Gwobr Cyflawniad Oes am hyrwyddwr sgiliau, lletygarwch a bwyd Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Arwyn holding his award with Faith by his side.

Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian Faith O’Brien yn cyflwyno’r Wobr Cyflawniad Oes i Arwyn Watkins, OBE.

Mae dyn sy’n cael ei ganmol am gael “effaith trawsnewidiol” ar ddatblygu sgiliau, lletygarwch a’r sectorau bwyd a diod yng Nghymru wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr Cyflawniad Oes.

Cyflwynwyd y wobr i Arwyn Watkins, OBE, gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, un o brif ddarparwyr prentisiaethau’r wlad. Cynhaliwyd y seremoni cyflwyno yng Ngwobrau Prentisiaethau, Cyflogwyr a Sgiliau blynyddol y cwmni yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod.

Arweiniodd Mr Watkins y rheolwyr i brynu’r cwmni ym 1995. Fel rheolwr gyfarwyddwr a chadeirydd gweithredol, tyfodd y busnes i fod yn un o ddarparwyr hyfforddiant uchaf ei barch yng Nghymru, sy’n adnabyddus am ragoriaeth, arloesedd a chynhwysiant.

Y llynedd, arweiniodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian i gyfnod newydd fel Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr ar ben-blwydd y cwmni yn 30 oed ac mae bellach yn gynghorydd goruchwylio gweithredol i Grŵp Cwmnïau CHC. Mae’n dod a’i gyflogaeth gyda’r cwmni i ben ddiwedd mis Gorffennaf.

Mae’n datblygu i fod yn flwyddyn gofiadwy iddo. Fel llywydd Cymdeithas Goginiol Cymru (CAW), ef oedd y cogydd cyntaf o Gymru i ennill Aelodaeth Anrhydeddus am Oes WorldChefs yng Nghyngres ac Expo 2026, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Wales) mis diwethaf.

Arweiniodd Mr Watkins, sy’n byw yn Llanfair Caereinion, ger y Trallwng, y tîm a sicrhaodd y gyngres i Gymru, digwyddiad coginiol mwyaf y byd. Dyma’r tro cyntaf i’r digwyddiad cael ei gynnal yn y DU yn ei hanes 98 mlynedd.

“Mae’r wobr hon yn gydnabod nid yn unig gyflawniad, ond oes o ddylanwad, arwain, gwasanaeth ac effaith,” meddai Faith O’Brien, a olynodd Arwyn fel rheolwr gyfarwyddwr.

“Heno, rydym yn anrhydeddu unigolyn y mae ei effaith ar ddatblygu sgiliau, lletygarwch a’r sectorau bwyd a diod yng Nghymru wedi bod yn gwbl drawsnewidiol. Mae gyrfa Arwyn wedi’i diffinio gan weledigaeth, ymroddiad, a chred ddiwyro ym mhotensial pobl.

“Yn arweinydd, mentor, hyrwyddwr prentisiaid, eiriolwr balch dros fwyd o Gymru ac yn was ymroddedig i’w gymuned, mae ei etifeddiaeth yn rhan annatod o hyfforddiant a lletygarwch Cymru a bydd ei ddylanwad yn parhau i lunio cenedlaethau’r dyfodol am flynyddoedd lawer i ddod.”

Talodd teyrnged i’w gyfraniad i’r sector dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru, trwy wasanaethu fel prif weithredwr ac yna’n gadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru rhwng 2008 a 2014.

Gweithiodd Mr Watkins yn agos gyda Llywodraeth Cymru a darparwyr hyfforddiant i lunio polisi cenedlaethol a chryfhau cyfleoedd i ddysgwyr a gwasanaethodd fel aelod o fwrdd Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer Gorllewin a Chanolbarth Cymru.

“I Arwyn, nid yw prentisiaethau erioed wedi bod yn gymwysterau yn unig,” ychwanegodd Faith. “Maen nhw’n gyfleoedd sy’n newid bywydau – llwybrau sy’n agor drysau, adeiladu hyder a chryfhau cymunedau. Mae ei gred mewn meithrin talent ar bob lefel wedi helpu miloedd o unigolion i gymryd eu camau cyntaf i yrfaoedd ystyrlon.”

Wrth ymateb, dywedodd Mr Watkins: “Pan fyddwch chi’n clywed rhywun yn siarad am eich bywyd fel ‘na, mae’n hynod emosiynol. Rwy’n falch o bopeth rydw i wedi’i gyflawni yn fy mywyd hyd yma, ond ni fyddai unrhyw beth wedi bod yn bosibl heb waith tîm.

“Mae’r cyfan wedi’i gyflawni trwy ddechrau fel prentis. Mae’n anrhydedd mawr i mi dderbyn y wobr hon ac rwy’n diolch i’r holl gydweithwyr yr wyf wedi gweithio gyda nhw yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian dros y 27 mlynedd diwethaf.”

Datgelodd fod sylw diystyriol gan athro pan oedd yn gadael yr ysgol wedi’i ysbrydoli. Wrth glywed bod Mr Watkins wedi dewis gyrfa fel cogydd, atebodd yr athro: “You will be alright doing that because it doesn’t require any brains!”

Ym mhob arddangosiad coginio mae y mae wedi’i roi, mae’n sicrhau bod ganddo gan o gwrw Brains fel cyfeiriad at y sylw.

“Rydw i mor hapus fy mod wedi dychwelyd i Gymru i reoli Cwmni Hyfforddiant Cambrian ac wedi gallu cyflawni fy uchelgeisiau,” ychwanegodd. “Rwy’n gobeithio fy mod hefyd wedi helpu i gyflawni uchelgeisiau pobl rydw i wedi ymgysylltu â nhw.”

Derbyniodd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2018 am ei gyfraniad eithriadol i sgiliau, lletygarwch ac economi Cymru.

Yn fab i ffermwr o Lanwrtyd, gadawodd Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-muallt i ymuno â’r Fyddin fel prentis cogydd ac mae wedi hyrwyddo bwyd o Gymru a sgiliau coginio trwy gydol ei fywyd.

Bu’n hyfforddi Tîm Coginio Iau Cymru i ennill medal aur yn yr Olympaidd Coginio yn 2004 ac mae wedi bod yn llywydd Cymdeithas Goginiol Cymru ers 2015.

O dan ei lywyddiaeth, cynhaliodd Cymru Gynhadledd Llywyddion Ewropeaidd WorldChefs yn 2017 wedi’i dilyn gan Gyngres ac Expo 2026, a fynychwyd gan fwy na 800 o gogyddion gorau o bob cwr o’r byd.

Hyfforddiant Cambrian

Yn ôl i’r brig

More News Articles

  —