Cymwysterau Cymru yn lansio ymgynghoriad i helpu siapio dyfodol cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Mae Cymwysterau Cymru yn lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar ddylunio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru newydd.
Mae’r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau nad ydynt yn radd yng Nghymru yn bwriadu diwygio cymwysterau sy’n cynnwys pynciau cymhwyso rhif, cyfathrebu a llythrennedd digidol.
Yn 2024, dyfarnwyd mwy na 28,000 o dystysgrifau Sgiliau Hanfodol Cymru i ddysgwyr ledled Cymru fel rhan o brentisiaethau, rhaglenni addysg bellach ôl-16 a dysgu oedolion yn y gymuned.
Y llynedd, cyhoeddodd y rheoleiddiwr ei fwriad i ddiwygio tri maes pwnc: cymhwyso rhif, cyfathrebu a llythrennedd digidol.
Daeth hynny ar ôl adolygiad manwl o’r cymwysterau lle cynhaliodd ymchwil helaeth a siaradodd â dysgwyr, darparwyr a chyflogwyr – ac roedd y mwyafrif o blaid diwygio. Fe wnaethon nhw roi adborth am ba mor gyfredol a hylaw yw’r cymwysterau a’u hasesiadau.
Ers hynny, mae’r sefydliad wedi parhau i ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid a heddiw mae’n lansio arolwg ar-lein i gael adborth pwysig ar ei gynigion.
Dywedodd yr Uwch Reolwr Cymwysterau, Oliver Stacey:
“Mae angen ystod eang o safbwyntiau arnom i’n helpu i ddylunio cyfres o gymwysterau newydd. Rydym yn gofyn i ddarlithwyr, athrawon, staff coleg, darparwyr hyfforddiant, cyflogwyr a dysgwyr gwblhau ein harolwg.
“Rydym yn ymgynghori ar gynigion sy’n ymwneud â’r canlynol:
- pwrpas a nodau’r cymwysterau
- cynnwys (gwybodaeth a sgiliau)
- asesu
- teitlau’r cymwysterau
“Rydym yn bwriadu dileu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ar lefel 3 ym mhob un o’r tri phwnc ac ar lefel Mynediad 1 a 2 mewn llythrennedd digidol. Ar gyfer pob pwnc rydym yn gofyn cwestiwn yn yr arolwg am effeithiau dileu’r cymwysterau hyn.
“Ar gyfer pob cynnig, rydym yn gofyn i ba raddau y mae rhanddeiliaid neu unrhyw un â diddordeb yn cytuno neu’n anghytuno, er mwyn cynnig cyfle iddyn nhw fynegi eu barn.
“Mae’r cymwysterau hyn yn helpu dysgwyr mewn bywyd a gwaith, felly rydym yn annog pobl i ddweud eu dweud ac i siapio eu dyfodol. Byddwn ni’n dadansoddi ac yn ystyried yr holl ymatebion a dderbynnir ac yn cyhoeddi adroddiad penderfyniadau a chrynodeb o’r ymatebion yn nhymor yr haf 2026.”
Adroddiad ymgynghori
Arolwg
Mae’r ymgynghoriad ar-lein yn cau ar 5 Chwefror 2026.
More News Articles
« Pedwar gweithiwr Cwmni Hyfforddiant blaenllaw yn dathlu llwyddiant prentisiaethau — Seremoni Raddio ILM gan Talk Training 2025 »


