Aduniad o ddysgwyr gwallt a harddwch a fu ar brofiad gwaith yn Ewrop

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Cynhaliwyd aduniad yng Nghaerdydd ar gyfer tri ar ddeg o brentisiaid a chyn-brentisiaid trin gwallt a harddwch a gafodd ehangu eu gorwelion gyrfaol trwy gymryd rhan mewn ymweliadau profiad gwaith ag Ewrop dros y pum mlynedd diwethaf.

Trefnwyd yr aduniad yng Ngwesty Dewi Sant gan ISA Training o Ben-y-bont ar Ogwr, sef darparwr hyfforddiant annibynnol mwyaf Cymru ym maes trin gwallt a harddwch.

Ers 2013, mae’r cwmni wedi trefnu saith ymweliad â Sbaen, Cyprus, y Ffindir a’r Almaen gyda chymorth ariannol gan raglenni Leonardo ac Erasmus+ y Comisiwn Ewropeaidd, sy’n cynnig cyfleoedd cyffrous i bobl o’r Deyrnas Unedig astudio, gweithio, gwirfoddoli, dysgu a hyfforddi yn Ewrop.

Cynhaliwyd saith ymweliad pryd y bu 55 o brentisiaid o Gymru’n gweithio mewn salonau yn y gwahanol wledydd am hyd at bythefnos a daeth cynrychiolwyr o bob un o’r ymweliadau i’r aduniad gyda theulu a ffrindiau.

Mae’r ymweliadau â Ewrop yn rhan o brosiect Oyster gan ISA Training, a seilir ar y dywediad ‘The world is your oyster’. Nod y prosiect yw ychwanegu at brofiad y prentisiaid o ddysgu, eu gwneud yn fwy hyderus ac ehangu eu gorwelion o ran gyrfa.

Eisoes trefnwyd ymweliadau â Sbaen a Gwlad Groeg yn 2019 ac â’r Almaen yn 2020 o dan y prosiect Oyster.

Roedd Marcus Scott, sy’n trin gwallt, ar yr ymweliad cyntaf â Tarragona, Sbaen, yn 2013 a dywed ei fod yn brofiad gwerthfawr. “Roedd y cyfle i gael taith wedi’i hariannu i weithio dramor am bythefnos yn brofiad gwych ac yn rhywbeth na fyddwn byth wedi’i wneud fel arall,” meddai.

“Roedd yn gyfle i fynd i wlad arall i weld sut y maen nhw’n gweithio a’i gymharu â’r ffordd rydyn ni’n gweithio yma yng Nghymru. Roedd yn lles mawr i’n sgiliau cyfathrebu oherwydd doedd pobl y salon lle’r oeddwn i’n gweithio ddim yn siarad Saesneg ac roedd rhaid meddwl am ffyrdd o ddeall ein gilydd.”

Ers ei gyfnod o brofiad gwaith yn Sbaen, bu Marcus yn darlithio yng Ngholeg Sir Benfro a’n gweithio mewn salon yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio yn yr Hair House ym Merthyr Tudful ac yn paratoi i agor busnes newydd, y Smith and Co Hair Boutique yn Aberdaugleddau ar 3 Tachwedd.

Aeth Caitlin Wilson, 23 oed, sy’n steilydd gwallt gyda Spirit Hair Team yn Ystrad Mynach, i Tarragona gydag ISA Training yn 2015. Tra oedd yno, dysgodd wahanol dechnegau chwyth-sychu a ffyrdd newydd o weithio ac aeth ati i’w rhannu gyda’i chydweithwyr pan ddaeth yn ôl.

Roedd y ffaith fod ganddi TGAU mewn Sbaeneg o’r ysgol yn help gan ei bod yn gallu sgwrsio â’r staff yn y salon yno. “Fe wnaeth y profiad o fynd i Sbaen agor drysau i mi a rhoi’r hyder i mi ddal ati ym myd trin gwallt,” meddai Caitlin, sy’n byw yn Abercynon.

Mae Caitlin, sy’n gweithio ar Brentisiaeth mewn trin gwallt, yn gobeithio symud ymlaen i fod yn uwch-steilydd gyda’r Spirit Hair Team yn y ddwy flynedd nesaf.

Dywedodd Cheryl Pearcey, rheolwr partneriaethau ISA Training, ei bod wedi mwynhau gweld y dysgwyr eto a chlywed sut roeddent wedi symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Roedd un o’r dysgwyr, Emily Morgan, yn methu dod i’r aduniad gan ei bod yn gweithio yn Awstralia.

“Mae’r ymweliadau’n rhoi cyfle i’r dysgwyr deithio a gweithio mewn gwlad dramor, sy’n wahanol i ymweld fel twrist,” meddai Cheryl. “Mae pob un o’r dysgwyr wedi magu hyder o ganlyniad i’w profiad ac wedi dysgu ffyrdd gwahanol o weithio yn ogystal â dod yn ymwybodol o ddiwylliannau eraill.”

Datgelodd fod rhai o’r dysgwyr o Gymru wedi’u gwahodd i fynd yn ôl i salonau yng Nghyprus a Sbaen i weithio a bod un dysgwr o Sbaen wedi symud i weithio yng Nghymru o ganlyniad i ymweliad cyfnewid.

Mae gan ISA Training dros 700 o ddysgwyr a 550 o gyflogwyr ar y llyfrau ac mae’n arbenigo mewn dysgu seiliedig ar waith gan gyflenwi rhaglenni a ariannir gan y llywodraeth mewn Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Harddwch yng Nghymru a Lloegr.

Newyddion ISA Training

More News Articles

  —