Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau a Chanllawiau Gyrfaoedd sy’n Addas i Bobl Ifanc

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Cardiff Capital Region logo

Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PSPRC) Gynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2022–2025 a oedd yn nodi heriau a chyfleoedd o ran sgiliau mewn sectorau allweddol yn Ne-ddwyrain Cymru.

Yn fwy diweddar, mae’r Bartneriaeth wedi cynhyrchu fersiwn o’r cynllun sy’n addas i bobl ifanc gan ddefnyddio iaith symlach a chymorth gweledol. Cafodd hwn ei ariannu drwy ffrwd waith y Warant i Bobl Ifanc, Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi helpu i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu deall y cynnwys yn well a gweld ei berthnasedd, gan ysbrydoli ac ysgogi cynulleidfa ehangach.

Fersiwn sy’n addas i bobl ifanc:

Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau2022 – 2025

Mae PSPRC yn gwahodd sefydliadau i ddefnyddio’u rhwydweithiau ac i rannu’r wybodaeth hon yn ehangach. Mae’r fersiwn ddiwygiedig o Gynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2022-25 yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y sectorau allweddol yn Ne-ddwyrain Cymru a’r heriau a’r cyfleoedd y maent yn eu hwynebu.

Yn ychwanegol at hynny, ac i wneud y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau sy’n addas i bobl ifanc yn fwy effeithiol, mae PRC wrthi’n cynhyrchu nifer o ganllawiau gyrfaoedd sy’n canolbwyntio ar wahanol sectorau: Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Adeiladu, Creadigol a’r Economi Sylfaenol. Caiff y rhain eu cynhyrchu ar ffurf fflip-lyfrau a byddant yn rhoi amlinelliad clir o sectorau blaenoriaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd y dogfennau’n rhoi manylion am effaith y sector ar y rhanbarth, y swyddi sydd ar gael a phlan o yrfaoedd yn y meysydd hynny.

Bydd y canllawiau’n helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol ac yn eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd llewyrchus.

Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —