cynigion dyfeisgar. Cafodd cyfanswm o 11 grant eu cymeradwyo ar gyfer y cyrff hyn sy’n darparu dysgu seiliedig ar waith. Cyflwynir y prosiectau gorffenedig erbyn 16 Mawrth a bydd y beirniadu cychwynnol yn digwydd yng Nghymru ar 19 a 20 Mawrth. Bydd y pum prosiect sy’n cyrraedd y brig a nifer o rai agos atynt yn cael eu gwahodd i achlysur yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 4 Ebrill. Bydd cyfle i’r rhai sydd yn rownd derfynol Cymru gyflwyno’u syniadau i wahoddedigion a phanel o feirniaid a fydd yn penderfynu ar enillydd cenedlaethol Cymru a ‘dewis y bobl’ ar y diwrnod. Bydd yr enillydd cenedlaethol yn cynrychioli Cymru yn rownd derfynol y DU yn Llundain ar 24 Mai. Dymuniadau gorau i bawb sy’n cymryd rhan! Cewch bleidleisio dros eich hoff brosiect trwy Facebook a twitter, felly cofiwch fynd i wefan Arian am Oes ar ôl 16 Mawrth gan y bydd pob pleidlais yn cyfrif.
Cyrsiau Teach Others a Teach Me
Teach Others: Mae rhaglen Teach Others ar gyfer eleni yn tynnu tua’i therfyn ac rydym wedi ymateb i’r galw trwy drefnu dwy sesiwn arall o’r rhaglen. Os oes gennych chi neu gydweithiwr ddiddordeb mewn dilyn Teach Others, mae rhai llefydd wedi’u hariannu’n llawn ar ôl. Gan nad ydym yn siwr a fydd y rhaglen yn parhau ar ôl mis Mai, efallai mai’r rhain fydd y llefydd olaf a gawn sydd wedi’u hariannu’n llwyr.
Mae darparwyr dysgu seiliedig ar waith (DSW) sydd wedi bod ar y cwrs yn canmol y cynnwys yn fawr ac yn dweud ei fod yn werthfawr iddyn nhw a’u sefydliadau.
‘Mae’r cwrs Teach Others wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Mae wedi rhoi digon o syniadau i mi am gyflwyno Cymhwyso Rhif i ddysgwyr mewn meysydd ariannol sy’n berthnasol i’w hyfforddiant yn y gweithle a’r sgiliau ehangach sy’n eu helpu i gael gwaith.’ Kate Hall, Ymgynghorydd Hyfforddiant Trin Gwallt – ISA Training
Gellir gwneud cais trwy fynd i: http://www.moneyforlifeprogramme.org.uk/qualifications/
Dim ond pedwar lle sydd ar gael ar ein cwrs yng Nghaerdydd (14 a 28 Mawrth).
Cynhelir ein dau gwrs newydd Teach Others ar y dyddiadau isod:
Caerfyrddin 17/04/12 (Diwrnod 1) a 01/05/12 (Diwrnod 2)
Coleg Llandrillo, Campws Rhos 15/05/12 (Diwrnod 1) a 29/05/12 (Diwrnod 2)
Diolch am helpu i roi’r gair ar led.
Teach Me: Mae llefydd ar gael tan ddiwedd Mai ar gyfer darparwyr dysgu seiliedig ar waith ar y cwrs ar lein hwn sy’n cael ei ariannu’n llawn. Mae’n gyfle gwych i chi neu’ch staff gymryd rhan mewn Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) mewn Gallu Ariannol trwy eich rhaglenni dysgu seiliedig ar waith. Mae nifer o ddarparwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs yn dweud eu bod wedi dysgu llawer ac wedi meithrin sgiliau sy’n hwb i’w hyder ac wedi rhoi syniadau iddynt ar gyfer rhaglenni Sgiliau Hanfodol Cymru, Sgiliau Sylfaenol a’r Adduned Cyflogwr. Mae’r cwrs yn cynnwys deg awr o ddysgu ar lein ac mae’n cael ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored (OCN).
Os hoffech wybod rhagor am y rhaglen Arian am Oes, yr her neu gyrsiau staff wedi’u ariannu’n llawn, ewch i www.moneyforlifeprogramme.org.uk.
Neu gallwch gysylltu â Clara Weekley clara.weekley@ntfw.org neu Julia Owens julia.owens@colegaucymru.ac.uk
Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru – Prosiect Ymchwil Microfusnesau

Mae’r prosiect ymchwil microfusnesau yn tynnu tua’r terfyn. Mae angen holi nifer o gyflogwyr a llunio tipyn o astudiaethau achos yn ystod mis Mawrth a disgwylir y bydd yr adroddiad terfynol a’r canfyddiadau’n cael eu cyflwyno i Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru (ARhC) ym mis Mai, a’u cyhoeddi ym mis Mehefin.
Diolch yn fawr i’r holl ddarparwyr sydd wedi cyfrannu at y prosiect hyd yma trwy ddod i gwrpiau ffocws, darparu cronfeydd data o’u microgyflogwyr i’w holi a rhannu cysylltiadau â rhanddeiliaid allanol.
Bydd arolwg gwerthuso terfynol i’w weld ar Moodle dros yr wythnosau diwethaf, felly byddem yn ddiolchgar pe baech yn parhau i gefnogi trwy ei anfon at eich holl ficrogyflogwyr a’i lenwi eich hunan os ydych yn ddarparwr sydd â 9 aelod o staff neu lai.
Trwy ein cysylltiadau ag ARhC, gofynnwyd i ni dynnu sylw at gyfleoedd am gymorth a chyllid a all fod o ddiddordeb i’n haelodau.
Rhaglen datblygu’r gweithlu – cyllid dewisol. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cynghorydd Datblygu Adnoddau Dynol (HRD) i gydweithio â chwmni heb godi tâl arnynt i:
- Adolygu strategaeth y cwmni er mwyn sicrhau bod holl waith datblygu a hyfforddi’r staff yn helpu i gyflawni amcanion y busnes
- Helpu’r cwmni i wella’r ffordd y mae’n edrych ar reoli a hyfforddi trwy baratoi cynllun datblygu y cytunir arno, a chynnig cyngor ynglŷn â’i weithredu
- Penderfynu ar y gofynion hyfforddi a datblygu a pharatoi cynllun dysgu y cytunir arno
- Helpu’r cwmni i gwrdd â’i anghenion hyfforddi a datblygu trwy ei gysylltu â sefydliadau hyfforddi a sicrhau’r cyrsiau cywir
- Helpu’r cwmni i sicrhau dyfarniad Buddsoddwyr mewn Pobl (IiP
Bydd y cynghorydd yn ceisio sicrhau’r trefniadau mwyaf manteisiol ar gyfer y cynllun dysgu, gan ddefnyddio mentrau Llywodraeth Cymru. Lle na ellir diwallu anghenion hyfforddi a datblygu trwy raglenni sy’n bodoli eisoes, gellir trefnu bod cyllid dewisol ar gael. Trwy gyllid dewisol, bydd Llywodraeth Cymru’n cynnig cymhorthdal o 50% ar gyfer yr hyfforddiant y cytunir arno ar y cynllun dysgu (hyd at derfynau y cytunir arnynt).
Ar gyfer pwy y mae hyn?
- Busnesau â 10 neu fwy o weithwyr (dylai busnesau â 9 neu lai o weithwyr droi at yr adran cais uniongyrchol);
- Mae pob busnes yn y sector preifat yn gymwys ar yr amod nad ydynt wedi cael cymorth trwy’r llwybr hwn o’r blaen;
- Gall busnesau sector cyhoeddus gael cymorth cynghorydd HRD am dâl gostyngol ond ni fyddant i gael cyllid dewisol;
- Rhaid bod prif swyddfa’r busnesau yng Nghymru;
- Nid yw busnesau’n gymwys i gael cyllid dewisol os ydynt eisoes wedi cael cydnabyddiaeth IiP; fodd bynnag gallant wneud cais uniongyrchol.
Os hoffech ragor o wybodaeth neu ffurflen gais, ffoniwch y Llinell Sgiliau Busnes ar 0845 60 661 60 neu ebostio info@skillspeoplesuccess.com
I gael rhagor o wybdoaeth am y Cronfeydd Dewisol, dilynwch y ddolen hon: http://lmw.org.uk/cy/cyllid/workforce-development-programme-discretionary-funding/
Mae rhestr o’r cyrsiau sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer cyllid dewisol arweinyddiaeth a rheolaeth i’w gweld isod. Os hoffech wybod a fyddai rhaglen hyfforddi benodol yn cael cyllid ELMS, cysylltwch â’ch cynghorydd HRD (os yw’n berthnasol) neu ebostiwch elmsenquiries@cymru.gsi.gov.uk
Rhestr gymeradwy o gyrsiau ELMS
Sylwch: Mae’r holl gyllid arweinyddiaeth a rheolaeth yn dod yn rhannol o Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
UCMC – Cerdyn Apprentice Extra

Mae Cerdyn Apprentice Extra UCM yn gweithio’n iawn erbyn hyn ac mae ar gael i ddysgwyr yng Nghymru sy’n gwneud prentisiaethau.
Roedd rhai anawsterau ar y dechrau i ddarparwyr oedd yn dymuno cofrestru fel sefydliad cydnabyddedig ond mae’r rhain wedi’u datrys a daeth y cerdyn yn boblogaidd iawn dros y misoedd diwethaf. Mae’r Cerdyn ar gael yn Lloegr hefyd erbyn hyn ac felly, os ydych yn rheoli contractau yno, cofiwch sôn wrth eich cydweithwyr.
Mae’r Cerdyn yn rhoi gostyngiadau ar wahanol eitemau hanfodol o dros 120 o siopau’r Stryd Fawr a gwerthwyr ar lein. Mae’n cdanolbwyntio ar roi gostyngiadau ar eitemau sy’n arbennig o berthnasol i Brentisiaid, fel offer, gwisgoedd ac ati. Gyda’r cerdyn, gallwch arbed tua £525 y flwyddyn ar deithio, chwaraeon, llyfrau a DVDS, technoleg, ffonau symudol a band eang, yn ogysal â dillad, harddwch a chymdeithasu.
Bydd yr arian a ddaw i mewn o’r cerdyn yn mynd tuag at Gymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid sy’n cynrychioli Prentisiaid ac yn eu cefnogi yn ystod eu hyfforddiant galwedigaethol. I gael gwybod rhagor neu i gofrestru fel sefydliad er mwyn prynu cardiau ar gyfer eich dysgwyr, ewch i www.nus.org.uk/en/nus-apprentices-extra-card/
Er mwyn sicrhau y gallwn ddatblygu’r cynllun ymhellach er budd dysgwyr, byddem yn ddiolchgar am unrhyw ymateb neu awgrymiadau. Os oes gennych bryderon, awgrymiadau, cwestiynau neu sylwadau, gallwch ebostio Clara Weekley, clara.weekley@ntfw.org Rydym yn ceisio sicrhau bod cynrychiolydd o dîm Apprentice Extra UCMC yn dod i’r cyfarfodydd rhanbarthol ym misoedd Ebrill a Mai er mwyn hybu’r gwasanaeth ac ateb eich cwestiynau.
Dinasyddiaeth a Diwylliant

Bod yn Gymro/Gymraes a beth mae’n ei olygu i mi
Gwnewch arddangosfa fach neu wisgo rhywbeth i ddangos beth y mae bod yn Gymro/Gymraeg yn ei olygu i chi.
Ewch ati i annog y dysgwyr i wneud yr un peth – cyfle i ddod i’w nabod yn well!
Gofynnwch i’r dysgwyr enwi rhai pethau Cymreig e.e. hoff ganwr neu fand, dywediadau digri etc.
Dathlu Gyda Phice ar y Maen
Mae pice ar y maen neu deisennau cri yn flasus gyda phaned. Slawer dydd, roedden nhw’n cael eu coginio ar faen neu blanc mewn ffwrn lo ond gallwch chi eu gwneud ar badell ffrio drom neu radell.
Amser Paratoi: 15 munud
Amser Coginio: 6 munud
Cyfanswn: 21 munud
Cynhwysion:
- 8 owns/ 225g blawd codi
- 4 owns/100g menyn
- 1 llwy de sbeis cymysg
- 3 owns/75g siwgr mân
- 3 owns/75g cyrensa syltanas cymysg
- Pinsiaid o halen
- Croen hanner lemon, wedi’i gratio
- 1 ŵy mawr, wedi’i guro
- Ychydig o laeth i’w gymysgu os bydd angen
Paratoi:
- Hidlwch y blawd, yr halen a’r sbeis i ddysgl gymysgu. Rhwbiwch y braster i mewn nes bod y cymysgedd yn edrych fel briwsion bara mân. Ychwanegwch y siwgr, y croen lemon a’r ffrwythau sych. Ychwanegwch yr ŵy wedi’i guro a throi’r cymysgedd i wneud toes solet. Ychwanegwch joch fach o laeth os bydd y toes yn rhy sych. Rhowch ychydig iawn ar y tro rhag i’r toes fynd yn rhy wlyb.
- Taenwch flawd ar fwrdd gweithio a rolio neu wasgu’r toes i tua ¼”(5mm) o drwch, tua’r un trwch â’ch bys bach. Torrwch yn gylchoedd â thorrwr 1½“ neu 2” (4 neu 5cm). Neu torrwch yn sgwariau.
- Coginiwch y Pice ar y Maen/Teisennau Cri ar radell ar wres canolig am tua thair munud ar bob ochr, gan eu troi unwaith, nes eu bod yn frown euraid ar y ddwy ochr ond braidd yn feddal yn y canol. Taenwch ychydig o siwgr mân drostynt pan fyddant yn boeth. Os nad oes gennych radell, defnyddiwch ffreipan â gwaelod trwm wedi’i hiro â menyn.
Mae’r teisennau cri yn fwy blasus yn gynnes ond gallwch eu cadw am hyd at 10 diwrnod mewn bocs aerglos. Maent yn flasus gyda hufen ffres wedi’i chwipio’n ysgafn a jam hefyd.
Digwyddiadau
Dyddiadau a threfi ymweliad y fflam Olympaidd â Chymru
Bydd y fflam Olympaidd yn pasio trwy Gymru ar y dyddiadau isod. Cyhoeddir yr amserau yn nes at yr amser. Cewch ragor o wybodaeth yn http://wales.gov.uk/topics/cultureandsport/2012/torch/?lang=en

Grŵp Colegau Coleg Glannau Dyfrdwy yn dathlu prentisiaethau gyda’r Siambr Fasnach

Fel rhan o Wythnos Brentisiaethau Cymru 2012, cynhaliodd Coleg Llaneurgain sy’n rhan o Grŵp Colegau Coleg Glannau Dyfrdwy frecwast rhwydweithio a seminar di-dâl ar y cyd â Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru ar fore Mercher 8 Chwefror.
Pwrpas yr achlysur oedd tynnu sylw at bwysigrwydd prentisiaethau ac fe’i hagorwyd gan Bennaeth Coleg Glannau Dyfrdwy, David Jones. Roedd yno 60 o gynadleddwyr ynghyd â chynrychiolwyr o Goleg Glannau Dyfrdwy, Coleg Iâl, Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Gorllewin Swydd Gaer i roi cyngor am recriwtio a hyfforddi prentisiaid.
Bu cyflogwyr a phrentisiaid o Airbus, DRB Group a Chyngor Sir y Fflint yn sôn am eu cynllun prentisiaethau nhw eu hunain gan ddefnyddio astudiaethau achos a gwybodaeth wedi’i seilio ar eu profiadau nhw.
Meddai Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Glannau Dyfrdwy: “Fel rhan o’r Wythnos Brentisiaethau, rydym wedi bod yn hybu gwaith cyffrous colegau a chyflogwyr yn rhoi cyfleoedd am brentisiaethau i bobl ifanc a phobl sydd eisoes yn gweithio iddynt. Gall prentisiaethau helpu sefydliadau o bob sector trwy sicrhau bod gweithwyr newydd a rhai presennol yn dysgu sgiliau newydd sy’n ateb anghenion y busnes unigol.
Meddai: “Mae’n bwysig ein bod ni, y colegau, yn dal i gefnogi a hybu prentisiaethau er mwyn helpu cyflogwyr i dyfu eu busnesau ac mae’n dda gweld cynifer o bobl yma heddiw gyda chefnogaeth y Siambr Fasnach.
Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru, Colin Brew: “Mae’r Siambr Fasnach wrth ei bodd o gael cydweithio’n agos â holl brif golegau’r ardal er mwyn sicrhau cysylltiad cryfach rhyngddynt a’r sector preifat. Ein nod yw rhoi gwybodaeth i bobl a sôn wrth fusnesau am fanteision prentisiaethau. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i bawb ddysgu mwy am y cynlluniau hyfforddi gweithwyr sydd ar gael a bydd yn fan cychwyn ardderchog ar gyfer busnesau sy’n ystyried cymryd prentis. Ar ôl heddiw, gobeithio y bydd rhagor o gyflogwyr lleol wedi cael eu hargyhoeddi am fanteision cynllun prentisiaeth.”
Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Keith Vivian o DRB Group, ”Roedd yn dda cael dweud wrth gyflogwyr eraill am lwyddiant y cynllun prentisiaethau a’r manteision i fusnesau.”
Cafodd yr achlysur ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau i ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.
Y De’n Arwain y Ffordd i Rannu CPD

Mae Rhanbarth y De, NTfW, wedi dyfeisio ffordd newydd o feithrin diwylliant o rannu arferion ymhlith ei aelodau a hybu datblygiad staff. Mewn oes lle mae’n rhaid hyfforddi a datblygu staff er mwyn cynnal, datblygu a gwella ansawdd dysgu, mae Rhanbarth y De yn dechrau datblygu calendr rhannu CPD. Mae’r aelodau wedi cytuno i rannu adnoddau CPD a gweithgareddau datblygu staff gyda’r nod o ddatblygu calendr CPD ar y cyd ar gyfer y rhanbarth.
Ymhlith y gweithgareddau CPD a gynigir yn fewnol gan aelodau’r rhanbarth, mae Hyfforddiant Cymorth Cyntaf, TAQA, Diogelu Plant a llawer rhagor. Felly, mae’r cynllun yn gyfle gwych i staff rannu eu harferion a datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn gwahanol ffyrdd.
Bydd y cynllun yn cychwyn yn ystod y tri mis nesaf ac, ar ôl bod yn rhedeg am dipyn, caiff ei werthuso gan Fwrdd Rhanbarth y De gyda’r posibilrwydd o’i ehangu i’r rhanbarthau eraill.
A ninnau’n rhwydwaith o sefydliadau hyfforddi profiadol o safon uchel, bydd rhannu arferion da ac arferion datblygu staff yn golygu bod ein haelodau a’n dysgwyr yn elwa o brofiadau ac arbenigedd ei gilydd. Mae hyn yn dangos bod NTfW wir yn gweithio mewn Partneriaeth.
Conduit yn symud i swyddfeydd newydd yng Nghaerdydd

Mae cwmni Conduit, sy’n rhedeg canolfannau galw, yn symud staff o swyddfa Hodge House yng nghanol Caerdydd i fannau eraill, swyddfa Fusion Point gerllaw yn bennaf, lle mae’n gobeithio cyflog 600 o staff ychwanegol.
Mae Conduit yn eiddo i gwmni KGN o’r Unol Daleithiau ac mae’n cyflogi dros 1,900 o staff yn ei swyddfeydd yn ne Cymru – sef yng Nghanol Dinas Caerdydd, Porth Caerdydd ac Abertawe.
Bydd safle Fusion Point, ychydig i’r de o Orsaf Caerdydd Canolog, yn trafod galwadau gwasanaeth Homecare Nwy Prydain.
Dywedodd Denis Creighton, prif weithredwr Conduit Ewrop, mai Cymru oedd yn cael y marciau uchaf am wasanaethau cwsmeriaid a pherfformiad yn y deg gwlad yr oedd y cwmni’n gweithio ynddynt. Meddai: “Dyna pam yr ydym yn mynd i ganolbwyntio ar dyfu yma. Fusion Point 1 fydd yn arwain y twf yn ein busnes.”
Cydnabod Llwyddiant NVQ gydag Excelsior Plus

Cynhaliodd prosiect Excelsior Plus seremoni arbennig yn ddiweddar i anrhydeddu 12 o gyflogwyr a 36 o’u gweithwyr a lwyddodd i ennill cymwysterau seiliedig ar waith yn y gweithle gydag Aseswyr NVQ Coleg Pen-y-bont.
Pwrpas y seremoni, yng Ngwesty Coed-y-Mwstwr ger Pen-y-bont ar Ogwr, oedd cydnabod gweithwyr a oedd wedi ennill NVQs mewn Busnes a Gweinyddu, Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr, Gweithgynhyrchu, Arwain Timau a Rheoli.
Meddai Clara Weekley o NTfW, “Roedd yn brofiad arbennig gweld cynifer o bobl wych ac ysbrydoledig yn cael eu gwobrwyo.”
Menter o dan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) yw Excelsior Plus a’r nod yw helpu gweithwyr i ennill Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) er mwyn datblygu eu sgiliau a’u hyder i greu gweithlu mwy cynhyrchiol gyda gwell cymwysterau.
Mae gweithwyr yn gymwys ar gyfer prosiect Excelsior Plus os ydynt yn gweithio am fwy nag 16 awr yr wythnos i fusnes bach neu ganolig ei faint, elusen neu fenter gymdeithasol o Dde Cymru yn ardaloedd Cydgyfeirio’r ESF, sef Sir Benfro, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr Tudful, Torfaen a Blaenau Gwent.
Mae Coleg Pen-y-bont, Coleg Merthyr Tudful a Choleg Ystrad Mynach yn cydweithio ar brosiect Excelsior Plus. Wrth ysgrifennu hwn, mae 234 o fusnesau a sefydliadau wedi cymryd rhan ac mae 1255 o ymgeiswyr ar y llyfrau. O’r rhai sydd â’u henwau ar y llyfrau, mae 274 o weithwyr wedi cael eu NVQs ar y prosiect ers 2010. Yn ogystal, mae 49 cwmni wedi manteisio ar gyngor polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sydd ar gael am ddim ar y prosiect.
Bydd cyfanswm o 2800 o gyfleoedd NVQ wedi’u hariannu’n llawn ar gael i ymgeiswyr yn siroedd Cydgyfeirio ESF yn y De a bydd modd cofrestru hyd at fis Ebrill 2014.
Os hoffech ragor o wybodaeth am brosiect Excelsior Plus a ariannir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cysylltwch â Liz Plenty, Rheolwr y Prosiect yng Ngholeg Pen-y-bont ar excelsiorplus@bridgend.ac.uk neu trwy ffonio: 01656 302 329.
Gorsaf Wybodaeth Casnewydd yn Un

Mae’r Orsaf Wybodaeth wedi cael £700,000 o gronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i ddwyn ynghyd wasanaethau Cyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid eraill.
