ACT yn penodi Jayne McGill-Harris yn Gyfarwyddwr Datblygu newydd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, ACT, wedi penodi Jayne McGill-Harris yn Gyfarwyddwr Datblygu newydd. Yn ei swydd newydd, bydd Jayne yn datblygu ac yn hybu strategaethau Marchnata, Cyfathrebu a Datblygu Busnes ar gyfer ACT, trwy fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd masnachol a pherfformiad contractiol.

Jayne McGill-Harris Cyfarwyddwr Datblygu, ACT Training

Jayne McGill-Harris
Cyfarwyddwr Datblygu, ACT Training

Mae gan Jayne bron 13 blynedd o brofiad yn y sector addysg a hyfforddiant ac, wrth ei phenodi’n Gyfarwyddwr Datblygu, mae’n dychwelyd at y darparwr hyfforddiant arobryn, lle cafodd lwyddiant o’r blaen fel Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu.

Wrth sôn am ei phenodiad newydd, dywedodd Jayne: “Rwy wrth fy modd o gael dod yn ôl i ACT a chael effaith wirioneddol yn swydd y Cyfarwyddwr Datblygu. Mae gen i gyfoeth o wybodaeth yn y sector addysg ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gefnogi rhaglen newydd Twf Swyddi Cymru+ a rhoi hwb i bobl ifanc i gyflawni eu huchelgeisiau o ran gyrfa. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i adeiladu ar lwyddiant ACT trwy greu cyfleoedd a gwella bywydau pobl trwy ddysgu.”

Ac meddai Richard Spear, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT: “Mae’n wych croesawu Jayne yn ôl atom i ACT. Mae nabod ein busnes fel cefn ei llaw a hi yw’r person delfrydol ar gyfer y swydd. Mae ei phenodiad yn werthfawr iawn i ACT a bydd yn chwarae rhan annatod yn ein llwyddiant i’r dyfodol.”

ACT Training

More News Articles

  —