Niwroamrywiaeth a dysgu gydol oes yn profi’n gyfuniad grymus i Aaron

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Aaron Jones standing in the bar area of the restaurant.

Aaron Jones, esiampl sy’n ysbrydoli o niwroamrywiaeth a phrentisiaethau.

Mae Aaron Jones wedi ennill gwobr genedlaethol ar ôl dod yn esiampl i bobl niwroamrywiol a dangos grym trawsnewidiol dysgu gydol oes.

Yn gweithio fel uwch-weinydd rhan-amser yn y Penycae Inn, ger Abertawe, mae wedi cael ei gefnogi gan ei gyflogwyr a Hyfforddiant Cambrian i ychwanegu Prentisiaeth Lefel 3 mewn Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch at restr ei lwyddiannau.

Nid yn unig mae ei brentisiaeth wedi rhoi sgiliau gweithle iddo ond hefyd hyder i ddod yn siaradwr cyhoeddus am ei daith yn dysgu a niwroamrywiaeth. Yn llysgennad dros ddysgu yn y gweithle, fe’i henwebwyd yn ddiweddar yn Brentis y Flwyddyn gan Hyfforddiant Cambrian.

I gydnabod ei daith yn dysgu, enillodd Aaron, 25, y Wobr Sgiliau Gwaith yng Ngwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli! eleni a fydd yn cael eu cyflwyno yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd ar 23 Medi. Mae’n un o blith 11 o enillwyr gwobrau.

Yn uchafbwynt Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru – adultlearnersweek.wales – sy’n rhedeg o 21 hyd 27 Medi, mae’r gwobrau yn cydnabod y rhai sydd wedi dangos ymrwymiad i beidio stopio dysgu. Maent yn cael eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Mae pob enillydd Gwobr Ysbrydoli! yn dangos sut y gall dysgu gynnig ail gyfleoedd, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, cynyddu hyder a helpu cymunedau i ddod yn fwy bywiog a llwyddiannus.

Ar gyfer oedolion yng Nghymru sy’n awyddus i gychwyn ar eu taith ddysgu, bydd cyrsiau blasu yn y cnawd a sesiynau ar-lein yn cael eu rhedeg trwy fis Medi ac yn ystod Wythnos Addysg Oedolion. Bydd cyngor a gwybodaeth ar gael yn lleol i ysbrydoli pobl i droi at ddysgu fel ffordd o gynyddu eu cyflogadwyedd, cynyddu sgiliau bywyd a gwella ansawdd eu bywydau.

Cychwynnodd addysg Aaron yn Ysgol Penmaes, ysgol anghenion addysg arbennig yn Aberhonddu, lle bu’n astudio ers pan oedd yn dair oed nes yr oedd yn 19.

Yna ymunodd â’r Penycae Inn fel gweithiwr cegin, ond fe wnaeth ei gyflogwyr weld bod ei ddawn naturiol o ran gwasanaeth cwsmeriaid yn ei wneud yn fwy addas ar gyfer dyletswyddau gweini. Mae’n awr yn edrych ar ôl cwsmeriaid, yn mentora staff newydd ac yn gwneud rhai shifftiau yn y gegin.

“Rwy’n falch iawn o fy mhrentisiaeth, yn arbennig gan fod rhai yn amau fy ngallu i lwyddo,” meddai Aaron, a ganmolodd ei gyflogwyr, Anthony a Claire Christopher a’r swyddog hyfforddiant lletygarwch Andy Addis-Fuller am gredu yn ei botensial.

“Rwyf yn awtistig sydd, yn y gorffennol, wedi effeithio ar fy hyder, fy sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol. Ond, yn hytrach na gadael i hyn gyfyngu arnaf, rwyf wedi derbyn fy niwroamrywiaeth, ac rwyf wedi gwthio fy hun i oresgyn y rhwystrau hyn.

Gall unrhyw un sy’n niwrowahanol gyflawni’r un fath â mi gyda’r gefnogaeth iawn, gwaith caled a phenderfyniad. Rwyf wedi darganfod fy angerdd ac ni fyddaf fyth yn stopio dysgu.”

Mae’n gobeithio dod yn oruchwyliwr neu reolwr bar yn y dyfodol ac mae ganddo fwy na 22,000 o ddilynwyr ar ei sianel TikTok Aaron’s Ales, lle mae’n adolygu cwrw.

Dywedodd enwebydd y wobr, Alison Collingridge o Hyfforddiant Cambrian: “Nid dim ond stori llwyddiant yw Aaron; mae’n enghraifft berffaith o’r ffordd y gall dysgu oedolion newid bywydau.
Mae’n weithiwr proffesiynol lletygarwch medrus, yn arweinydd a berchir yn ei weithle, ac yn esiampl i bobl ifanc eraill sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.”

Ychwanegodd Michelle Matheron, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru: “Mae dysgu gydol oes yn cynnig cyfleoedd i ni i gyd, boed hynny’n symud i yrfa newydd, dysgu sgil newydd, cefnogi ein hiechyd a’n llesiant neu ddim ond gwneud rhywbeth yr ydym yn ei fwynhau. Gall yr effaith fod yn drawsnewidiol, a gallwn weld hynny trwy hanesion enillwyr ein gwobrau.

“Mae eu hymrwymiad i ddysgu wedi gwneud gwahaniaeth anferth yn eu bywydau ond hefyd i’r rhai o’u cwmpas. Mae dysgu oedolion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac mae’n hanfodol cefnogi a dathlu’r oedolion yng Nghymru sy’n mynd ati i ddysgu, gan oresgyn heriau personol sylweddol i wneud hynny hefyd weithiau. Mewn byd sy’n newid yn gyflym mae’r neges o “beidio byth stopio dysgu” yn bwysicach nag erioed.”

Gall unrhyw un sydd wedi ei ysbrydoli gan stori Aaron gael cyngor a chefnogaeth am ddim trwy Gymru’n Gweithio i archwilio cyfleoedd dysgu a hyfforddi sydd ar gael yn eu hardal leol.

Er mwyn cael gwybod beth sy’n digwydd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, ac i gael cyfarwyddyd personol am eich dewisiadau dysgu a’r gefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch â Cymru’n Gweithio ar 0800 28 4844 neu chwiliwch am cymrungweithio.llyw.cymru.

Yn ôl i’r brig

More News Articles

  —