Callum, y gweithiwr gofal, yn sôn am fanteision prentisiaethau i bobl ifanc

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Gyda miloedd o bobl ifanc ledled Cymru’n disgwyl yn bryderus am eu canlyniadau TGAU a Lefel A y mis hwn, mae Callum Fennell sy’n weithiwr gofal wedi tynnu sylw at fanteision prentisiaeth i rai sy’n gadael yr ysgol.

Callum Fennell

Mae Callum, 18, yn falch iawn iddo ddewis prentisiaeth er mwyn datblygu gyrfa werth chweil ar ôl teimlo nad oedd yr ysgol yn addas iddo.

Aeth i weithio yng Nghartref Gofal Preswyl Bethany yng Nghas-gwent pan oedd yn 16 oed ac mae ei hyder, ei sgiliau a’i ragolygon am yrfa oll wedi’u trawsnewid trwy gymryd Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a ddarperir gan y darparwr dysgu seiliedig ar waith ACT.

Wrth wneud prentisiaeth mae Callum yn ennill arian wrth ddysgu ac mae’n cael y profiad ymarferol sydd mor bwysig i lawer o gyflogwyr yng Nghymru.

Mae prentisiaethau’n agored i bawb dros 16 oed, o bob gallu, ac fe gaiff pob prentis gefnogaeth bwrpasol. Mae swyddi i’w cael mewn 23 o sectorau, yn amrywio o adeiladwr, triniwr gwallt, cogydd a chynorthwyydd deintyddol i beiriannydd, dadansoddwr seiberddiogelwch, ariannydd banc a gosodwr prif bibellau nwy.

Cynigir prentisiaethau ar bedair lefel, gydag un yn addas i bob dysgwr, o Brentisiaeth Sylfaen sy’n cyfateb i bum pàs TGAU, i Brentisiaeth Gradd sy’n cyfateb i radd baglor lawn. Caiff prentisiaid ddysgu’n ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Erbyn hyn, caiff pobl ifanc elwa ar y Warant i Bobl Ifanc, sef adduned gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pawb o dan 25 oed yn cael cynnig cefnogaeth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, canfod swydd neu fynd yn hunangyflogedig.

Gallant siarad â Cymru’n Gweithio, sy’n cynnig cyngor diduedd am yrfaoedd yn ddi-dâl ac a all eu helpu i weld beth yw eu hopsiynau. Ewch i cymrungweithio.llyw.cymru/dechrau-dy-stori neu ffoniwch 0800 028 4844 i gael gwybod rhagor.

Mae Callum yn dangos beth y gellir ei gyflawni trwy ddewis prentisiaeth. Mae ei gyflogwr yn ei annog i symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3 ar ôl cwblhau ei gymhwyster presennol ac mae Callum yn awyddus i barhau i weithio yn y sector gofal.

“Rwy wrth fy modd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau’r bobl rwy’n eu cefnogi, ac rwy’n teimlo fy mod i wedi datblygu fel person ers i mi ddechrau fy mhrentisiaeth,” meddai. “Mae fy nghyflogwr wedi rhoi’r cyfle i mi dyfu yn fy ngwaith.

“Fy nod yn y pen draw yw symud i swydd uwch lle gallaf roi meddyginiaethau, arwain tîm, delio ag argyfyngau a chysylltu â gweithwyr proffesiynol allanol. Trwy weithio’n galed, rwy’n hyderus y gallaf i gyrraedd y nod hwn yn fy ngyrfa.”

Dywedodd Emma Jones, asesydd Callum gydag ACT: “Mae Callum wedi meithrin cymaint o hyder a sgiliau ers iddo ddechrau ei brentisiaeth yn fachgen swil 16 oed. Mae’r preswylwyr wrth eu bodd ag ef ac mae agwedd gefnogol iawn ei gyflogwr, sy’n barod i roi hwb iddo, yn golygu ei fod yn ffynnu.

Dywedodd Emily Jarvis, dirprwy reolwr Cartref Gofal Preswyl Bethany: “Callum yw’r prentis cyntaf i ni ei gyflogi sydd newydd adael yr ysgol, ond mae’n sicr yn rhywbeth y bydden ni’n ei wneud eto.

“Mae’n gwneud yn dda iawn, bob amser yn hapus ac yn llawn bywyd ac mae’n ffitio’n dda yn y tîm. Rwy’n credu bod prentisiaethau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn fuddiol iawn gan eu bod yn cynnig profiad go iawn yn y gweithle yn hytrach nag astudio yn yr ystafell ddosbarth.”

acttraining.org.uk

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —