Boglarka’n brentis sy’n gwneud gwahaniaeth fel gofalwr ar ôl newid gyrfa

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae prentisiaethau’n helpu Boglarka-Tunde Incze, sy’n arweinydd tîm gofal cartref, i wneud gwahaniaeth i fywydau’r bobl y mae hi’n gofalu amdanynt ac yn gweithio gyda nhw.

Boglarka-Tunde Incze – mae prentisiaethau wedi helpu i newid ei gyrfa.

O Hwngari y daw Boglarka ac mae’n byw yng Nghymru gyda’i gŵr a’u dau blentyn ers chwe blynedd. I ddechrau, defnyddiodd y Radd Baglor mewn Cyfrifiadureg, a enillodd yn Rwmania, i weithio i gwmnïau rhyngwladol. Mae hi wedi cwblhau dwy flynedd o Radd Meistr mewn Dylunio Graffig a Diwydiannol hefyd.

Fodd bynnag, er mwyn ennill mwy o arian i helpu i brynu cartref i’r teulu yng Nghymru, cymerodd swydd ychwanegol fel gofalwr rhan amser, gan gefnogi pobl yn eu cartrefi. Roedd yn mwynhau’r gwaith gymaint nes iddi newid gyrfa yn ystod y pandemig.

Erbyn hyn, mae wedi cwblhau Prentisiaethau Lefel 2 a 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag Itec Skills and Employment ac mae’n awyddus i gymhwyso fel asesydd.

Yn awr, i gydnabod ei llwyddiant, mae Boglarka wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Mae Boglarka, sy’n byw yn Llanrug, ger Caernarfon, yn gweithio rhan amser i Gofal Bro Cyf lle mae wedi rhoi cyngor gwerthfawr i helpu’r cwmni i gyflwyno model gofal newydd, gwell i gleientiaid.

Bu’n gynorthwyydd gofal iechyd lliniarol gyda Marie Curie ers dros flwyddyn ac mae wedi cwblhau cyfres o gyrsiau i gynyddu ei sgiliau.

Mae’n dysgu Cymraeg hefyd ac wedi llwyddo yn ei harholiad lefel canolradd ar ôl chwe blynedd gyda Dysgu Cymraeg ym Mangor. Dywed bod dysgu Cymraeg wedi cael effaith gadarnhaol ar ei bywyd.

Mae hi hefyd wedi cymhwyso ar gyfer Rownd Derfynol Cystadleuaeth Genedlaethol WorldSkills UK mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar 14 Tachwedd ac mae ar restr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2022 ar Dachwedd 10.

“Dw i’n frwd iawn ac yn awyddus i barhau â’m taith ddysgu wrth i mi anelu at fod yn asesydd,” meddai. “Mewn swydd fel honno, dw i’n credu y gallaf i wneud gwahaniaeth i bobl debyg i mi sydd eisiau dod i wybod ac i ddeall mwy am weithio mewn gofal.

“Mae fy rhaglen ddysgu wedi bod o fudd i ddatblygu fy ngwybodaeth a fy sgiliau a bydd yn fy helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa broffesiynol.

“Mae prentisiaethau wedi rhoi ail gyfle i mi – cyfle i ddatblygu gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol oherwydd fe ddechreuais i o ddim.”

Dywedodd Lynn Kennedy, asesydd iechyd a gofal cymdeithasol gydag Itec Skills and Employment: “Mae Boglarka’n berson hyfryd ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda hi. Mae hi’n frwd iawn ac yn awyddus i ddal ati i ddysgu.”

Llongyfarchwyd Boglarka a phawb arall ar y rhestrau byrion gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi. “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,” meddai.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —