Y Cyntaf yng Nghymru i Lansio Profiad Rhithwir o Drin Gwallt
ISA Training yw’r darparwr prentisiaethau cyntaf yng Nghymru i gynnig hyfforddiant rhithwir (VR).
Bydd yr hyfforddiant yn gwella profiad prentisiaid trin gwallt o ddysgu a chael eu dysgu. Disgwylir i’r hyfforddiant gael ei lansio ym mis Awst 2023, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Ragoriaeth mewn Technolegau Symudol a Datblygol (CEMET), a bydd VR ar gael i’r dysgwyr yn y salon. Byddant yn dysgu mewn amgylchedd cynaliadwy a di-risg.
Yma mae Rheolwr Datblygu’r Cwricwlwm, Deborah Birkett, yn trafod manteision gweithio gyda thechnolegau datblygol mewn addysg.
Sut ffurfiwyd y bartneriaeth gyda CEMET?
Ein Swyddog Datblygu Digidol, Daniel Sims, oedd yn arwain yr ymchwil i’r dechnoleg ddatblygol.
Gwelodd fod Prifysgol De Cymru yn cydweithio â CEMET i gefnogi BBaChau yng Nghymru.
O Realiti Rhithwir (VR) i Ddeallusrwydd Artiffisial, mae CEMET yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i greu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol i helpu busnesau a sefydliadau i dyfu.
Cynigiwyd sawl senario cyn penderfynu dewis gwaith lliwio gwallt. Y teimlad oedd bod hwn yn waith risg uchel ac y byddai’n berffaith ar gyfer datblygu meddalwedd i’w wneud yn ddi-risg.
Bu datblygwyr CEMET yn cydweithio â ni i gytuno ar ganlyniadau oedd o fewn cyrraedd. Rhoddwyd prawf ar fersiynau wedi’u diweddaru o’r adnodd VR i sicrhau ei fod yn bodloni ein hamcanion.
Pryd gaiff VR ei ddefnyddio i hyfforddi mewn salonau?
Bydd yr adnodd VR yn cael ei lansio ym mis Awst 2023, ar ôl cyfnod o hyfforddi staff. Caiff ei gynnig i bob prentis trin gwallt sy’n cofrestru gyda ni yn ystod y chwe mis nesaf a’r tu hwnt.
Gall dysgwyr roi cynnig, yn ddiogel, ar liwio gwallt a gwneud camgymeriadau mewn amgylchedd cynaliadwy, di-risg. Trwy ddefnyddio VR, bydd dysgwyr yn dysgu heb niweidio gwallt cleient na gwastraffu cynhyrchion cemegol.
Mae’r adnodd newydd yn ennyn diddordeb ein dysgwyr ac yn gwella’u sgiliau digidol, gan ddefnyddio senario rhyngweithiol, hwyliog. ISA Training, rhan o’r Educ8 Training Group, yw’r cyntaf o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith Cymru i gynnig y profiad hwn.
Beth yw manteision defnyddio VR yn y salon?
Mae VR yn cynnig amgylchedd dysgu cynaliadwy a di-risg. Mae’n ennyn ac yn ysbrydoli chwilfrydedd dysgwyr i ddefnyddio technoleg ddatblygol, gan gynnig profiad unigryw a phwrpasol.
Mae llai o wastraff i gyflogwyr, ac mae cost prynu lliwiau gwallt a deunyddiau lliwio yn llai. Does dim risg i wallt y cleient a does dim angen dod o hyd i fodelau i ymarfer y technegau hyn arnynt.
Pam y dylid gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg mewn addysg?
Mae’r gwahaniaeth rhwng cenedlaethau’n golygu bod ein dysgwyr yn disgwyl y bydd technoleg yn cael ei defnyddio yn eu rhaglen ddysgu. Mae’n cyd-fynd â strategaeth ddigidol 2030 i adeiladu ar gymwyseddau digidol a ddatblygwyd mewn addysg orfodol.
Mae defnyddio technoleg yn rhoi cyfle i gyfoethogi’r profiad addysgu a dysgu yn ein rhaglen brentisiaethau ac ymwneud â dysgwyr ar hyd eu taith dysgu gydol oes.
Astudiwch ar gyfer prentisiaeth mewn trin gwallt a byddwch yn un o’r cyntaf yng Nghymru i gael profiad o VR yn y salon.
ISA Training yw’r unig ddarparwr hyfforddiant yng Nghymru sy’n arbenigo’n benodol mewn trin gwallt, gwaith barbwr a harddwch, ac mae ein staff yn arbenigwyr sydd wedi bod yn weithwyr, rheolwyr a pherchnogion salonau. Rydym yn deall y busnes, ei anghenion, a sut mae llwyddo yn eich gyrfa yn y diwydiant gwallt a harddwch. Rydym ni yma i helpu’r cyflogwyr a’r dysgwyr rydym yn gweithio gyda nhw i Ysbrydoli, Llwyddo a Syfrdanu.
Mae CEMET yn cefnogi busnesau trwy roi cyfle i gymryd rhan mewn Ymchwil a Datblygu a ariennir. Bydd CEMET yn cydweithio â chi, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i greu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol ar gyfer eich busnes gan helpu i siapio’r dyfodol.
More News Articles
« Gwerth y Gymraeg a dysgu: Stori Dewi — Mae’n bryd gwneud gweithredu hinsawdd yn swyddogol: Cyflwyno cymwysterau gwyrdd ar gyfer eich busnes »


