Tim o Ben-Y-Bont yn Ennill Rownd Cymru o’r Her Arian Am Oes

Tîm buddugol, Don’t Buy Posh – Save Your Dosh, ACT Training, Pen-y-bont ar Ogwr gyda Sarah Porretta o Lloyds Banking Group.
Tîm o ddysgwyr ifanc o Ben-y-bont ar Ogwr fydd yn chwifio baner Cymru yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig, Her Arian am Oes ar ôl ennill rownd Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw (dydd Mercher).
Cyngor i bobl ifanc ar sut i arbed arian oedd gan dîm Don’t Buy Posh – Save Your Dosh o ACT Training, Pen-y-bont. Cawsant eu hysbrydoli gan y cynnydd ym mhris bwyd a’r ffaith fod llawer o bobl heb arian ar ôl ar ddiwedd yr wythnos i brynu pethau hanfodol.
Nesaf, bydd y tîm yn cyflwyno’u prosiect arbed arian i banel o feirniaid amlwg yn y Rownd Derfynol yn Llundain ar 23 Mai. Yno, cânt gyfle i ennill £2,500 i elusen o’u dewis nhw, gwerth £100 o Fondiau Bonws i bob aelod a mentor o’r Lloyds Banking Group am flwyddyn.
Aeth y tîm – Paige Sparrow, Ryan Gardener, Alex Mayhew a Shannon Mears – ati i ddangos sut y gellir arbed arian trwy brynu bwydydd brand y siop ei hunan.
Penderfynwyd targedu pobl ifanc eraill 16-18 oed yn eu canolfan hyfforddi nhw. Roedd nifer o’r rhain yn gwario llawer ar fwyd heb sylweddoli faint o arian y gallent ei arbed. Fe wnaethon nhw sefydlu ‘Value Café’ hefyd yn ystafell gyffredin ACT gan ddefnyddio bwydydd rhatach ar y fwydlen.
Aethant ati i goginio pryd o fwyd i’r grŵp cymunedol lleol, Mental Health Matters, gan drefnu sesiynau profi i ddangos sut yr oedd brandiau’r siopau eu hunain gystal bob tamaid â brandiau enwog.
“Mae’n anhygoel ein bod ni wedi ennill ac y byddwn ni’n cynrychioli Cymru yn Llundain,” meddai Paige. “Rydyn ni am gael dreigiau wedi’u printio ar ein ffedogau ar gyfer Ffeinal Fawr y Deyrnas Unedig. Mae’r prosiect wedi rhoi hwb i’n hyder ni ac mae wedi bod yn grêt gweithio mewn tîm.”
Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i’r ffyrdd mwyaf dyfeisgar a llwyddiannus o wella sgiliau rheoli arian pobl ifanc, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau. Roedd y timau’n cael gwneud cais am grantiau bach i redeg gwahanol weithgareddau rheoli arian.
Mae Her Arian am Oes yn rhan o raglen Arian am Oes sy’n bartneriaeth unigryw rhwng Lloyds Banking Group a phartneriaid yn y sector addysg bellach yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Meddai Sarah Porretta, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Fe wnaeth gwreiddioldeb, creadigrwydd a brwdfrydedd y timau greu argraff fawr arna i. Fe ges i fy ysbrydoli ganddyn nhw.
“Mae’r Her yn canolbwyntio ar ddangos i bobl ifanc sut orau i reoli eu harian, eu helpu i sylweddoli beth yw eu anghenion o ddydd i ddydd a’u nodau mewn bywyd, a rhoi cyfle iddynt feithrin y sgiliau hyn a’u rhoi ar waith.
“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r tîm buddugol i Rownd Derfynol y DU ar 23 Mai. Yr unig drueni yw na allwn gymryd pawb a gyrhaeddodd ffeinal Cymru.
Y timau eraill yn rownd derfynol Cymru oedd Debtly Matters o Goleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd; Drive Well Spend Less o ACT Training, Caerdydd, Every Penny Counts o Ganolfan A4e, Port Talbot a Budget Brainstormers o Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin.
Dyma’r syniadau dyfeisgar a gafodd y timau: gwefan i helpu pobl i arbed arian, cyngor ar sut i arbed arian yn rhedeg car, defnyddio drama a gweithdy i gyflwyno sgiliau rheoli arian i bobl ifanc a sut y gallwch dorri costau siopa trwy brynu brandiau’r siopau eu hunain.
Enillwyr Gwobr y Bobl, a ddewiswyd o blith naw prosiect posibl, oedd Money Maze o Goleg Gŵyr, Abertawe, a ddatblygodd gêm gyda chwestiynau am reoli arian, rhifedd a llythrennedd. Aelodau’r tîm yw James Cookson, Amgad Kwider, Jack Davies, Sonnie Browning a Tom Denster.
More News Articles
« Taflen Newyddion NTfW – Mawrth 2012 — Hyrwyddwr Dwyieithrwydd Yn Hybu’r Gymraeg Yn Y Gweithle »

