Y Porth Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol Cyntaf yng Nghymru
Ym mis Ionawr 2025, lansiodd Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru wefan o’r enw Portal Sgiliau Gogledd Cymru – y porth rhanbarthol ar-lein cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Mae’r porth yn galluogi unigolion i chwilio am swyddi a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau, ochr yn ochr â chefnogaeth hyfforddi a datblygu sgiliau i gyflogwyr ledled y gogledd.
Mae Rheolwr Prosiect Portal, Rees Brown, yn egluro pam y cafodd y Portal Sgiliau ei greu: “Trwy ymchwil marchnad ac ymgysylltu efo cyflogwyr, mi wnaethon ni ddysgu fod pobl yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i gyfleoedd am swyddi yn lleol. Roedd 70% o gyflogwyr yn wynebu heriau o ran sgiliau, ac roedd cynnydd yn nifer y bobl oedd ddim mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth.
“Dysgon ni hefyd fod 47% o gyflogwyr yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant, ac nad oedd bron i hanner pobl dan 24 oed yn teimlo eu bod yn barod ar gyfer y swydd neu’r cwrs yr oeddent am ei ddilyn.”
Mae gan y Portal ddwy brif adran – un ar gyfer unigolion i chwilio am swyddi, hyfforddiant a llwybrau gyrfa; a’r llall wedi’i theilwra i gyflogwyr, sy’n cynnwys gwybodaeth am gymorth lleol i’w helpu i ddatblygu ac ehangu eu busnesau, ac i recriwtio ac atgyfnerthu sgiliau staff.
Wedi ei ddatblygu dros 12 mis mewn partneriaeth â chwmni datblygu gwe lleol, roedd pwyslais cryf ar gydweithio yn ystod y cyfnod datblygu.
Ychwanegodd Rees: “Yn ystod y cyfnod datblygu, mi wnaethon ni drafod gydag ystod eang o randdeiliaid – gan gynnwys cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, colegau a phrifysgolion – i sicrhau bod y porth yn ateb anghenion y gwahanol ddefnyddwyr.
“Cawsom adborth hefyd gan dros 150 o bobl ifanc, oedd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y Portal yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn darparu’r lefel gywir o wybodaeth.
“Roedden ni eisiau i’r system fod yn reddfol ac yn berthnasol – boed hynny ar gyfer myfyriwr yn edrych am opsiynau gyrfa, busnes yn chwilio am bartneriaeth hyfforddi, neu fuddsoddwr posibl yn chwilio am wybodaeth leol.”
Fe weithiodd y tîm yn agos hefyd gyda rhanddeiliaid i fireinio’r dyluniad, y brandio a thaith y defnyddiwr.
Dywedodd Rees: “Mae Portal Sgiliau Gogledd Cymru yn brawf o’r hyn sy’n bosibl pan fydd partneriaid rhanbarthol yn cydweithio. Mae wedi’i adeiladu ar sail blaenoriaethau a gwybodaeth leol, ac ymrwymiad i wneud sgiliau a chyflogaeth yn fwy hygyrch i bawb.”
Ers ei lansio, mae miloedd o ddefnyddwyr wedi ymweld â Portal Sgiliau Gogledd Cymru, ac mae wedi hyrwyddo cannoedd o gyfleoedd a digwyddiadau lleol. Mae’r platfform yn parhau i dyfu ac esblygu, gan ymateb i anghenion unigolion a chyflogwyr ar draws y rhanbarth ac yn eu helpu i lywio ecosystem sgiliau’r gogledd.
Un o’r defnyddwyr yw Gary Williams, Rheolwr Dysgu a Datblygu gyda chymdeithas dai Adra. Dywedodd: “Mae gweithio gyda Portal Sgiliau Gogledd Cymru wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn i ni yn Adra. Mae wedi ein helpu i ddod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant a mentrau lleol sydd o fudd i’n sefydliad. Beth sydd wedi bod yn arbennig o werthfawr ydy gweld enghreifftiau go iawn o sut mae cyflogwyr eraill yn y rhanbarth yn mynd i’r afael â heriau tebyg – mae hynny wedi rhoi syniadau a hyder i ni roi cynnig ar ddulliau newydd. Mae’r pwyslais lleol a symlrwydd y porth yn ei wneud yn adnodd defnyddiol iawn i’n tîm dysgu a datblygu.”
“Mae’r pwyslais lleol a symlrwydd y Portal yn ei wneud yn adnodd defnyddiol iawn i’n tîm dysgu a datblygu. Beth sydd wedi bod yn arbennig o werthfawr ydy gweld enghreifftiau o sut mae cyflogwyr eraill yn y rhanbarth yn mynd i’r afael â heriau tebyg – mae hynny wedi rhoi hyder i ni roi cynnig ar bethau newydd.”
Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru
More News Articles
« Peilot Cyswllt Gyrfa yn cysylltu dysgwyr Canolbarth Cymru â chyflogwyr lleol — PSPRC yn Lansio Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau wedi’i Adnewyddu gyda Mewnwelediadau Cyflogwyr ac Ieuenctid wrth ei Wraidd »


