Gradu8 2025: Grŵp Educ8 yn dathlu cyflawniad eu dysgwyr

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Learners outside the venue throwing their caps in the air.

Dysgwyr sy’n graddio yn dathlu eu llwyddiannau.

Ddydd Iau yr 18fed o Fedi cynhaliwyd digwyddiad graddio blynyddol Grŵp Educ8 (Gradu8) yng Ngwinllan Llanerch. Roedd yn ddathliad blaenllaw o gyflawniadau dysgwyr Educ8 Group, a phŵer trawsnewidiol prentisiaethau a ariennir yn llawn yng Nghymru.

Dangosodd y dysgwyr oedd yn graddio eleni, a gwblhaodd eu cymwysterau achrededig ar draws amrywiaeth eang o lwybrau pwnc, ymroddiad a gwytnwch rhyfeddol – gan gydbwyso gwaith, astudiaethau ac ymrwymiadau personol i gyrraedd y garreg filltir hon. Mae eu penderfyniad a’u talent wrth wraidd yr hyn y mae Gradu8 yn ei gynrychioli, ac mae’r tîm yn Educ8 Group yn falch o bob unigolyn a raddiodd ar y diwrnod.

Roedd y diwrnod hefyd yn cydnabod bod yna gyflogwr y tu ôl i daith pob dysgwr, sy’n eu cefnogi a’u hannog. Mae eu hymrwymiad i’w staff a’u hanogaeth yn chwarae rhan hanfodol wrth fagu sgiliau, creu cyfleoedd, a sicrhau bod prentisiaethau yn parhau i ffynnu. Mae’r partneriaethau hyn yn ganolog i bob stori lwyddiant a ddathlwyd yn Gradu8.

Gwnaed y digwyddiad yn bosibl diolch i haelioni ITCS UK, ein prif noddwr am yr ail flwyddyn yn olynol, ochr yn ochr â’n noddwyr cefnogol, Agored Cymru ac RMS – Retail Merchandising Services. Helpodd eu hymrwymiad i greu diwrnod bythgofiadwy o gydnabyddiaeth ac ysbrydoliaeth i’r graddedigion.

Ysbrydolodd geiriau ysgogol gan y siaradwyr Lisa Hicks o SNOAP, Brian Stokes o ITCS UK, a Lisa Mytton o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) y dysgwyr a’r gwesteion fel ei gilydd. Ychwanegodd ymweliad arbennig gan Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, at arwyddocâd y diwrnod wrth iddo ymuno i ddathlu cyflawniadau dysgwyr.

Jack Sargeant MS, Minister for Culture, Skills and Social Partnership with some of the learners.

Jack Sargeant MS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol gyda rhai o’r dysgwyr sy’n graddio.

Crynhodd Jude Holloway, Rheolwr Gyfarwyddwr Educ8 Training, yn berffaith:
‘Mae Gradu8 yn fwy na seremoni, mae’n ddathliad o uchelgais, gwytnwch, a’r cyfleoedd y mae prentisiaethau yn eu creu. Mae’n dangos yr effaith trawsnewidiol y maent yn gallu cael nid yn unig ar unigolion, ond ar deuluoedd, busnesau a chymunedau. Rydym yn hynod falch o’n dysgwyr ac yn ddiolchgar i’r cyflogwyr sy’n eu cefnogi. Mae eu cyflawniadau yn brawf o’r hyn sy’n bosibl pan fydd talent yn cael ei feithrin ac uchelgais yn cael ei annog.’

Roedd Gradu8 2025 yn ddiwrnod llawn balchder, ysbrydoliaeth a dathlu, ac mae Educ8 Group eisoes yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, gan barhau i hyrwyddo prentisiaethau a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr.

Educ8 Group

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —