Shirley am ymgyrchu ledled Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Shirley Davis-Fox

Mae aelod newydd o’r Cyngor Trin Gwallt yn bwriadu teithio Cymru o fis Ionawr ymlaen â’i hymgyrch i annog pobl trin gwallt cymwysedig i gael eu cofrestru gan y wladwriaeth.

Ar hyn o bryd, nid oes angen cymwysterau er mwyn agor salon trin gwallt ym Mhrydain. Ond mae Shirley Davis-Fox, Llysgennad Worldskills dros drin gwallt yng Nghymru, yn bwriadu pwyso ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd trwy ei gwneud yn orfodol i bobl trin gwallt gael eu cofrestru.

Mae’n dweud bod y cofrestru yn gam hanfodol ar y ffordd i gael cydnabyddiaeth a pharch i’r proffesiwn.

Bydd ei hymgyrch yn mynd â hi i Sir Benfro, Caerfyrddin, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent a Glynebwy. Bydd Mrs Davis-Fox hefyd yn mynd i ganolbarth a gogledd Cymru gan ymweld â salons a Sefydliadau Addysg Bellach i gasglu cefnogaeth i’w hymgyrch.

Mae Pwyllgor Llywio Gwallt a Harddwch Cymru Gyfan, o dan gadeiryddiaeth Mrs Davis-Fox, a Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru yn cefnogi’r ymgyrch i gofrestru pobl trin gwallt.

Mrs Davis-Fox yw’r unig gynrychiolydd o Gymru o blith 18 aelod y Cyngor Trin Gwallt ac mae’n bwriadu defnyddio’i safle i godi proffil a statws y diwydiant.

Hi yw rheolwr gyfarwyddwr ISA Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sef cwmni hyfforddi trin gwallt mwyaf Cymru. Mae’r cwmni’n talu am gofrestriad gwladol i’r holl ddysgwyr sy’n cwblhau eu prentisiaeth lefel tri am y flwyddyn gyntaf.

Yn awr, mae’n gobeithio y bydd colegau addysg bellach yn dilyn eu hesiampl ac yn helpu i gyrraedd y targed o sicrhau bod 75 y cant o brentisiaid lefel tri yng Nghymru wedi’u cofrestru gan y wladwriaeth erbyn 2013.

“Rydym yn annog ein dysgwyr i ddeall a derbyn pwysigrwydd cofrestriad gwladol fel ffordd o ddangos eu bod yn falch o berthyn i broffesiwn uchel ei barch,” meddai Mrs Davis-Fox.

“Cofrestriad gwladol yw’r unig ffordd o gael y cyhoedd a’r gwleidyddion i gydnabod a pharchu’r proffesiwn. Mae’n genhadaeth gennyf i wneud fy ngorau i newid delwedd y diwydiant cyffrous a phroffesiynol hwn.”

Yn ddiweddar, cafodd cynnig yn y Senedd gan David Morris AS sydd hefyd yn aelod o’r Cyngor Trin Gwallt, i wneud cofrestriad gwladol yn orfodol, ei drechu o ddim ond tair pleidlais.

Yn ôl Mrs Davis-Fox, roedd sylwadau a wnaed gan rai Aelodau Seneddol yn ystod y ddadl yn dangos nad oeddent o’r farn bod trin gwallt yn broffesiwn difrifol.

Fodd bynnag, pwysleisiodd bod trin gwallt yn cyfrannu £5 biliwn y flwyddyn i economi’r Deyrnas Unedig, yn cyflogi 245,000 o bobl, gyda 34,000 o salonau a 38.8 miliwn o gwsmeriaid.

“Mae disgwyl i bobl trin gwallt ddefnyddio cemegion a all fod yn beryglus i wneud i bobl edrych yn dda ond nid yw’r diwydiant yn cael ei reoleiddio o gwbl,” meddai. “Mae’r rhan fwyaf o bobl yn credu ei bod yn rhaid cael cymwysterau er mwyn trin gwallt y cyhoedd ac maen nhw’n dychryn o glywed nad yw hyn yn wir.

“Dylai trin gwallt gael ei drin fel proffesiynau eraill sydd â chofrestr o ymarferwyr cymwysedig. Yna, byddai pobl yn gwybod bod y sawl sy’n trin eu gwallt wedi cael ei hyfforddi i’r safon ofynnol a byddai’n golygu bod trin gwallt ym Mhrydain yn cael ei drin fel y mae mewn gwledydd eraill lle mae’n cael ei reoleiddio eisoes.”

More News Articles

  —