Prentisiaethau ar gyfer Cyfnod Newydd – Sgwrs gydag Agored Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Prentisiaethau a’u lle wrth lunio sgiliau ar gyfer cyfnod newydd yw thema cynhadledd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru 2026.

Cyn y gynhadledd yng Nghaerdydd, bu Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW, yn siarad â Darren Howells, prif weithredwr noddwr pennaf y gynhadledd, Agored Cymru – corff dyfarnu sy’n datblygu ac yn cynnig cymwysterau galwedigaethol mewn nifer o sectorau.

Sgwrs gydag Agored Cymru

Mae Lisa a Darren yn trafod cymwysterau newydd ym maes bancio a chyllid a’r galw cynyddol am gymwysterau mewn sgiliau digidol ar gyfer busnes a sgiliau gwyrdd, yn ogystal â’r cynnydd yn y defnydd o AI wrth ddatblygu asesiadau a chymwysterau.

Maent hefyd yn trafod effaith yr etholiad i’r Senedd a gynhelir yn fuan, gan ddweud bod angen sefydlogrwydd er mwyn datblygu ac adolygu cymwysterau a phrentisiaethau presennol.

Ers 2021 mae dros 100,000 o bobl wedi dilyn prentisiaethau yng Nghymru, ac mae Lisa a Darren yn trafod sut y byddai cysondeb o ran cyllido yn sicrhau bod y ffigwr hwn yn “sylfaen ar gyfer twf uchelgeisiol”.

Agored Cymru

Yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —