
Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn Datgelu Diweddariad i’w Chynllun Cyflogaeth a Sgiliau

Ch-Dd: Y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Emma Thomas, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, a’r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys gyda’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau, Sioe Frenhinol Cymru
Mae diweddariad i Gynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2022-2025 Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (PSRh) Canolbarth Cymru yn rhoi sylw i anghenion cyflogaeth a sgiliau y rhanbarth sy’n esblygu, gan adlewyrchu twf sectorau a galwadau economaidd.
Mae’r cynllun wedi’i ddiweddaru yn cynnwys gwybodaeth newydd am y farchnad lafur a data ansoddol, sy’n cynnig rhagolygon twf manwl ar gyfer Powys a Cheredigion. Cydweithiodd PSRh gyda grwpiau clwstwr a arweiniwyd gan fyd busnes i gasglu dirnadaeth o ddiwydiannau penodol, gan sicrhau bod y cynllun yn bodloni galwadau presennol economi Canolbarth Cymru a’i galwadau yn y dyfodol.
Mae’r cynllun wedi’i ddiweddaru yn amlygu meysydd twf allweddol tan 2028, gan gynnwys cynnydd o 6% yn y sectorau adeiladu a chynhyrchu uwch, cynnydd o 9% mewn cynhyrchu bwyd a diod, a thwf o 4% yn y sector digidol. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd sgiliau sy’n gysylltiedig â Sero Net ac ynni, gan amlygu gofynion y gweithlu sy’n dod i’r amlwg.
Dywedodd Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys, a Chynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Cyd Gadeiryddion Bwrdd PSRh, “Rydym yn falch gyda’r camau cadarnhaol y mae’r rhanbarth wedi’u cymryd gan sicrhau twf. Trwy gydweithio gydag ysgolion, colegau, prifysgolion a darparwyr hyfforddiant, mae’r PSRh yn helpu i sicrhau bod y sgiliau cywir ar gael ar yr adeg gywir i fodloni galwadau ein cyflogwyr yng Nghanolbarth Cymru.”
Dywedodd Emma Thomas, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, “Mae diweddariad Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2024 yn dyst i’n hymdrechion parhaus i gefnogi datblygiad economaidd y rhanbarth.”
Mae PSRh Canolbarth Cymru yn annog rhanddeiliaid, busnesau a’r gymuned i archwilio’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau cynhwysfawr.
Gwefan newydd sbon ar gyfer y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (PSRh) Canolbarth Cymru yn falch o rannu gyda chi ei wefan newydd sbon. Bydd hyn yn rhoi llwyfan i’r tîm gysylltu â busnesau a sefydliadau ar draws y rhanbarth a darparu gwybodaeth i fusnesau megis cyllid, polisi Llywodraeth Cymru, ymgynghoriadau sector ac arolygon.
Bydd hefyd yn llwyfan ar gyfer Arsyllfa Data Data Cymru – gan gynnig amrywiaeth o’r data cadarn diweddaraf sy’n ymwneud â’r economi, addysg a hyfforddiant ôl-16, cymwysterau, yr iaith Gymraeg, a’r gweithlu ar gyfer Canolbarth Cymru.
Mae’r (PSRh) yn rhan o dîm Tyfu Canolbarth Cymru, ac mae’n gweithio ar draws siroedd Ceredigion a Phowys, gan sicrhau datblygu a chyflawni’r weledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio i ysgogi buddsoddiad mewn sgiliau drwy ddatblygu ymatebion yn seiliedig ar angen lleol a rhanbarthol.
Edrychwch arno nawr! psrhcanolbarth.cymru
More News Articles
« Deall y Dirwedd Sgiliau Digidol — Mae CHC yn adeiladu gysylltiadau diwydiant i hyrwyddo gwerthiannau a chyflawni twf. »