Mae nifer o wahanol wasanaethau ar gael i bobl sy’n ymweld â’r Orsaf Wybodaeth, ynghyd â chyngor ar faterion fel: Trethi busnes, y dreth gyngor, gwasanaethau ailgartrefu, a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cynnwys plant a theuluoedd, amddiffyn plant, atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, a gwasanaethau cyflogaeth dan gymorth.
Wrth agor yr Orsaf Wybodaeth, dywedodd Jane Hutt:
“Mae hwn yn gyfleuster newydd gwych a fydd yn ei gwneud yn haws o lawer i bobl yng Nghasnewydd gael gwybodaeth am wasanaethau a chyngor am y cymorth sydd ar gael pan fydd arnyn nhw ei angen.
Mae’r Orsaf Wybodaeth yn enghraifft ardderchog o wella gwasanaethau i’r cyhoedd. Daeth o ganlyniad i gydweithio, rhannu adnoddau, offer a swyddfeydd, a chynllunio gwasanaethau i ateb anghenion pobl yn y gymuned leol yn hytrach na chyfundrefnau.
Dw i’n arbennig o falch o weld bod manteision y dechnoleg newydd yn cael eu defnyddio i wella gwasanaethau i’r cyhoedd. Yr Orsaf Wybodaeth yw’r enghraifft arwyddocaol gyntaf o dechnoleg teleffoni Band Eang y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.
Mae gan Lywodraeth Cymru ran allweddol i’w chwarae yn helpu gwasanaethau cyhoeddus i ymdopi â llai o arian, yn hybu arloesi a newid ac yn gweithio mewn partneriaeth. Mae’r Gronfa Buddsoddi i Arbed yn ein helpu i wneud hyn.
Dw i mor falch ein bod wedi gallu helpu Gorsaf Wybodaeth Casnewydd yn Un, yn cynnwys rhoi £700,000 o’r gronfa Buddsoddi i Arbed, i’w helpu i wneud eu gwasanaethau’n fwy effeithlon a hwylus i bobl.
Rwy wedi trefnu bod y Gronfa’n dal ar gael i brosiectau sy’n sicrhau gwelliannau mawr mewn effeithlonrwydd a gwelliannau ehangach a byddaf yn ei hagor i geisiadau newydd eto cyn hir.
Mae Gorsaf Wybodaeth Casnewydd yn Un yn dangos manteision edrych o’r newydd ar y ffordd y mae pobl yn defnyddio gwasanaethau lleol. Gobeithio y bydd y prosiect yn parhau i dyfu a datblygu, ac y gall rhannau eraill o Gymru ddysgu o’r llwyddiannau a gafodd y dull hwn o weithio – ac a gaiff eto yn y dyfodol.”
Mae ACT, darparwr dysgu seiliedig ar waith mwyaf Cymru, wedi agor Academi Sgiliau ar ei newydd wedd yng Nghaerffili i helpu i leihau diweithdra ymhlith pobl ifanc

Agorwyd yr Academi ar ei newydd wedd yn swyddogol gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, ar ddydd Llun 20 Chwefror. Nod yr Academi sydd ar Stad Ddiwydiannol Pontygwindy. Caerffili, yw helpu cannoedd o bobl ifanc yr ardal i gael gwaith. Croesawyd pawb i’r diwrnod agored gan Lysgennad Sgiliau ACT, y seren o fyd rygbi, Jonathan Davies, a ymunodd â’r Dirprwy Weinidog ar daith o gwmpas y cyfleusterau modern. Cafodd cyflogwyr lleol, Gyrfa Cymru, y Ganolfan Waith a mudiadau eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc wahoddiad i gael yr olwg gyntaf ar y cyfleusterau newydd ac i drafod yr hyn y mae ACT yn ei wneud yn ardal Caerffili.
Roedd gan Jonathan Davies neges bwysig i gyflogwyr lleol. Roedd am eu hannog i gefnogi pobl ifanc ardal Caerffili trwy gynnig blas ar waith, lleoliadau gwaith a phrentisiaethau iddynt er mwyn iddynt gael cyfle i ddysgu wrth weithio.
Cyn yr ailwampio, roedd yr Academi’n cynnig hyfforddiant mewn Trin Gwallt, Technoleg Gwybodaeth, Gweinyddu Busnes, Perfformio, Gweithgynhyrchu a Gosod Brics. Ar ôl y gwaith ehangu gwerth £250,000, mae’r cyfleusterau newydd yn cynnwys adrannau hyfforddi ym maes cerbydau ac adeiladu, a chegin fodern fel y gall y dysgwyr gael profiad ymarferol o’r gwahanol bynciau. Yn ogystal, mae’r Academi yn cynnig rhagor o ddewisiadau ym maes Adeiladu, fel Plastro, Gwaith Coed, Plymio, Paentio ac Addurno ynghyd â rhaglen TEAM Ymddiriedolaeth y Tywysog.
