Darparwyr hyfforddiant yn gofyn i Lywodraeth newydd Cymru flaenoriaethu prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Lisa Mytton, NTFW Strategic Director portrait shot.

Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol NTFW.

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod prentisiaethau’n cael eu blaenoriaethu yn ogystal â’u diogelu yn nhymor y Senedd nesaf.

“Byddwn yn dal ati i lobïo er mwyn cryfhau lleisiau darparwyr a dysgwyr, gan sicrhau bod yr agenda sgiliau’n dal yn ganolog i strategaeth economaidd a chymdeithasol Cymru,” pwysleisiodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTFW.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r NTFW wedi bod yn werthfawr iawn i ddarparwyr prentisiaethau ledled Cymru, gan hyrwyddo’r sector trwy eiriol, cydweithio ac arloesi.

“Yn ogystal â chryfhau trefniadaeth dysgu seiliedig ar waith, mae ein gwaith wedi sicrhau bod llunwyr polisïau, cyflogwyr a dysgwyr yn fwy ymwybodol o’r maes ac yn ymddiried mwy ynddo.”

Mae’r NTFW yn llysgennad amlwg dros ddysgu seiliedig ar waith, gan gynrychioli darparwyr prentisiaethau ledled Cymru a brwydro drostynt.

Dyma rai enghreifftiau o’r ffordd y mae’r NTFW wedi hybu darparwyr prentisiaethau.

Ym maes eiriolaeth a dylanwadu ar bolisi, mae’r NTfW wedi chwarae rhan ganolog wrth lywio’r sgwrs genedlaethol am brentisiaethau, gan gyfrannu at ymchwiliadau Llywodraeth Cymru a dylanwadu ar benderfyniadau allweddol ar gyllido a fframweithiau cyflenwi.

O ran cydweithio strategol, mae’r NTFW wedi cydweithio’n agos â Medr, rheoleiddiwr newydd addysg drydyddol yng Nghymru, a’r rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith er mwyn ymateb i heriau yn y sector. Ymhlith yr heriau hyn mae cefnogaeth ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), taliadau cymhelliant i gyflogi pobl anabl, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac Adeiladu.

Mae’r NTFW o blaid amrywiaeth a chynhwysiant. Mewn sgyrsiau, cyflwyniadau a digwyddiadau, mae’r NTFW wedi hyrwyddo gwella mynediad ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, yn cynnwys pobl ag anableddau, menywod yn y diwydiant adeiladu a chymunedau ethnig amrywiol.

Gyda Colegau Cymru, trefnodd yr NTFW Ffair Brentisiaethau lwyddiannus yn y Senedd i ddangos i Weinidogion ac Aelodau pa moe eang yw’r cyfleoedd sydd ar gael a phwysleisio gwerth prentisiaethau i weithlu’r dyfodol yng Nghymru.

Bu’r NTFW ar flaen y gad erioed o ran dathlu rhagoriaeth. Roedd yn falch o gael cefnogi Gwobrau Prentisiaethau Cymru, gan gydnabod dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr rhagorol. Mae’r gwobrau hyn wedi rhoi sylw i lwyddiannau sy’n ysbrydoli ac sy’n cadarnhau effaith y sector.

“Rydym wedi llwyddo i sicrhau rhai buddugoliaethau allweddol, yn cynnwys adfer a diogelu cyllid ar gyfer prentisiaethau,” meddai Lisa. “Ar ôl lobïo cyson, llwyddodd yr NTFW i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru i beidio â thorri cymaint ag y bwriadwyd oddi ar y gyllideb yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan ddiogelu llawer o waith hanfodol y rhwydwaith darparwyr.

“Fe wnaethon ni berswadio Llywodraeth Cymru i beidio â gostwng lefelau cyllid prentisiaethau yn y flwyddyn gyfredol chwaith, er gwaethaf pwysau ariannol ehangach ar y sector cyhoeddus.

“Mae ein Cynhadledd Flynyddol a’n cyfraniad at WorldSkills UK wedi rhoi amlygrwydd i brentisiaethau Cymru gartref a thramor.”

Roedd aelodau o’r NTFW yn cefnogi rhai o enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 hefyd, yn cynnwys Jessica Williams, Prentis Uwch y Flwyddyn, Gwynfor Jones, Prentis Sylfaen y Flwyddyn, Trafnidiaeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Gydag etholiad y Senedd 2026 yn agosáu, mae’r NTFW wedi lansio Maniffesto ar gyfer Prentisiaethau a Sgiliau, gan alw am ddyblu’r buddsoddiad fel y gall 200,000 o bobl ddechrau ar brentisiaethau.

“Mae’r rhesymeg yn glir,” meddai Lisa. “Yn ôl y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes, trwy ddyblu’r buddsoddiad, gellid ychwanegu £3.4 biliwn at enillion gydol oes pobl yng Nghymru dros y 30 mlynedd nesaf.

“Mae prentisiaethau’n hanfodol er mwyn rhoi sgiliau ymarferol i bobl, ac maent wedi’u teilwra i anghenion diwydiant, yn enwedig mewn sectorau sy’n datblygu fel ynni gwyrdd, arloesedd digidol a gofal iechyd.

“Mae ehangu mynediad at brentisiaethau yn hybu twf cynhwysol ac yn grymuso cymunedau ledled Cymru. Mae cyllid cynaliadwy yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall darparwyr barhau i gynnig gwasanaethau cymorth pwrpasol i ddysgwyr er budd eu hiechyd meddwl a’u llesiant.”

Fel rhan o’i waith, mae’r NTFW wedi mynd ati i ymgysylltu â rhanddeiliaid gwleidyddol trwy fynychu cynadleddau pleidiau, cyfarfodydd bord gron a chyfarfodydd y Senedd, cyfrannu at ymchwiliadau Llywodraeth Cymru i addysg ôl-16 a llwybrau prentisiaethau, a lobïo i sicrhau cyllid teg, hirdymor fel y bydd prentisiaethau’n dal yn ganolog i bolisi’r llywodraeth i’r dyfodol.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —