Darparwyr hyfforddiant o Gymru’n croesawu rhaglen gyflogadwyedd y Tour de France
English | Cymraeg

Cyflenwyd y llun gan swpix.com
Cafodd rhaglen gyflogadwyedd sy’n gysylltiedig â ras enwog y Tour de France sy’n dod i Gymru yn haf 2027 groeso cynnes gan sefydliad sy’n cynrychioli darparwyr hyfforddiant y wlad.
Dywed Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) ei fod yn awyddus iawn i gydweithio â British Cycling a fydd yn cyflwyno’r rhaglen Parodrwydd i Weithio (Readiness to Work).
Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i 300 o bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed i gael profiad gwaith trwy wirfoddoli yn Grands Départs y Tour de France a’r Tour de France Femmes avec Zwift ym Mhrydain yn 2027.
Bydd Cymal Tri o Tour de France 2027 yn cychwyn yn y Trallwng ac yn gorffen yng Nghaerdydd ddydd Sul, 4 Gorffennaf. Ni fydd y Tour de France Femmes avec Zwift yn ymweld â Chymru.
Caiff y rhaglen Parodrwydd i Weithio ei lansio mewn cyfnod pan fo miliwn o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn ôl adroddiadau gan Lywodraeth y DU. Nodir bod 45% o bobl 24 oed heb gael swydd erioed, er bod 80% yn dymuno gweithio.
Yng Nghymru, roedd y gyfradd NEET yn 17% ar ddiwedd 2025, 5.5% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.
Bydd y rhaglen Parodrwydd i Weithio yn golygu bod 300 o bobl ifanc, sy’n gwneud cais i fod yn wirfoddolwyr JOY Maker, yn cael hyfforddiant mewn sgiliau cyflogadwyedd, yn cynnwys bod yn barod i ymgeisio am swyddi – CV a chyfweliadau – gwydnwch, addysg ariannol a brand personol.
Byddant yn cael eu mentora am dri mis hefyd gan weithiwr proffesiynol mewn sectorau fel chwaraeon a pherfformio, rheoli digwyddiadau, gwasanaethau proffesiynol, a marchnata a chyfathrebu.
Mae fideo, sy’n dangos prif weithredwr British Cycling, Jon Dutton OBE, a gwirfoddolwyr ifanc yn trafod y rhaglen Parodrwydd i Weithio, ar gael i’w wylio yn youtube.com/watch?v=m1i0cL71as8.
“Rydyn ni am fynd i’r afael â nifer o heriau cyflogadwyedd,” meddai Mr Dutton. “Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i bobl ifanc fwynhau digwyddiad chwaraeon enfawr, ond hefyd i feithrin hyder a gwydnwch, a datblygu sgiliau a fydd yn eu helpu i gael gwaith.”
Dywedodd cyfarwyddwr strategol NTFW, Lisa Mytton: “Mae rhaglen gyflogadwyedd Parodrwydd i Weithio yn syniad gwych. Mae NTFW yn barod iawn i gydweithio â British Cycling ym mha ffordd bynnag y gall i roi cyfleoedd i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) ledled Cymru.
“Mae NTFW yn pwyso ar Lywodraeth newydd Cymru i roi blaenoriaeth i ostwng y gyfradd NEET ymhlith pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru. Mae ein haelodau wedi ymrwymo i wneud eu gorau glas i fynd i’r afael â’r mater difrifol hwn trwy helpu pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i gael gwaith a datblygu gyrfa.”
Os hoffech wybod mwy am y rhaglen, ewch i’r wefan: letourgb.com/readiness-to-work. Caiff unrhyw un dros 16 oed gofrestru nawr i fod yn wirfoddolwr JOY Maker yn letourgb.com/volunteer.
Mae Parodrwydd i Weithio yn rhan o raglen JOY gan British Cycling ar gyfer Grand Départ GB, a’r nod yw cael effaith gymdeithasol gadarnhaol ar gefn y beic ac oddi arno.
Dyma’r rhaglenni eraill: cyfranogiad merched; grym meddal, masnach a diplomyddiaeth; y celfyddydau a diwylliant; ysgolion digidol a phecyn cymorth ymgysylltu cymunedol.
More News Articles
« Gwobr Cyflawniad Oes am hyrwyddwr sgiliau, lletygarwch a bwyd Cymru —


