Sêr newydd lletygarwch yn mynd â phrentisiaethau i galon Llywodraeth Cymru

Prentisiaid Hyfforddiant Cambrian, Aaron Jones ac Oliver Addis-Fuller gyda Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol.
Rhannodd dau brentis lletygarwch talentog o ardal Abertawe eu straeon a’u sgiliau wrth iddynt helpu mynd â phrentisiaethau i galon Llywodraeth Cymru ddoe (dydd Mercher).
Cefnogodd Oliver Addis-Fuller, rheolwr dyletswydd yng Ngwesty Glyn Clydach, Abaty Nedd, Castell-nedd, ac Aaron Jones sydd wedi ennill gwobrau, goruchwyliwr sifftiau ym Mhenycae Inn, Penycae, y Ffair Prentisiaethau yn Neuadd y Senedd yng Nghaerdydd.
Fe wnaethant helpu i reoli stondin eu darparwr prentisiaethau, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn y digwyddiad.
Ymunodd darparwyr dysgu seiliedig ar waith a cholegau â phrentisiaid a chyflogwyr i ddathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru – 9-15 Chwefror – yn y digwyddiad, a drefnwyd ar y cyd am yr ail dro gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Cholegau Cymru.
Noddwyd y ffair ar y cyd gan gyd-gadeiryddion Grŵp Trawsbleidiol y Senedd, Luke Fletcher AS a Joyce Watson AS, a chynigiodd y ffair gyfle i ymwelwyr rhoi cynnig ar dasgau ymarferol go iawn, sy’n adlewyrchu’r ystod eang o lwybrau prentisiaeth sydd ar gael ledled Cymru.
“Cafwyd diwrnod gwych gan bawb yn y Ffair Brentisiaethau yn y Senedd, lle daeth darparwyr prentisiaethau o bob cwr o Gymru ynghyd â phrentisiaid a chyflogwyr i arddangos y gorau o’r hyn a wnawn,” meddai Faith O’Brien, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
“Gwnaeth ein dau brentis rhagorol, Aaron Jones ac Oliver Addis-Fuller, argraff ar bawb gyda’u sgiliau blaen y tŷ eithriadol a’u moctels nodweddiadol, wedi’u gwneud gan ddefnyddio gwirod botanegol di-alcohol Cygnet Infinity Katherine Jenkins.
“Ni allwn fod yn fwy balch o gamu’n ôl a’u gwylio’n disgleirio, nid yn unig gan ddangos eu sgiliau ymarferol ond hefyd siarad yn hyderus ag Aelodau o’r Senedd am eu taith brentisiaeth. Am ddigwyddiad gwych i ddathlu dyfodol talent yng Nghymru!”
Gan adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad y llynedd, roedd sgiliau ymarferol, technolegau, a diwydiannau i’w gweld yn y ffair trwy arddangosfeydd a stondinau rhyngweithiol, gan dynnu sylw at effaith drawsnewidiol dysgu galwedigaethol.
Cafodd prentisiaid a fynychodd y cyfle i gwrdd ag Aelodau o’r Senedd a rhannu eu profiadau wrth i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith, colegau, a chyflogwyr amlinellu’r gefnogaeth barhaus sydd ei hangen i gyflwyno rhaglenni prentisiaethau yn llwyddiannus.
Anogodd Oliver Aelodau o’r Senedd ac ymwelwyr eraill i roi cynnig ar wneud moctels ac arddangosodd ‘Cygnet Swan’ sy’n cynnwys y jin di-alcohol newydd, Cygnet Infinity.
Chwaraeodd ran allweddol wrth drefnu gwaith blaen y tŷ yn nigwyddiad ‘Cygnet Gin Influencer Pairing Menu’ y seren o Gymru Katherine Jenkins, OBE, a gynhaliwyd yn Nistyllfa Penderyn Copperworks yn Abertawe fis Tachwedd diwethaf.
Tad Oliver, Andrew, oedd yn creu’r pryd pum cwrs ar gyfer y digwyddiad llawn enwau blaenllaw. Yn ogystal â bod yn swyddog hyfforddi lletygarwch gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, mae Andrew hefyd yn rhedeg Fuller Flavour Consultancy.
Gan weithio tuag at Brentisiaeth mewn Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch, mae Oliver hefyd wedi trefnu gwaith blaen y tŷ ar gyfer Bwyty’r Loft yng Ngwesty Glyn Clydach, lleoliad digwyddiadau a phriodasau newydd.

Prentis Hyfforddiant Cambrian Aaron Jones gyda’r Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru.
Siarad â chynulleidfaoedd am ei daith brentisiaeth ysbrydoledig yw un o brif nodweddion Aaron. Siaradodd yng nghynhadledd rhwydweithio NTfW yng Nghaerdydd y llynedd ac fe’i gwahoddir i siarad mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau.
Wedi cael diagnosis o awtistiaeth yn blentyn, mae Aaron wedi cwblhau ei Brentisiaeth City & Guilds mewn Goruchwylio ac Arwain lletygarwch yn ddiweddar.
Wedi’i annog gan ei gyflogwr, Anthony Christopher, perchennog Penycae Inn, cofleidiodd Aaron ei niwroamrywiaeth a cheisiodd leoliadau profiad gwaith a chyfleoedd gwaith sydd wedi datblygu ei sgiliau a’i wybodaeth.
Yn weinydd poblogaidd sy’n rhagori ar ddyletswyddau blaen y tŷ, enillodd Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig i Brentis Cwmni Hyfforddiant Cambrian y llynedd a chymerodd rhan yn ymgyrchoedd fideo corfforaethol a chyfryngau cymdeithasol pen-blwydd y cwmni yn 30 oed.
More News Articles
« Ffair Prentisiaethau yn dychwelyd i’r Senedd ar gyfer Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026 —

