Pum Tim O Gymru’n Cyraedd Rownd Derfyol Her Arian Am Oes

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae dysgu sut i drin eich arian yn her i bawb ond mae pum tîm o bobl ifanc wedi dangos dealltwriaeth arbennig o’r maes.

Cafodd y timau eu dewis o blith 40 o dimau i gymryd rhan yn rownd derfynol Gymreig Her Arian am Oes yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 4 Ebrill. Yno, byddant yn cyflwyno’u prosiectau rheoli arian i banel o feirniaid amlwg. Mae 110 o dimau wedi ymgeisio ledled y Deyrnas Unedig.

Bydd y tîm buddugol yn mynd trwodd i Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig yn Llundain ar 23 Mai. Yno, cânt gyfle i ennill £2,500 i elusen o’u dewis nhw, gwerth £100 o Fondiau Bonws i bob aelod a mentor o’r Lloyds Banking Group am flwyddyn.

Y pum tîm sydd yn rownd derfynol Cymru yw: Debtly Matters o Goleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd; Budget Brainstormers o Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin; Don’t Buy Posh – Save Your Dosh a Drive Well Spend Less o ACT Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd, yn y drefn honno, ac Every Penny Counts o Ganolfan A4e Port Talbot.

Dyma’r syniadau dyfeisgar a gafodd y timau: gwefan i helpu pobl i arbed arian, cyngor ar sut i arbed arian yn rhedeg car, defnyddio drama a gweithdy i gyflwyno sgiliau rheoli arian i bobl ifanc a sut y gallwch dorri costau siopa trwy brynu brandiau’r siopau eu hunain.

Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i’r ffyrdd mwyaf dyfeisgar a llwyddiannus o wella sgiliau rheoli arian pobl ifanc, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau. Roedd y timau’n cael gwneud cais am grantiau bach i redeg gwahanol weithgareddau rheoli arian.

Mae aelodau’r timau rhwng 16 a 24 oed ac mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith neu ddysgu cymunedol i oedolion.

Mae Her Arian am Oes yn rhan o raglen Arian am Oes sy’n bartneriaeth unigryw rhwng Lloyds Banking Group a phartneriaid yn y sector addysg bellach yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Meddai Sarah Porretta, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Mae Her Arian am Oes wedi bod yn llwyddiant mawr eleni, gyda llu o dimau’n cyflwyno prosiectau amrywiol a chyffrous. Mae gwreiddioldeb, creadigrwydd a brwdfrydedd y timau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig wedi creu argraff fawr arnaf. Roedd yn dasg anodd iawn i’r beirniaid orfod penderfynu pwy fyddai’n cyrraedd Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig.

“Mae’r Her yn canolbwyntio ar ddangos i bobl ifanc sut orau i reoli eu harian, eu helpu i sylweddoli beth yw eu anghenion o ddydd i ddydd a’u nodau mewn bywyd, a rhoi cyfle iddynt feithrin y sgiliau hyn a’u rhoi ar waith.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r timau i’r rowndiau terfynol cenedlaethol, gan weithio tuag at Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig ar 23 Mai.”

Y rhai a gyrhaeddodd y Rownd Derfynol

Tîm o fyfyrwyr y celfyddydau perfformio yng Ngholeg Catholig Dewi Sant, Caerdydd yw Debtly Matters. Cawsant syniad gwreiddiol, sef defnyddio drama i helpu myfyrwyr y chweched isaf i reoli eu harian.

Yn yr hinsawdd economaidd presennol, mae llawer o fyfyrwyr yn gorfod ystyried yn ddwys a allant fforddio mynd i brifysgol. Dangosodd y tîm – Otis Lloyd, Rhiannon Nogan, Joe Todd, Garin Wilcock a Kate Chadwick – bod hynny’n bosibl trwy reoli eu harian yn ofalus.

Mae eu drama 20 munud yn dangos canlyniadau gwahanol agweddau at reoli arian ac effaith pwysau’r bobl o’u cwmpas ar y ffordd y mae myfyrwyr yn gwario’u harian.

Tîm o bobl ifanc o Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin yw Budget Brainstormers – Tomos Davies, Martin Dagnall, Thomas Dack, Jack Milsom a Gwion Davies. Maen nhw naill ai ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant neu mewn perygl o ddisgyn i’r categori hwn.

Maen nhw wedi rhoi hwb i’w gobeithion o gael gwaith trwy ddatblygu Canllaw Rheoli Arian a gweithdy sy’n canolbwyntio ar flaenoriaethau gwario. Gwnaethant gardiau i’w helpu i sylweddoli ar beth roedden nhw’n gwario gormod a pham nad oedd ganddyn nhw arian ar ôl ar ddiwedd yr wythnos.

Roedd staff ac ymddiriedolwyr Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin mor falch o gyflwyniad y grŵp nes eu bod yn awyddus i rannu’r gweithdy ar reoli arian yn dda gyda chanolfannau ieuenctid eraill ac ysgolion.

Cyngor i bobl ifanc ar sut i arbed arian oedd gan dîm Don’t Buy Posh – Save Your Dosh o ACT Training, Pen-y-bont ar Ogwr. Cawsant eu hysbrydoli gan y cynnydd ym mhris bwyd a’r ffaith fod llawer o bobl heb arian ar ôl ar ddiwedd yr wythnos i brynu pethau hanfodol. Dangosodd y tîm bod modd arbed arian trwy brynu brandiau y siopau eu hunain.

Penderfynodd y tîm – Paige Sparrow, Maria Williams, Ryan Gardner, Alex Mayhew, Shannon Mears a Natasha Badham – dargedu pobl ifanc eraill 16-18 oed yn eu canolfan hyfforddi nhw. Roedd nifer o’r rhain yn gwario llawer ar fwyd heb sylweddoli faint o arian y gallent ei arbed.

Targedwyd grŵp cymunedol lleol, Mental Health Matters, hefyd gan drefnu sesiynau profi i ddangos sut yr oedd brandiau’r siopau eu hunain gystal bob tamaid â brandiau enwog. Fe wnaethon nhw sefydlu ‘Value Café’ hefyd yn ystafell gyffredin ACT gan ddefnyddio bwydydd rhatach ar y fwydlen.

Y cynnydd yng nghost rhedeg car a ysbrydolodd dîm Drive Well Spend Less o ACT Training, Caerdydd i ddangos sut i arbed arian ar danwydd a chostau eraill trwy gymryd nifer o gamau syml.

Maent wedi paratoi gwefan – www.drivewellspendless.co.uk – i gynnig cyngor ymarferol ac wedi cyhoeddi taflenni i’w dosbarthu i ddysgwyr, prentisiaid ac ati.

Mae’r wefan yn dangos y ffordd orau i yrru er mwyn arbed arian ac mae’n rhoi cyngor am y tanwydd gorau i’w ddefnyddio. Erbyn hyn, mae’r tîm – Ali Moshin, Karim Abdo, Scott Griffiths, Greg Bolton, David Morgan ac Ashley Durham – yn awyddus i ddatblygu’r wefan trwy gynnwys elfen i gymharu costau rhannau a gwasanaethau yn ardal Caerdydd.

Mae tîm Every Penny Counts o Ganolfan A4e, Port Talbot – Sophie Jones, Emily Jeffreys, Stacey Stead, Charlotte Piles, Joedan Rees, Jordan Ricketts a Rebecca Andrew – wedi sefydlu gwefan i roi cyngor i bobl ifanc am reoli arian.

Penderfynwyd ffurfio’r wefan – www.everypennycounts.me.uk – ar ôl i grŵp o bobl ifanc 17 a 18 oed o ardal Port Talbot fod yn trafod manteision ac anfanteision cardiau debyd siopau penodol. Mae’n llawn cyngor defnyddiol i helpu pobl ifanc gadw allan o ddyled ac mae’n cynnwys cyfrifiannell ar lein sy’n dangos gwir gost cardiau siopau a smygu.

Mae ’na syniadau am sut i arbed arian wrth siopa, gwybodaeth am wahanol fathau o gyfrifon banc a geirfa’n esbonio geiriau o’r byd ariannol sy’n gallu bod yn gymhleth ac yn ddryslyd.

More News Articles

  —