
Stori Menter Pobyddion Ifanc
Ella Muddiman a Naomi Spaven, sy’n gweithio ym Mecws Iâl yng Ngholeg Cambria yw’r cyntaf i gymryd rhan ym Menter Pobyddion Ifanc – cydweithrediad newydd rhwng BAKO, Coleg Cambria a Wrights, fel rhan o’r Compleat Food Group, wedi’i ddyfeisio i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobyddion.
Dechreuodd y syniad ar gyfer y prosiect yng Nghynhadledd Becws Cymru 2025, a gafodd ei chynnal ar safle Wrecsam, Coleg Cambria, lle chwaraeodd Ella a Naomi ran sylweddol wrth drefnu’r digwyddiad a oedd yn cynnwys sgyrsiau ysbrydoledig, gan gynnwys un gan Brif Swyddog Gweithredol FDQ Terry Fennell, a oedd yn pwysleisio bod dyfodol y diwydiant pobi yn dibynnu ar dalent newydd. Roedd yn annog busnesau i gyflogi prentisiaid a’u cefnogi i ddatblygu eu sgiliau. Atseiniodd Sara Autton o gwmni Worshipful Company of Bakers yr un neges, gan dynnu sylw at y bwlch sgiliau sylweddol a’r angen i gyflogwyr ddarganfod cyfleoedd i gefnogi talent newydd gyda’u cwmnïau eu hunain.
Gwnaeth y sgyrsiau hyn ysbrydoli David Armstrong, Cyfarwyddwr Masnachol Grŵp yn BAKO, i lansio cynnyrch newydd wedi’i anelu at bontio’r bwlch rhwng addysg a’r diwydiant pobi modern. Roedd gwaith Ella a Naomi ar y gynhadledd wedi gwneud argraff arno, felly gwnaeth eu gwahodd i arwain y rhaglen beilot. Daeth y bartneriaeth yn fyw yn sydyn gyda BAKO yn cydweithio gyda Wrights, fel rhan o’r Compleat Food Group, i wireddu’r prosiect.
Mae Naomi Spaven, ac Ella Muddiman yn astudio Diploma Lefel 3 FDQ mewn Hyfedredd mewn Sgiliau Uwch yn y Diwydiant Pobi gyda’r coleg a llynedd cyrhaeddodd nhw rownd derfynol categori Seren Addawol Gwobrau’r Diwydiant Pobi (BIA) Pobydd Prydain gyda Naomi’n ennill y wobr ac Ella’n cael ei henwebu eto eleni. Cawson nhw friff Datblygu Cynnyrch Newydd: creu cynnyrch Nadoligaidd melys a sawrus ar gyfer tymor Nadolig 2025. Wrth weithio ym mecws y coleg, gwnaethon nhw danio syniadau, profi, mireinio cyfres o ryseitiau cyn eu cyflwyno i BAKO a Wrights.
Cafodd Ella a Naomi brofiad uniongyrchol wrth addasu eu ryseitiau becws ar gyfer cynhyrchu ar raddfa fawr, drwy dreulio amser yn ffatri Wrights. Dysgon nhw i ystyried cost, blas, gwead a gallu, gan roi cipolwg gwerthfawr iddyn nhw ar realiti datblygu cynnyrch newydd mewn lleoliad masnachol.
Y tu hwnt i’r broses gynhyrchu, roedden nhw hefyd yn rhan o lansio’r cynnyrch, gan gynorthwyo gyda ffotograffiaeth ar gyfer eu creadigaethau a briffio tîm Gwerthu BAKO. Rhoddodd hyn olwg gynhwysfawr iddyn nhw ar daith gyfan gynnyrch newydd, o’r cysyniad cychwynnol i’w ryddhau ar y farchnad.
Bydd canran o’r elw o’r gwerthiannau yn cael ei ailfuddsoddi mewn cronfa bwrpasol ar gyfer Mentrau Pobyddion Ifanc yn y dyfodol, gan sicrhau bod y prosiect hwn yn parhau i gefnogi talent ifanc flwyddyn ar ôl blwyddyn. Caiff y prosiect ei gefnogi gan The Craft Bakers Association, Worshipful Company of Bakers, Cyngor Pobyddion y Dyfodol ac FDQ.
Mae’r prosiect cydweithredol hwn, wedi’i yrru gan greadigrwydd Ella a Naomi, wedi arwain at dri chynnyrch Nadoligaidd newydd ar gyfer dewis o gynnyrch arbennig Select BAKO. Mae’r rhain yn cynnwys dau opsiwn “Cacennau ar gyfer Gorffen” newydd: y Sleisen Goffi Gwyddelig, gyda’i haenau o garamel coffi a hufen gwirod Gwyddelig, a thro modern ar y Sleisen Goedwig Ddu glasurol. Gwnaethon nhw hefyd greu Sleisen Nadoligaidd greisionllyd sawrus newydd yn cynnwys caws brie a llugaeron, wedi’i orffen gyda sglein.
Mae’r tri chynnyrch bellach ar gael i gwsmeriaid Grŵp BAKO.
Fel rhan o Fenter y Pobyddion Ifanc, rhannodd y cyfranogwyr a’r partneriaid eu profiadau, o’r broses greadigol a’r wybodaeth a gawson nhw i’r cyffro o weld eu syniadau’n dod yn realiti. Dyma beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud:
Dywedodd Ella: “Dwi wedi bod wrth fy modd gyda phob cam o’r prosiect yma….O danio syniadau i dreialu blasau gwahanol, i addasu’r ryseitiau yn Wrights fel eu bod nhw’n gweithio wrth eu cynhyrchu, mi wnes i ddysgu gymaint.
Mae’n hollol wych gwybod bod rhywbeth dwi wedi helpu’i greu yn mynd i fod ar werth dros y Nadolig. Mae’n profi bod pobyddion ifanc yn gallu gwneud gwahaniaeth. A dwi’n gobeithio ei fod yn dangos i eraill eu bod nhw’n gallu hefyd.”
Ychwanegodd Naomi: “Mae cymryd rhan yn y prosiect yma wedi bod yn brofiad anhygoel, mae’n hollol wahanol i’r pobi artisan dwi wedi’i wneud o’r blaen. Dwi wir eisiau i bobl ifanc weld bod cymaint o lwybrau gyrfa gwahanol o fewn pobi, o weithio mewn becws artisan i gynhyrchu ar raddfa fawr a datblygu cynnyrch newydd. Mae fy ngwneud i’n hyd yn oed yn fwy sicr fy mod i yn y diwydiant cywir, a dwi’n gyffrous iawn am y dyfodol.”
Dywedodd Matthew Bell, Pennaeth Datblygu Busnes o FDQ: “Mae menter Pobyddion Ifanc gyntaf BAKO yn nodi cam beiddgar tuag at feithrin arweinwyr pobi y dyfodol a thrwy bartneru â darparwyr hyfforddiant prentisiaeth pobi fel Coleg Cambria nid yn unig y maen nhw’n hyfforddi, maen nhw’n creu cenhedlaeth newydd o bobyddion sydd wedi’u harfogi i arloesi ac ysbrydoli.”
Nid yn unig y mae Menter y Pobyddion Ifanc wedi cyflwyno tri chynnyrch Nadoligaidd newydd cyffrous ond mae hefyd wedi gosod y sylfeini ar gyfer rhaglen a fydd yn parhau i feithrin creadigrwydd, ysbrydoli uchelgais a hyrwyddo’r genhedlaeth nesaf o dalent pobi am flynyddoedd i ddod.
More News Articles
« GŵylSgiliau 2025: DPP Ymarferol i Hybu Addysgu sy’n Seiliedig ar Sgiliau — Ysgol Feithrin Bluebells Forest – O Warchodwr Plant i Feithrinfa Awyr Agored »