Hayley, yr asesydd prentisiaethau, yn frwd o blaid cefnogi pobl eraill
Mae Hayley Walters, asesydd Prentisiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn eithriadol o frwd dros gefnogi pobl eraill.
I Itec Training Solutions yng Nghaerdydd mae Hayley, 32, yn gweithio ac mae’n defnyddio’r wybodaeth werthfawr a gasglodd dros 13 blynedd yn gweithio mewn cartrefi nyrsio a chanolfannau iechyd a gofal cymdeithasol er budd dysgwyr, cydweithwyr a’i chyflogwr.
Cafodd ei chanmol yn aml am fynd yr ail filltir i helpu ei dysgwyr, rhannu arferion gorau a bod yn bwynt cyswllt ar gyfer aseswyr newydd dan hyfforddiant.
Yn awr, mae Hayley wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ae Waith yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.
Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.
Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.
Mae Hayley’n deall sut mae dysgwyr yn elwa wrth iddi hi fynd ati i wella’n barhaus. Amlygir hyn gan y gwaith y mae wedi’i wneud i ddatblygu’r cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd ac i gefnogi tîm aseswyr Itec Training Solutions.
Aeth ati i bennu gwelliannau i hybu a gwella taith dysgwyr ar Lefelau 2 a 3 ac i gyflwyno’r defnydd mewn ffordd fwy rhyngweithiol a diddorol i gydweithwyr, dysgwyr a’r busnes.
“Mae Hayley wedi bod ar daith o ddatblygiad proffesiynol parhaus ers iddi adael yr ysgol ac mae wir yn batrwm i eraill,” meddai Hannah Barron, rheolwr adnoddau dynol Itec.
Ymunodd Hayley ag Itec dair blynedd yn ôl ar ôl gwneud Prentisiaethau Lefel 2 a 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a chymhwysodd yn asesydd yn fuan iawn wedyn. Cam nesaf ei datblygiad proffesiynol fydd Dyfarniad Sicrhau Ansawdd Mewnol Lefel 4.
Mae’n gwneud cynllun strategol o daith pob dysgwr, gan gyfarfod â nhw’n aml a datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth trwy ddysgu cyfunol wedi’i seilio ar eu hanghenion unigol.
Mae’n cysylltu cynlluniau datblygiad personol â nodau a dyheadau pob dysgwr, sy’n golygu eu bod yn dal i gael eu hysgogi i weithio a bod y berthynas rhyngddyn nhw a’u cyflogwyr yn parhau.
Yn ystod y pandemig, bu’n cynnig cefnogaeth emosiynol a llesiant i ddysgwyr a oedd yn dioddef o straen a phryder. Llwyddodd hefyd i addasu i ddysgu o bell trwy uwchraddio ei sgiliau amlgyfrwng, datblygu adnoddau ychwanegol a chynnig cymorth ychwanegol i ddysgwyr.
Bellach, mae Hayley wedi ymuno â grŵp ffocws allanol i ddatblygu adnoddau safonau proffesiynol newydd Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer dysgwyr ôl-16.
“Rwy wrth fy modd bod fy nghydweithwyr, fy nysgwyr a fy nghyflogwyr wedi cefnogi fy enwebiad i fod yn Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith. Mae hyn yn golygu’r byd i mi ac yn gwneud i mi deimlo’n falch o’r hyn rwy wedi’i gyflawni.
“Mae cefnogi arferion gorau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn un o fy mhrif uchelgeisiau erioed.”
Cafodd Hayley ei chanmol gan Debbie Hobbs, swyddog sicrhau ansawdd yn ISS Healthcare, Caerdydd, am gefnogi 30 aelod o staff o bell i gwblhau eu cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod y pandemig.
“Roedd hi’n mynd yr ail filltir i sicrhau nad oedden nhw ar ei hôl hi a’u bod yn cwblhau eu cymwysterau fel y gallen nhw aros yn y sector gofal,” meddai. “Bu hynny’n help aruthrol i mi gadw staff.”
Wrth longyfarch Hayley a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.
“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.
“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.
“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.
More News Articles
« Chwant rhagor o brentisiaethau ar gwmni bwyd — Gobaith am wobr i Victoria sy’n frwd dros godi safonau gofal plant »