Bron 600 o ddigwyddiadau Wythnos Addysg Oedolion yn dangos grym dysgu gydol oes
English | Cymraeg

Cynhaliodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe gyrsiau cadw gwenyn yn ystod Wythnos Addysg Oedolion.
Roedd effaith newidiol dysgu gydol oes yn cael sylw cenedlaethol wrth i bron 600 o ddigwyddiadau a chyrsiau gael eu cynnal trwy Gymru yn ystod Wythnos Addysg Oedolion o 21 i 27 Medi.
Trafodwyd addysg oedolion yn y Senedd, amlygwyd storïau llwyddiant i’ch ysbrydoli gan y cyfryngau a dathlwyd dysgwyr rhagorol yn y Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion yng Nghaerdydd.
Rhoddodd digwyddiadau a gweithgareddau am ddim wyneb yn wyneb ac ar-lein y cyfle i oedolion ddarganfod eu hangerdd am ddysgu, gloywi eu sgiliau, gwella eu hiechyd a’u llesiant, symud eu gyrfa ymlaen, neu gael cyngor a gwybodaeth wedi eu teilwrio am gyllid neu lwybrau gyrfa arbenigol.
Cyfrannodd darparwyr addysg oedolion a sefydliadau cymunedol ar draws Cymru at yr ymgyrch ‘Paid Stopio Dysgu’ trwy helpu pobl i ddarganfod cyfleoedd newydd. Roedd popeth o lythrennedd digidol, AI a sgiliau hanfodol i goginio, ieithoedd a chaligraffi yn cael eu cynnig.
Trefnir Wythnos Addysg Oedolion gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Y Ganolfan Ddysgu Cymraeg Genedlaethol, ACT, Agored Cymru ac Addysg Oedolion Cymru.
Dywedodd Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell AS, a ddaeth i’r Gwobrau Ysbrydoli!: “Mae Wythnos Addysg Oedolion yn dathlu effaith newidiol dysgu a llwyddiannau oedolion sy’n dysgu ar draws Cymru.
“Trwy gannoedd o ddigwyddiadau am ddim a Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion, rydym wedi gweld sut y mae dysgu yn helpu pobl i gynyddu eu hyder, datblygu sgiliau newydd a chreu cyfleoedd newydd.
“Hoffwn ddiolch i ddysgwyr, cyflogwyr, colegau a darparwyr dysgu oedolion trwy Gymru am eu cydweithrediad a’u hymrwymiad i ddysgu gydol oes. Mae eu storïau ysbrydoledig yn ein hatgoffa, beth bynnag ein hoed neu gefndir, nid yw fyth yn rhy hwyr i ddysgu ac ni ddylem fyth stopio dysgu.”
Roedd Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith, wrth ei bodd gyda’r ymateb i ddathliad addysg oedolion eleni.
“Cynigiodd yr Wythnos Addysg Oedolion gyfle pwysig i ni ddathlu a hyrwyddo effaith dysgu trwy gydol oes,” meddai. “Roeddem mor falch o weld digwyddiadau, cyrsiau a sesiynau blasu yn digwydd ar draws Cymru, gan roi gwybodaeth ac ysbrydoli pobl i fentro ar daith ddysgu newydd.
“Rydym yn gobeithio y bydd y storïau a rannwyd yn ystod yr wythnos yn dangos bod cyfle i ddysgu allan yna i bawb yn ogystal â llawer o gefnogaeth i’ch helpu i lwyddo.
“Diolch i’r rhwydwaith anhygoel o ddarparwyr addysg oedolion, awdurdodau lleol, colegau addysg bellach, prifysgolion a phartneriaid cymunedol sy’n helpu i wneud yr wythnos bwysig hon yn llwyddiant ac am y gwaith yr ydych yn ei wneud bob dydd i helpu pobl i newid eu bywydau trwy ddysgu.”
Denodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith ei hun 365 o bobl i ddigwyddiadau polisi a gynhaliwyd yn ystod yr wythnos. Lansiwyd Teclyn Ymgysylltu â Dysgwyr ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac roedd digwyddiadau eraill yn amlygu Addysg Oedolion yng Nghymru, Sgiliau Hanfodol Oedolion a Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion, y daeth 200 o wahoddedigion iddynt.
Ymunodd pump o enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd lle cawsant gyfarfod ASau eu hetholaethau a thrafod eu storïau dysgu ysbrydoledig.
Cyfwelwyd enillwyr gan gynnwys y ddysgwraig Cymraeg Hannah Rowlatt o Gaerdydd, sydd wedi ei chofrestru’n ddall ac yn gweithio fel swyddog polisi ac ymgyrchoedd i’r RNIB, ar sioe frecwast BBC Radio Cymru. Ymddangosodd Hannah hefyd ar raglen Prynhawn Da S4C ddydd Gwener.
Wrth siarad yn y Senedd, talodd Kiera Marshall, AS Plaid Cymru dros Caerdydd Penarth, deyrnged i Hannah a’r holl oedolion sy’n dysgu yng Nghymru.
“Mae effaith dysgu oedolion yn newid bywydau ac yn ymestyn ymhell tu hwnt i addysg,” dywedodd. “Mae’n gwella iechyd a llesiant ac mae’n sylfaenol i dwf economaidd Cymru. Mae’n galluogi oedolion i uwchsgilio a dysgu sgiliau newydd a gwella eu bywydau mewn ffyrdd na fyddwn ni fyth yn eu deall.
“Mae’r rhaglen dysgu oedolion yn y gymuned yn neilltuol yn cynnig llwybr pwysig i bobl at addysg, gan eu cefnogi i gael mynediad at ddysgu mewn lleoliad ac ar gyflymder sy’n iawn iddyn nhw.”
Gan gyfeirio at Hannah a’r 10 enillydd gwobr arall, ychwanegodd. “Rwy’n gobeithio y gall y storïau hyn, a miloedd o rai tebyg ar draws Cymru, annog mwy o bobl i dderbyn neges Wythnos Addysg Oedolion o beidio stopio dysgu.”
Cynhaliodd Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot ddigwyddiadau gwybodaeth yng Nghanolfan Siopa Aberafan, siop Morrisons yng Nghastell-nedd, siop Tesco yn y Trallwng a Chanolfan Waith Ystradgynlais a gweithgareddau ymgysylltu ar eu campysau.
Dywedodd Fay Harris, Pennaeth marchnata a chyfathrebu Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot:
“Trwy ein gweithgareddau ymgysylltu ar draws Powys a Chastell-nedd Port Talbot, rydym wedi gweld diddordeb cryf mewn cyrsiau yn amrywio o TGAU Saesneg a Mathemateg i’r Gyfraith, Cyllid, Sbaeneg, Cymraeg, Arlwyo, Adeiladu a Gwaith Coed.
“Mae’r sgyrsiau hyn yn dangos yr awch am ddysgu yn ein cymunedau ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddarparu addysg hygyrch sy’n helpu pobl i ddatblygu sgiliau, rhoi hwb i’w hyder a chyflawni eu nodau.”
Dywedodd Gemma Hallett, cyfarwyddwr a sylfaenydd miFuture: “Roedd ein sesiwn Wythnos Addysg Oedolion yn archwilio sut y mae AI yn newid y gweithlu ac amlygodd bwysigrwydd y galluoedd gan bobl y mae cyflogwyr yn parhau i’w gwerthfawrogi. Mae Wythnos Addysg Oedolion yn helpu pobl i gynyddu eu hyder, ystyried dysgu gydol oes a datblygu’r sgiliau angenrheidiol i ffynnu mewn byd sy’n newid.”
Cynhaliodd Prifysgol Aberystwyth sesiynau blasu iaith yn ystod yr wythnos. Dywedodd Elin Mair Mabbutt, pennaeth dysgu gydol oes y brifysgol: “Mae sesiynau blasu iaith yn ffordd wych o danio chwilfrydedd, cynyddu hyder ac agor drysau.
“Yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, fe wnaethant fwrw sylw ar rym dysgu gydol oes i helpu unigolion, cymunedau a chyflogwyr i ddarganfod sut y gall ieithoedd gryfhau cyfathrebu, rhoi hwb i gyfleoedd, cysylltu diwylliannau ac ysbrydoli pobl i ddal i ddysgu.”
Trefnodd Dysgu Oedolion yn y Gymuned Sir Fynwy sesiynau blasu i oedolion o bob gallu gan gynnwys gwersi gitâr ac ukulele, Almaeneg i ddechreuwyr, darlunio botanegol, plethu helyg, Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, celf, ffeltio, coginio a gweithdai bomiau bath.
“Mae ein sesiynau blasu wedi cefnogi dysgwyr i barhau eu taith ddysgu, ennill sgiliau newydd a gwella hyder a llesiant,” dywedodd Chloe Kitchen o Dysgu Oedolion yn y Gymuned Sir Fynwy. “Roedd yn gyfle gwych i amlygu llwyddiannau ein dysgwyr a’n tiwtoriaid.”
Cynhaliodd Canolfan Weithredu Dysgu Glynebwy 16 o gyrsiau blasu mewn pedair canolfan, un yn cynnwys dosbarth coginio amlddiwylliannol gyda 12 o ddysgwyr y cyfan o gefndiroedd ethnig gwahanol. O’r 50 o ddysgwyr a gymerodd ran yn y cyrsiau mae 20 wedi ymuno â chyrsiau rhan-amser.

Pobl a fu mewn gweithdy gwehyddu ar wŷdd pegiau yn Amgueddfa Wlân Cymru yn ystod Wythnos Addysg Oedolion.
“Gwerth Wythnos Addysg Oedolion yw ei bod yn annog oedolion i ddal ati i ddysgu trwy gydol eu hoes,” meddai Michelle Seabourne, rheolwr arweiniol gweithredol dysgu oedolion yn y gymuned.
“Gall dysgu gynyddu hyder, gwella llesiant, helpu pobl i gael sgiliau a chymwysterau newydd, cyfarfod pobl newydd a gwella eu cyfle o gael swydd. Mae hefyd yn rhoi ail gyfle mewn bywyd i bobl.”
Trefnodd amgueddfeydd ar draws Cymru hefyd gyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod yr wythnos. Am dros chwe blynedd mae Amgueddfa Cymru wedi darparu rhaglen amrywiol a difyr dros Wythnos Addysg Oedolion ar draws ein teulu o saith amgueddfa,” meddai Loveday Williams, yr uwch swyddog dysgu, cyfranogiad a dehongli.
“Trwy bartneriaethau cryf a chyfleoedd dysgu amrywiol, mae ein rhaglen yn 2026 wedi ymgysylltu â dros 2,000 o bobl ar draws Cymru, gan gefnogi llesiant, cynhwysiant, ymgysylltu ystyrlon ag etifeddiaeth a chysylltiad cymunedol.”
Dywedodd Phoebe Brown, Cyfarwyddwr Caffi Trwsio Cymru: “Roedd Caffi Trwsio Cymru wrth ein bodd o gael cynnal gweithdy gwnïo i ddechreuwyr mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru ar gyfer dysgwyr yng Nghaerdydd. Gadawodd pawb y dosbarth yn teimlo’u bod wedi’u grymuso ac yn fwy hyderus yn eu gallu i ddysgu sgiliau newydd.”
More News Articles
« Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn Dathlu Pen-blwydd yn 30 Oed —

