Mam a’i merch yn graddio gyda’i gilydd mewn seremoni prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Kelly and Sinead, standing together wearing their cap and gown.

Kelly a Sinead Davies yn y seremoni raddio.

Mae mam a’i march sy’n gweithio a dysgu gyda’i gilydd mewn tafarn a bwyty teuluol ger Abertawe wedi graddio ar ôl cwblhau eu prentisiaethau rheoli.

Roedd Kelly Davies, 42, a’i merch Sinead, 21, rheolwr a rheolwr cynorthwyol, yn y drefn honno, o’r Farmers Arms, Waunarlwydd, yn gallu cefnogi ei gilydd wrth weithio tuag at eu cymwysterau Lefel 3.

Darparwyd y prentisiaethau gan Inspiro, partner i Gwmni Hyfforddiant Cambrian, darparwr dysgu seiliedig ar waith annibynnol blaenllaw i’r diwydiannau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru.

Mae gan y Farmers Arms, sy’n arbenigo mewn bwyd cartref, dîm o 15 staff llawn amser a rhan amser sy’n cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth trwy brentisiaethau.

“Yn 42 oed, doeddwn i erioed wedi disgwyl graddio ochr yn ochr â fy merch hynaf sy’n hanner fy oed,” meddai Kelly, sydd wedi symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli. “Mae’n gyflawniad gwych ac eiliad balch o’m taith dysgu hyd yn hyn.

“Pan ddechreuais y brentisiaeth, doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n gallu ei wneud wrth reoli’r dafarn a bod yn rhiant i bump o blant, ond rydw i wedi mwynhau dysgu cymaint.”

Mae Kelly wedi gweithio yn y dafarn ers 11 mlynedd a chafodd ei dyrchafu i reolwr tair blynedd yn ôl, a oedd yn ei hannog i chwilio am y sgiliau a’r cymwysterau i gefnogi’r rôl newydd.
“Mae’r prentisiaethau wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i mi sicrhau bod y dafarn yn cael ei rheoli’n broffesiynol,” esboniodd. “Rydw i wedi rhoi ar waith popeth rydw i wedi’i ddysgu er budd y dafarn a’r staff.”

Roedd hi’n arbennig o falch o fod wedi ennill cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn mathemateg, Saesneg a llythrennedd digidol fel rhan o’r prentisiaethau, gyda chefnogaeth Sinead.

“Mae prentisiaeth yn un o’r pethau gorau y gallwch chi ei wneud, ni waeth eich oedran neu eich swydd,” ychwanegodd Kelly. “Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai’n bosibl gan rywun fy oed ond mae’n 100% yn werth chweil, yn enwedig os nad ydych chi wedi mynychu’r coleg neu’r brifysgol.

“Rwy’n dysgu cymaint mwy nawr nag y gwnes i yn yr ysgol ac rwy’n mynd i barhau oherwydd mae’r dafarn yn elwa cymaint o’r hyn rydw i’n ei ddysgu.”

Gadawodd Sinead, a oedd yn wreiddiol yn breuddwydio am ddod yn fydwraig, y brifysgol i ddod o hyd i swydd llawn amser gyda’i mam ac mae hi’n difaru dim.

“Yn ystod y brentisiaeth, dysgais fod llawer mwy i’m rôl nag yr oeddwn i’n meddwl,” meddai. “Roeddwn i’n fwyaf balch o ddysgu ochr yn ochr â fy mam sydd wedi bod yn gefnogol trwy’r broses.

“Rydw i wedi cymryd seibiant o ddysgu ond rwy’n bwriadu dechrau Lefel 4 ym mis Awst i’m helpu datblygu fy ngyrfa.”

Dywedodd Marika Dunphy, aseswr Inpsiro: “Nid wyf erioed wedi gweld dysgwr mor benderfynol a threfnus â Kelly. Mae hi’n cymhwyso popeth y mae’n ei ddysgu i’r dafarn ac yn gofalu am ei staff sy’n ei thrin fel mam.

“Mae Sinead yn hunanfeddiannol, yn drefnus, yn wybodus, ac mae pob amser yn gwneud llawer o ymchwil cyn cwblhau ei gwaith cwrs. Mae hi a’i mam yn gweithio gyda’i gilydd yn dda iawn fel tîm ac yn gwybod y gallent ddibynnu ar ei gilydd.”
Roedd Kelly a Sinead ymhlith mwy na 100 o raddedigion a fynychodd seremoni raddio prentisiaeth chwe-misol Cwmni Hyfforddiant Cambrian. Cynhaliwyd y digwyddiad ar Faes Sioe Frenhinol, Llanelwedd.

Hyfforddiant Cambrian

Yn ôl i’r brig

More News Articles

  —