Troi at Jayne yw’r i hybu prentisiaethau
Mae’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd bob amser yn troi at Jayne Williams i annog pobl i wmeud prentisiaethau, diolch i’w brwdfrydedd dros ddysgu a datblygu.
Maen nhw’n cyfeirio pobl ati hi – y cyntaf o weithwyr y Gwasanaeth i wneud Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cyngor ac Arweiniad, gan y darparwr hyfforddiant ACT.
Fodd bynnag, nid dyna yw diwedd taith ddysgu Jayne. Yn awr, mae’n awyddus i wneud cymhwyster gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu neu Brentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Dysgu a Datblygu.
I gydnabod ei thaith ddysgu lwyddiannus, mae Jayne wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.
Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.
Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.
Mae swydd Jayne, 58, o Gasnewydd, fel clerc llys wedi’i ehangu i gynnwys hyfforddi staff, mentora, hwyluso a chyrsiau academi. Yn y flwyddyn ddiwethaf, a hithau’n cwblhau ei Phrentisiaeth Uwch, helpodd i hyfforddi 690 o gydweithwyr y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd drwy weithdai ar-lein ac mae wedi cael cynnig nifer o wahanol swyddi o fewn y gwasanaeth.
Bu’n ffilmio fideo am ei thaith ddysgu ac mae’n cynnal sesiynau holi ac ateb byw ar-lein i hyrwyddo prentisiaethau.
Gan ddilyn yn ôl traed ei mam-gu a gafodd ei Lefel ‘O’ gyntaf yn 65 oed, mae Jayne bellach yn hyfforddi’r holl glercod llys newydd a swyddogion uwch, ac yn ysbrydoli cydweithwyr i wneud prentisiaethau, yng Nghymru a ledled Lloegr.
Dywed fod pasio’i chymhwyster Sgiliau Hanfodol Mathemateg ar y trydydd cynnig wedi rhoi hwb enfawr i’w hyder a’i bod hi bellach yn mentora cydweithwyr.
Fel rhan o’i Phrentisiaeth Uwch, mwynhaodd secondiad chwe mis mewn prosiect hyfforddi a hwyluso oedd yn cael ei dreialu. Bu mor llwyddiannus nes i’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd gyflogi swyddog parhaol cymorth dysgu.
“Mae fy mhrentisiaeth wedi dod â llawer o sylw i mi yn y Gwasanaeth wrth i mi ddarparu hyfforddiant a helpu eraill i ddatblygu,” meddai Jayne.
“Maen nhw’n troi ataf i i hyrwyddo prentisiaethau. Rydw i mor angerddol am ddysgu a datblygu fel bod arnaf eisiau i bawb arall wybod a dod ag amlygrwydd i Gymru.
“Mae’r Gwasanaeth wedi elwa’n eithriadol gan fy mod i wedi gwneud y Brentisiaeth Uwch ac mae wedi agor llawer o ddrysau i mi. Dyna’r peth gorau a wnes i erioed.””
Dywedodd Louise Vernall, rheolwr cyflawni y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd: “Mae Jayne bob amser yn ysbrydoli pobl eraill ac yn ennyn eu diddordeb, gan ddangos sgiliau hyfforddi gwych a dawn naturiol. Mae’n ychwanegiad gwych at fy nhîm ac mae ei chyfraniad yn werthfawr iawn.”
Wrth longyfarch Jayne a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.
“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.
“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.
“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.
More News Articles
« Gyrfa Albert yn codi’n uchel gyda Phrentisiaeth Radd — Michelle sy’n Brentis Uwch yn rhoi hwb i safonau ansawdd gwyddor fforensig »