Seminar i annog defnyddio’r Gymraeg i Ddysgu Oedolion yn y Gymuned yn y de orllewin

Trefnwyd seminar am ddim gan Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol De Orllewin Cymru i helpu pobl sy’n ymwneud â Dysgu Oedolion yn y Gymuned a’r iaith Gymraeg.
Mae’r Bartneriaeth yn cael ei hariannu trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ac o ffynonellau eraill. Mae’n dwyn ynghyd sefydliadau allweddol ym maes addysg ac adfywio o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro gyda’r nod o wella cyfleoedd dysgu i bawb.
Daeth tua 40 o bobl i’r seminar hanner-diwrnod ym Mharc y Scarlets, Llanelli, ym mis Chwefror.
Roedd yn rhan o Raglen Waith is-gr_p Dysgu Oedolion yn y Gymuned er mwyn hybu arferion da wrth ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog. Rhoddodd gipolwg ar ffyrdd o roi hyder i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.
Roedd cynrychiolwyr o Ddinas a Sir Abertawe, Cynghorau Sir Caerfyrddin a Cheredigion, Coleg Powys, Coleg Castell-nedd Port Talbot, Coleg Sir Gâr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Coleg G_yr Abertawe, y Brifysgol Agored Cymru, Dysgu Bro Ceredigion, Cefn Calon a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA), ymhlith eraill.
Ymhlith y siaradwyr roedd Esther Barrett, Cynghorydd E-Ddysgu yn yr Adran Addysg Barhaus i Oedolion (DACE) ym Mhrifysgol Abertawe; Gareth Ioan, Prif Weithredwr IAITH; Angharad Mai Roberts, Rheolwr Cenedlaethol Datblygu Addysg a Hyfforddiant Cyfrwng Cymraeg gyda SGILIAITH a Sian Merlys, Swyddog Dysgu Cymunedol Dinefwr yng Nghyngor Sir Caerfyrddin.
Roedd eu cyflwyniadau’n canolbwyntio ar ganfyddiadau myfyrwyr, arferion gorau o rannau eraill o Gymru a sut y gallwn gydweithio mwy yn y rhanbarth i helpu ein tiwtoriaid a’n dysgwyr i ddefnyddio mwy o’r iaith Gymraeg i Ddysgu Oedolion yn y Gymuned.
Cafwyd ymateb da iawn i’r seminar gyda chanmoliaeth i’r cynnwys, y lefel a’r naws. Bydd trafodaethau’r gweithdai’n cael eu dadanoddi a’u defnyddio wrth gynllunio sut i hybu’r Gymraeg wrth Ddysgu Oedolion yn y Gymuned.
Dyma oedd gan Kay Timpson sy’n cydgysylltu tiwtoriaid yn ardal Abertawe i’w ddweud am y seminar: “Fe wnes i fwynhau’r seminar yn fawr. Mae llawer o ‘nghydweithwyr yn awyddus i wneud my o ddefnydd o’r Gymraeg a byddent yn croesawu adnoddau a syniadau ymarferol.”
Dywedodd eraill bod y seminar yn “ddiddorol iawn ac yn hwb i ni” ac roedd un yn dweud y byddai’n chwilio am gyfleoedd i gynnwys y Gymraeg yn ei wersi.
Bwriedir cynnal digwyddiad tebyg eto a fydd yn datblygu’r themâu a’r materion a drafodwyd yn y seminar hon.
Seminarau i drafod sgiliau y bydd cyflogwyr yn chwilio amdanynt

Cynhaliwyd cyfres o seminarau yn Ne Orllewin a Chanolbarth Cymru i drafod y sgiliau y bydd angen amdanynt yn y dyfodol.
Seminarau ar gyfer arweinwyr strategol ym meysydd addysg, datblygu sgiliau, hyfforddiant, cymorth busnes a chyfarwyddyd oedd y rhain.
Llwyddodd Beverley Wilson-Smith, Eiriolwr Darparwyr Rhanbarthol y Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol (RLP) i gael arian gan Lywodraeth Cymru a’i Chronfa Blaenoriaethau Sector i’r Cynghorau Sgiliau Sector gynnal cyfres o bum Seminar yn rhanbarth De Orllewin a Chanolbarth Cymru rhwng Ionawr a Mawrth 2012.
Cynhaliwyd y seminarau hanner-diwrnod ym Mhenfro, Llandrindod, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe a dywedodd yr Eiriolwr: “Roedd y seminarau’n gyfle i glystyrau o Gynghorau Sgiliau Sector gyflwyno trosolwg o’u sector nhw’u hunain gan nodi pa sgiliau yr oedd cyflogwyr yn chwilio amdanynt yn awr ac yn debygol o chwilio amdanynt yn y degawd nesaf.
“Roedd yn gyfle i drafod anghenion gwahanol ddiwydiannau er mwyn cynllunio at y dyfodol ac roedd yn arbennig o ddefnyddiol i bobl ym meysydd addysg, datblygu sgiliau, hyfforddiant, cymorth a chyngor busnes a chyfarwyddyd.”
Roedd y seminarau’n canolbwyntio ar glystyrau sector fel – Lantra, People 1st, Improve, Skillsmart Retail; Cyngor Gofal Cymru, Sgiliau Iechyd, SkillsActive, Sgiliau er Cyfiawnder a’r Bartneriaeth Sgiliau Ariannol; Sgiliau Ynni a Chyfleustodau, Cogent a Sgiliau Asedau; Skillset, E-Skills, Summit a Sgiliau Iechyd; ynghyd â Semta, Sgiliau ar gyfer Logisteg a Sefydliad y Diwydiant Moduro. Roedd y cyflwyniadau i gyd yn rhoi golwg glir ar y gwahanol sectorau a’u cyfraniad at economi Cymru. Hefyd, cafodd y gynulleidfa olwg ar y sgiliau yr oedd cyflogwyr yn chwilio amdanynt a chyfle i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb â phanelau’r sgiliau sector.
Wrth gloi’r seminar olaf yn y Village Hotel, Abertawe, ar 5 Mawrth, galwodd Karl Napieralla, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar y gynulleidfa i ddefnyddio’r wybodaeth werthfawr a gawsant gan y cyflwynwyr. Meddai: “Mae hon wedi bod yn gyfres werth chweil, gyda phob un o’r siaradwyr yn cyfeirio at y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, a’r cyfle i ddatblygu sgiliau er mwyn cynnal busnesau, creu swyddi newydd a hybu ffyniant economaidd.
“Mae cydweithio’n bwysicach nag erioed i hybu’r agenda sgiliau.”
Cafwyd ymateb cadarnhaol i’r seminarau i gyd ac roedd dros 60 o bobl, ar gyfartaledd, ym mhob un ohonynt.
Dywedodd yr Eiriolwr: “Mae llawer o bobl wedi canmol pob un o’r seminarau. Roedden nhw’n dweud eu bod wedi cael llawer o wybodaeth a chroeso cynnes ym mhob un o’r canolfannau. Gobeithio y gallwn adeiladu ar hyn gan ddwyn gwahanol randdeiliaid ynghyd eto yn y dyfodol.
“O safbwynt RLP, mae ein partneriaid eisoes yn cytuno bod cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn beth da. Bwriadwn adeiladu ar y seminarau hyn, gan sicrhau bod y cydweithio rhwng ein sefydliadau a’n hasiantau yn gwella wrth fynd ymlaen.”
Roedd tri darlunydd yn darlunio negeseuon allweddol y pum seminar ac roedd myfyrwyr o Brifysgol Fetropolitan Abertawe yn eu ffilmio. Bydd holl weithgareddau seminarau’r Cynghorau Sgiliau Sector, yn cynnwys y cyflwyniadau, i’w gweld ar wefan RLP cyn hir. Ewch i www.rlpsww.org.uk/Cymraeg/Pages/home.aspx a dilyn y ddolen ‘Eiriolwr Rhanbarthol’.
Dates for your diary
Dydd Gwener 27 Ebrill
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol NTfW Lantra, Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd LD2 3WY
Friday 20th June
Diwrnod VQ
De – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd
Gogledd – I’w gadarnhau
24 a 25 Hydref
Gwobrau Hyfforddiant a Phrentisiaethau Cenedlaethol Cymru a Chynhadledd Flynyddol NTfW
Venue Cymru, Llandudno
14 – 17 Tachwedd
Skills Show – NEC Birmingham
Gwybod faint o wyliau i’w rhoi i’ch staff
Gyda gwyliau’r Jiwbilî ar y gorwel, mae’n bryd chwilio am y rheolau am gyflog ac amser o’r gwaith ar wyliau cyhoeddus a gwyliau banc. Darllen rhagor »
Defnyddio eich cynllun busnes i gael cyllid
Mae cynllun busnes yn hanfodol i’ch menter. P’un a yw eich busnes yn newydd neu eisoes wedi’i sefydlu, eich cynllun busnes ydy eich strategaeth ar gyfer datblygu yn y dyfodol. Darllen rhagor »
Iaith Fyw: Iaith Byw
Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar helpu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, gan gynnwys drwy gyfryngau cymdeithasol a thechnoleg newydd. Darllen rhagor »
More News Articles
« Pum Tim O Gymru’n Cyraedd Rownd Derfyol Her Arian Am Oes — Tim o Ben-Y-Bont yn Ennill Rownd Cymru o’r Her Arian Am Oes »

