Llawer o gyfleoedd dysgu ar gael, am ddim, ledled Cymru ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

People sitting in a library setting.

Cynigir cyrsiau, digwyddiadau, gweithgareddau a chyfleoedd dysgu, ar-lein ac wyneb yn wyneb, am ddim, ledled Cymru i hybu rhagolygon gyrfa, sgiliau, hyder a llesiant pobl yn ystod Wythnos Addysg Oedolion rhwng 21 a 27 Medi.

Mae darparwyr addysg oedolion a mudiadau cymunedol yn cyfrannu at thema ymgyrch ‘Paid Stopio Dysgu’ drwy helpu pobl i ddarganfod cyfleoedd newydd.

Anogir oedolion i groesawu cyfleoedd i ddarganfod eu hangerdd am ddysgu, gloywi eu sgiliau, gwella eu hiechyd a’u llesiant, symud ymlaen yn eu gyrfa neu geisio cyngor a gwybodaeth pwrpasol ar gyllid neu lwybrau gyrfa arbenigol.

Caiff yr Wythnos Addysg Oedolion ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth y Brifysgol Agored yng Nghymru, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ACT, Agored Cymru ac Addysg Oedolion Cymru.

Mae rhestr o’r holl weithgareddau ar gael yn adultlearnersweek.wales a chânt eu hyrwyddo drwy gydol mis Medi ar Cymru’n Gweithio.

Nod yr Wythnos Addysg Oedolion yw gwneud cyfleoedd dysgu a sgiliau yn fwy hygyrch i bawb ac ysbrydoli pobl i ddarganfod sut y gall dysgu newid eu bywydau.

Mae’r wythnos yn gyfle i bobl gymryd ail gyfle ar addysg a gwaith. Bydd cyfle i oedolion o bob oed ddechrau neu ailgydio ar eu taith ddysgu gyda chyrsiau a sesiynau newydd wyneb yn wyneb ac ar lein ar lefel mynediad drwy gydol mis Medi.

Uchafbwynt yr wythnos yw Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion, a gynhelir eleni yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd ar 23 Medi. Mae’r gwobrau yn cydnabod y rhai a ddangosodd ymrwymiad i beidio stopio dysgu.

Dywedodd Cefin Campbell AS, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol: “Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn dathlu grym dysgu, a all newid bywydau. Bob dydd, mae oedolion ledled Cymru yn ennill sgiliau newydd, yn tyfu mewn hyder ac yn agor cyfleoedd newydd iddynt eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau.

“Rwy’n falch fod sefydliadau ledled Cymru yn cydweithio i gefnogi yr Wythnos Addysg Oedolion ac ysbrydoli mwy o bobl i gymryd y cam nesaf ar eu taith ddysgu. P’un ai’n dysgu i gael cynnydd yn y gwaith, rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu gynyddu hyder, mae fy neges yn syml: Paid Stopio Dysgu.”

“Am ddim ac ar gael i bawb, mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn gyfle i ysbrydoli oedolion i gymryd cam cyntaf i ddysgu, dathlu llwyddiannau dysgwyr a’i gwneud yn rhwyddach dod o hyd i gyfleoedd lleol,” esboniodd Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

“Mae darparwyr dysgu a mudiadau cymunedol o bob math yn cymryd rhan eleni i gynnig cyfle i oedolion ddarganfod cyfleoedd dysgu. Gall digwyddiad a gynhelir yn yr Wythnos Addysg Oedolion fod y sbardun sy’n helpu rhywun i ailddarganfod llawenydd dysgu neu fod yn hwb i’w hyder i roi cynnig ar rywbeth newydd.”

Cymerwch ran yn Wythnos Addysg Oedolion eleni rhwng 21 a 27 Medi.

Yn ôl i’r brig

More News Articles

  —