
Mae Agored Cymru wedi’i Gymeradwyo i Gyflwyno’r Gyfres Lawn o Gymwysterau Ton 3
Cymwysterau cwbl ddwyieithog ar gyfer TON 3 y Cwricwlwm 14-16 newydd, i’w cyflwyno am y tro cyntaf ym mis Medi 2027.
Mae Agored Cymru, corff dyfarnu galwedigaethol blaenllaw yng Nghymru, wedi cael ei gydnabod yn swyddogol gan Gymwysterau Cymru i ddylunio, cyflwyno, a dyfarnu’r gyfres lawn o gymwysterau dwyieithog TON 3 ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed ym mis Mehefin 2025. Bydd y cymwysterau hyn yn rhan allweddol o’r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd a byddant ar gael i’w haddysgu gyntaf yng Nghymru o fis Medi 2027.
Mae’r gydnabyddiaeth yn cwmpasu ehangder llawn cymwysterau TON 3, a gynlluniwyd i gefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer dilyniant academaidd a dilyniant i’r byd gwaith.
Mae’r cymwysterau hyn yn cynnwys:
- Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU)
- Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol a Chysylltiedig â Gwaith
- Y Gyfres Sgiliau
- Y Prosiect Personol
Dywedodd Darren Howells, Prif Weithredwr, Agored Cymru:
“Fel Corff Dyfarnu sy’n llwyr gefnogi dysgu galwedigaethol yng Nghymru, mae Agored Cymru yn falch o fod wedi cael cymeradwyaeth gan Gymwysterau Cymru i ddatblygu a chynnig y gyfres lawn o gymwysterau TON 3 14-16 o fis Medi 2027.
Bydd y cymwysterau newydd cyffrous hyn yn adeiladu ar ein cynnig galwedigaethol dwyieithog presennol sydd eisoes yn cael ei ddarparu mewn ysgolion ledled Cymru. Byddant yn cefnogi dyheadau galwedigaethol dysgwyr ac yn helpu i fynd i’r afael ag anghenion sgiliau Cymru yn y dyfodol.”
Mae Agored Cymru yn edrych ymlaen at gefnogi a chydweithio â phob darparwr a dysgwr yng Nghymru yn barod ar gyfer cyflwyno am y tro cyntaf ym mis Medi 2027.
Agored Cymru – Cymwysterau TON 3
More News Articles
« Pam mae angen i arweinwyr busnes gamu i’r adwy dros bobl ifanc Cymru — “Mae cyrsiau ILM wedi rhoi cymwysterau cydnabyddedig i mi sy’n atgyfnerthu fy mhrofiad fel rheolwr” »