Cwmni adeiladu’n creu ffordd at ddyfodol disglair gyda phrentisiaethau
Mae cwmni adeiladu o Abertawe wedi creu ei lwybr gyrfaoedd ei hunan trwy lunio modelau hyfforddi pwrpasol i lenwi’r bwlch sgiliau cynyddol yn y diwydiant.
Trwy ei athroniaeth ‘Persimmon Way’, crëwyd tua 150 o swyddi newydd ar gyfer prentisiaid ar ddechrau eu gyrfaoedd ac ar gyfer rhai sy’n dymuno ailhyfforddi er mwyn gweithio yn y sector adeiladu.
Mae Persimmon Homes West Wales, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Choleg Penybont, yn credu bod twf organig mewn adnoddau mewnol a chyfleoedd i symud ymlaen yn eich gyrfa yn helpu’r cwmni i recriwtio a chadw’r doniau lleol gorau oll ac i sicrhau model busnes cynaliadwy.
I gydnabod ei ymrwymiad i brentisiaid, mae Persimmon Homes West Wales wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Cyflogwr Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.
Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.
Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.
Dywedodd y cwmni fod prentisiaid gosodwyr brics wedi adeiladu dros 90 o gartrefi ynghyd â nifer fawr o waliau allanol a garejys ers 2017. Yn ogystal, yn y 12 mis diwethaf, mae prentisiaid seiri wedi codi a chwblhau 48 o gartrefi Space 4 – sef system ffrâm bren unigryw’r cwmni.
“Trwy dwf organig, rydym yn pontio’r bwlch yn y gadwyn gyflenwi,” meddai Carl Davey, cyfarwyddwr ansawdd rhanbarthol gyda Persimmon Homes.
“Roedd yna brinder difrifol o weithwyr yn y diwydiant adeiladu tai i ateb y galw mawr. Felly, cychwynnodd Persimmon Homes ar fenter hyfforddi sylweddol i gynhyrchu crefftwyr yn y tymor byr i ganolig.
“Arweiniodd hyn at bartneriaeth â Choleg Penybont a allai ddod yn batrwm ar gyfer modelau partneriaeth tebyg ar ein safleoedd eraill ym Mhrydain.”
Gall dysgwyr o bob oed a phob cefndir gychwyn ar raglen brentisiaeth gyda Persimmon trwy’r coleg. Yna, gallant lywio’u gyrfa gan ddringo ysgol dryloyw o gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, yn amrywio o grefftau ar Lefelau 2 a 3 hyd at ddod yn arweinwyr y dyfodol gyda Persimmon trwy’r Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Safle Adeiladu.
Mae’r gydfenter wedi arwain at agor Academi Persimmon Homes ar safle datblygu yn Llanilid, ger y coleg. Fel hyn, gellir hyfforddi prentisiaid mewn amgylchedd “byw” ar safle Persimmon a gall staff y coleg ddod yn rhan annatod o ‘The Persimmon Way’.
“Mae ein partneriaeth gyda Persimmon Homes yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu gyrfaoedd trwy brentisiaethau mewn rhan o Gymru sydd wedi dioddef yn fawr ar ôl colli llawer o swyddi yn y blynyddoedd diwethaf,” meddai Matthew Williams, dirprwy brifathro, dysgu seiliedig ar waith a gweithgarwch masnachol yng Ngholeg Penybont.
“Rydyn ni’n gallu cyflenwi prentisiaethau mewn ffordd sydd wir yn cydfynd â’r cymwyseddau, yr ymddygiadau a’r gwerthoedd a fydd yn eu galluogi i lwyddo am gyfnod hir gyda Persimmon ac yn y sector adeiladu.”
Wrth longyfarch Persimmon Homes a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.
“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.
“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.
“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.
More News Articles
« Prentisiaid yn torri tir newydd mewn bwrdd iechyd blaengar — Chwant rhagor o brentisiaethau ar gwmni bwyd »