Newyddion diweddaraf Cymwysterau Cymru
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf gan Cymwysterau Cymru, mewn diweddariad wedi’i deilwra ar gyfer cydweithwyr mewn dysgu seiliedig ar waith.
Moderneiddio Asesu
Mae Cymwysterau Cymru wedi sefydlu tîm moderneiddio asesu i sicrhau bod dysgwyr yn parhau i elwa o arloesi digidol yn y system gymwysterau. Mae’r tîm yn gweithio gyda rhanddeiliaid i archwilio’r manteision y gall technolegau digidol eu cynnig, er enghraifft defnyddio technoleg i gasglu tystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol o gynnydd prentisiaid yn y gweithle.
Mae’r tîm yn defnyddio eu canfyddiadau i ddylanwadu ar newid cadarnhaol a chefnogi datblygiad polisi cymwysterau.
Dilynwch ddiweddariadau gan ein tîm asesu moderneiddio, ac ystyriwch rannu eich barn a’ch profiadau gyda ni.
Yn dod yn fuan: Adroddiad adolygiad y sector Celf, Creadigol a’r Cyfryngau
Ar ddechrau mis Gorffennaf, bydd Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi canfyddiadau adolygiad cam 2 o’r sector o gymwysterau galwedigaethol mewn Celf, Creadigol, a’r Cyfryngau. Roedd yr adolygiad yn ystyried os yw cymwysterau yn y maes yma yn diwallu anghenion dysgwyr, darparwyr dysgu a chyflogwyr, ac ar gael yn ddwyieithog. Edrychwch ar ein sianeli digidol i gael gwybod mwy am y gwaith yma, ac i ddarllen ein canfyddiadau, unwaith y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar 2 Gorffennaf.
Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi bwydlen newydd o gymwysterau mewn lletygarwch ac arlwyo
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi eu penderfyniadau ar gymwysterau galwedigaethol ôl-16 mewn lletygarwch ac arlwyo, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd dewislen newydd, mwy syml o gymwysterau yn barod ar gyfer dysgwyr o fis Medi 2027.
Cymwysterau galwedigaethol ôl-16 mewn lletygarwch ac arlwyo
Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein newyddion, cyhoeddiadau, arolygon a digwyddiadau diweddaraf, cofrestrwch i’n cylchlythyr misol wrth glicio ar y botwm sydd ar dudalen gartref ein gwefan.
More News Articles
« Rhagoriaeth Addysgol: Stori Jack Stevens — Sut gall CGA eich cefnogi chi? »


