Michelle sy’n Brentis Uwch yn rhoi hwb i safonau ansawdd gwyddor fforensig
Mae Prentisiaeth Uwch wedi helpu Michelle Gaskell i reoli prosiectau er mwyn gwella safonau ansawdd gwyddor fforensig gyda’r potensial o arbed miliynau o bunnoedd i heddluoedd, y GIG ac elusennau.
Mae Michelle, 32, o’r Fenni, yn Arbenigwr Ansawdd yn y Forensic Capability Network, rhan o bortffolio fforensig Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, lle mae’n rheoli prosiectau i gefnogi’r 43 o heddluoedd ledled Cymru a Lloegr.
Bu’n rheoli prosiect cenedlaethol gan y Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) a ddangosodd nad oes DNA ar nwyddau traul fforensig hyd nes y cânt eu defnyddio i gasglu tystiolaeth gan ddioddefwyr ymosodiadau rhywiol. Cymerodd pob SARC yng Nghymru a Lloegr ran yn y prosiect hwn, gan arbed dros £500,000.
Ar hyn o bryd mae Michelle yn rheoli prosiect sydd â’r nod o newid y rheoliadau ynghylch llif aer a lefelau derbyniol o DNA mewn ystafell lle cynhelir archwiliadau meddygol fforensig. “Disgwylir y bydd cwblhau’r prosiect hwn yn llwyddiannus yn arwain at welliant sylweddol yn y gwasanaeth a roddir i bobl sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol ac, ar ben hynny, bydd yn arbed miliynau o bunnau,” esboniodd.
I gydnabod ei gwaith eithriadol a’i hymrwymiad i ddysgu parhaus, mae Michelle wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.
Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.
Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.
Yn ogystal, mae Michelle wedi helpu i safoni prosesau SARC ledled Cymru a Lloegr ac i sefydlu rhwydwaith cenedlaethol mawr o feddygon, rheolwyr SARC, gwyddonwyr DNA, arbenigwyr ansawdd, yr heddlu a darparwyr gwasanaethau fforensig er mwyn gwella prosesau fforensig a gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr.
Er mwyn datblygu ei sgiliau, gwnaeth Michelle Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Prosiectau drwy EAL, wedi’i chyflenwi gan ALS Training a’i darparu gan Heddlu De Cymru, mewn dim ond saith mis yn lle’r ddwy flynedd a drefnwyd. Ar yr un pryd, cafodd ei phenodi’n rheolwr prosiectau achredu gyda Heddlu De Cymru.
Cyn hynny, roedd wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Arwain a Rheoli, gradd Meistr yn y Gwyddorau (MSc) mewn Gwyddorau Dadansoddol, Sbectrometreg Màs Cromatograffi Hylif o Brifysgol Abertawe a gradd Baglor yn y Gwyddorau (BSc) mewn Gwyddor Fforensig gydag anrhydedd dosbarth cyntaf o Brifysgol De Cymru.
Yn awr, mae’n ystyried astudio ar gyfer PhD er mwyn gwneud ymchwil a fydd yn dylanwadu ar newidiadau i reoliadau gwyddor fforensig. Mae’n gobeithio gwneud gwahaniaeth trwy gefnogi datblygiad mewn gwyddor fforensig a gwella safonau ansawdd.
“Roedd yn her i mi gwblhau’r Brentisiaeth Uwch ochr yn ochr â’m swydd lawn-amser,” meddai Michelle. “Fodd bynnag, po fwyaf roeddwn i’n ei ddysgu, ro’n i’n gweld fy mod yn dod yn fwy effeithlon yn fy swydd ac yn fwy effeithiol wrth reoli prosiectau mawr.”
Dywedodd Deborah Pendry, Cyfarwyddwr Ansawdd y Forensic Capability Network: “Heb os, mae’r sgiliau y mae Michelle wedi’u meithrin trwy wneud Prentisiaeth Uwch yn Heddlu De Cymru wedi ei helpu i fod yn llwyddiannus iawn yn ei swydd newydd.”
Wrth longyfarch Michelle a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.
“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.
“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.
“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.
More News Articles
« Troi at Jayne yw’r i hybu prentisiaethau — Cwmni fferyllol yn taro ar aur wrth gyflogi Evan, y prentis arobryn »