Beirniadu llym ar doriadau’r gyllideb i raglenni cyflogadwyedd a phrentisiaethau yng Nghymru
English | Cymraeg
Cwestiynwyd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ostwng nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru, pan gyhoeddwyd bwriad i roi £28 miliwn yn llai o gyllid i raglenni cyflogadwyedd ac i rewi cyllideb prentisiaethau.
Mae’r toriadau brawychus hyn – a gafodd eu cyfrifo gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith – wedi’u seilio ar ffigurau’r gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddoe (dydd Mawrth).
Bydd cyllid ar gyfer rhaglenni cyflogadwyedd, yn cynnwys Twf Swyddi Cymru Plws, yn gostwng o £63 miliwn i £39.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn 2027-28; a dywed yr NTFW fod y gyllideb arfaethedig o £151.3 miliwn ar gyfer prentisiaethau yn ostyngiad mewn termau real.
Daeth y cyhoeddiad am y gyllideb ddrafft ar yr un diwrnod ag y cyhoeddodd Alan Milburn ei adolygiad hirddisgwyliedig o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yn y DU – adolygiad sy’n blaenoriaethu prentisiaethau.
Yn awr, mae’r NTFW yn ceisio cefnogaeth Aelodau o’r Senedd a phleidiau gwleidyddol i annog Plaid Cymru i ailystyried y toriadau y mae wedi’u cynnig. Disgrifir y toriadau hyn fel rhai “difrifol” ar adeg pan fo’r galw am raglenni cyflogadwyedd yn fwy o lawer na’r hyn sydd ar gael.
Dywed Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol yr NTFW, nad yw’n rhy hwyr yn y broses o bennu’r gyllideb i Lywodraeth Cymru ailystyried ei buddsoddiad er mwyn cyflawni uchelgeisiau economaidd Cymru, ac meddai: “Mae arnom ni ddyfodol i’n pobl ifanc.”
Mae’r NTFW yn galw am fynd ati mewn ffordd “sydd wedi’i hariannu’n briodol ac sy’n cysylltu cyflogadwyedd, dysgu galwedigaethol, darpariaeth cyn-brentisiaeth, prentisiaethau a symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy.”
“Ni all Cymru gyflawni ei huchelgeisiau ar gyfer twf economaidd, cynhyrchiant, llai o anweithgarwch economaidd a gweithlu cryfach heb fuddsoddi yn y sgiliau a’r bobl a fydd yn gwneud hynny’n bosibl,” meddai Lisa.
“Mae’r NTFW a’i aelodau yn barod i gydweithio’n adeiladol â Llywodraeth Cymru, pob plaid wleidyddol a phob Aelod o’r Senedd i ddatblygu atebion sy’n ymateb i’r heriau hyn.
“Byddai cyllideb wedi’i rhewi ar £151.3 miliwn yn prynu llai o hyfforddiant, yn cefnogi llai o ddysgwyr ac yn rhoi mwy o bwysau ar ddarparwyr.
“Mae’n achos pryder neilltuol na chyhoeddwyd dim buddsoddiad ychwanegol o gwbl ar yr union ddiwrnod y mae Adolygiad Milburn wedi tanlinellu pwysigrwydd hanfodol sgiliau, cyfleoedd a symudedd cymdeithasol i sbarduno twf economaidd, sicrhau bod ystod ehangach o bobl mewn gwaith a llunio dyfodol llewyrchus i Gymru.
“Er bod y gyllideb brentisiaethau yn ddigyfnewid ar £151.3 miliwn, mae’r gyllideb ddrafft yn awgrymu gostyngiad o fwy na £28 miliwn yn Twf Swyddi Cymru Plws a darpariaeth ehangach.ym maes cyflogadwyedd.
“O’u cymryd gyda’i gilydd, mae perygl i’r cynigion hyn wanhau’r llwybrau y mae llawer o bobl ifanc yn dibynnu arnynt i fyd gwaith ac i symud ymlaen i brentisiaethau.
“Mae Adolygiad Milburn yn herio llywodraethau i wneud mwy i fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd a diweithdra ymhlith pobl ifanc drwy ymyrryd yn gynt a gosod llwybrau cadarnach i fyd gwaith.
“Felly mae’n anodd cysoni’r uchelgeisiau hynny â chynigion sy’n rhewi’r buddsoddiad mewn prentisiaethau mewn termau real ac yn lleihau cyllid ar gyfer cymorth cyflogadwyedd.
“Mae Twf Swyddi Cymru Plws yn cefnogi llawer o’r bobl ifanc sydd bellaf o’r farchnad lafur, yn cynnwys nifer fawr sydd o gefndiroedd difreintiedig a dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn aml, y rhaglenni hyn yw’r cam cyntaf tuag at brentisiaethau, dysgu pellach a chyflogaeth gynaliadwy.
“Credwn fod achos cryf dros fuddsoddi mwy wrth i broses y gyllideb symud ymlaen. Ni ddylid cyfyngu’r buddsoddiad hwnnw i brentisiaethau yn unig.
“Mae ar Gymru angen ffrwd sgiliau sydd wedi’i hariannu’n briodol ac sy’n cefnogi pobl ifanc o raglenni cyflogadwyedd cychwynnol ymlaen at ddysgu galwedigaethol, prentisiaethau a chyflogaeth gynaliadwy.”
Wrth sôn am y toriadau i raglenni cyflogadwyedd, dywedodd bod perygl i Lywodraeth Cymru gefnu ar “rai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig a’r bobl ifanc sydd bellaf o’r farchnad lafur”.
“Gallai lleihau’r ddarpariaeth gael canlyniadau difrifol, nid yn unig i unigolion, ond hefyd i gymunedau, cyflogwyr ac economi ehangach Cymru, gan fod arnyn nhw angen i’r bobl ifanc hyn gael cyfleoedd er mwyn llwyddo,” pwysleisodd.
“Dylai negeseuon canolog Adolygiad Milburn ynghylch camau ataliol, ymyrryd yn gynnar, taclo anweithgarwch economaidd a chreu llwybrau gwirioneddol i gyflogaeth brocio pawb sy’n ymwneud ag addysg, sgiliau, cyflogadwyedd a datblygiad economaidd i weithredu.
“Eto i gyd, ar yr union adeg y dylem fod yn cryfhau ein hymateb, mae perygl y bydd y gostyngiadau a gynigir mewn cyllid cyflogadwyedd, ochr yn ochr â chyllideb brentisiaethau ddigyfnewid, yn tanseilio’r union ddarpariaeth sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â’r heriau hyn yng Nghymru.”
More News Articles
« Prentis arobryn yn paratoi ar gyfer Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills —


