
Gabi, prentis o Gymru sy’n esiampl i eraill, yn cystadlu â chogyddion dawnus Ewrop yn Nenmarc

Gabi Wilson yn derbyn ei sgrôl prentisiaeth gan reolwr-gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Faith O’Brien, yn y seremoni raddio.
Cafodd cogydd 20 oed o’r Canolbarth, sy’n awyddus i ragori ar gogyddion o bob cwr o Ewrop yr wythnos hon, ei disgrifio fel esiampl i brentisiaid eraill o Gymru.
Bydd Gabi Wilson, o Raeadr Gwy, yn cynrychioli Tîm y DU yng ngornest goginio EuroSkills Herning yn Nenmarc yn y bennod ddiweddaraf o’i thaith nodedig yn dysgu coginio.
Mae Gabi’n un o saith cystadleuydd o Gymru mewn tîm o 19 sy’n cynrychioli Tîm y DU mewn 17 o wahanol sgiliau yn y gystadleuaeth Ewropeaidd, sydd wedi denu 600 o gystadleuwyr.
Dewiswyd y cogydd ifanc dawnus, sy’n gweithio yn Chapters, bwyty â Seren Werdd Michelin yn y Gelli Gandryll, yn aelod o Dîm y DU yn dilyn ei llwyddiant mewn cystadlaethau sgiliau cenedlaethol.
A hithau’n gyn-brentis gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, graddiodd Gabi â Phrentisiaeth mewn Coginio Proffesiynol yn gynharach yn yr haf ac, yn ôl pob argoel, bydd yn cyrraedd brig ei phroffesiwn.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn aelod o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a dywed Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol y Ffederasiwn, y bydd darparwyr prentisiaethau yng Nghymru yn cefnogi Gabi bob cam o’r ffordd.
“O raddio â Phrentisiaeth mewn Coginio Proffesiynol i gael ei dewis i gynrychioli Tîm y DU yn EuroSkills Herning 2025, mae taith Gabi yn arwydd o’i dawn, ei dygnwch a gwerth dysgu yn y gweithle,” meddai. “Mae hi’n esiampl i brentisiaid eraill Cymru.
“Dymunwn bob llwyddiant iddi a gobeithio y bydd ei sgiliau coginio’n disgleirio fel y gall gweddill Ewrop eu gweld. Gobeithio y bydd Gabi’n ysbrydoli rhagor o brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yng Nghymru i gydnabod gwerth a manteision cystadlaethau sgiliau cenedlaethol, Ewropeaidd a byd-eang.”
Mae Gabi’n awyddus i barhau i ddysgu ei chrefft, ac mae’n anelu at ennill Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Sgiliau Patisserie a Melysion yng Ngrŵp Colegau NPTC yn y Drenewydd, sydd wedi chwarae rhan allweddol yn ei thaith fel cogydd. Dyma’r coleg a’i cyflwynodd gyntaf i gystadlaethau WorldSkills UK.
“Rwy wrth fy modd ag awyrgylch cystadlaethau,” meddai. “Mae wir yn rhoi hwb i mi ac rwy’n edrych ymlaen at weld ble rwy’n sefyll ymhlith y cystadleuwyr eraill o Ewrop. Mae cael fy newis i gystadlu yn EuroSkills yn gyfle gwych – cyfle unwaith mewn oes efallai.”
Ar ôl ei thaith i Herning, hoffai sicrhau lle yn Nhîm y DU ar gyfer WorldSkills Shanghai 2026.
Mae Gabi eisoes wedi ennill gornest genedlaethol – hi oedd enillydd cyntaf Her y Cogyddion Gwyrdd ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru yn 2024 tra oedd yn gweithio gyda chogyddion eithriadol o brofiadol yn Chartists 1770 yng ngwesty Trewythen, Llanidloes, ac yn dysgu ganddynt.
Pan gaewyd y bwyty hwnnw, cafodd swydd yn Chapters lle caiff ei mentora gan y prif gogydd Mark McHugo, sy’n gyd-berchennog y bwyty gyda’i wraig, Charmaine.
Maen nhw wedi sicrhau bod Gabi’n cael mynychu hyfforddiant a gwersylloedd hyfforddi i baratoi ar gyfer EuroSkills. Bu cefnogaeth hyfforddiant un-i-un gan gogyddion proffesiynol fel Andrew Addis-Fuller, swyddog hyfforddi lletygarwch gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, yn help iddi fireinio’i sgiliau coginio hefyd.
Mae’n rhoi clod i’w phrentisiaethau “anhygoel” am helpu i feithrin ei hyder a’i sgiliau. “Mae’n ffordd wych o ddatblygu’ch sgiliau ym myd gwaith go iawn,” meddai.
“Fy nghyngor i os hoffai rhywun fod yn gogydd yw dewis prentisiaeth mewn man lle mae gweithwyr proffesiynol medrus oherwydd byddwch chi’n siŵr o ddysgu gan y goreuon. Mae’n llwybr at lwyddiant.
“Dw i’n gobeithio dysgu pob math o sgiliau cyn arbenigo mewn patisserie o bosibl. Yn y dyfodol, hoffwn i deithio hefyd a threulio cyfnodau mewn gwahanol fwytai i ddysgu gan gogyddion eraill. ”
Dywedodd Paul Evans, cyfarwyddwr prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, fod Gabi a’r chwe aelod arall o Gymru wedi gwneud yn “rhagorol” i gael eu dewis yn aelodau o Dîm y DU ar gyfer EuroSkills, prif gystadleuaeth sgiliau Ewrop.
“Mae Tîm y DU yn defnyddio EuroSkills fel cyfle i baratoi at WorldSkills Shanghai 2026,” pwysleisiodd. “Mae’n rhan o raglen ddatblygu Gabi ac aelodau eraill y tîm a bydd yn profi eu cadernid meddyliol a’u gwytnwch o dan bwysau cystadleuaeth dridiau.
“Bydd hi’n wynebu heriau a osodwyd a bydd o dan bwysau mawr yn y gystadleuaeth goginio i gyflawni’r dasg o fewn amser cyfyngedig.
“Mae WorldSkills ar gyfer pobl o dan 22 ond mae’r terfyn oedran yn 25 ar gyfer EuroSkills, sy’n golygu ei bod yn debygol y bydd rhai o’r cystadleuwyr eraill wedi cynrychioli eu gwledydd ar lwyfan y byd o’r blaen.
“Gobeithio bod Gabi ar y ffordd i Shanghai ond does dim sicrwydd y bydd hi’n mynd, gan y bydd hi’n cystadlu â chogyddion eraill am le yn Nhîm y DU. Trwy gystadlu yn EuroSkills, rwy’n gobeithio y bydd hi’n ysbrydoli rhagor o bobl ifanc Cymru i ystyried coginio fel llwybr gyrfa.
“Mae hyn fel Gemau Olympaidd Ewrop ym maes sgiliau ac yn gyfle i aelodau Cymru o Dîm y DU ddangos ansawdd addysg yn ein gwlad.”
Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru