Fideo gweithdy sgiliau coginio i’w rannu gydag ysgolion ledled Cymru

Disgyblion Ysgol Bro Caereinion Cyfnod Uwchradd gyda swyddogion Cwmni Hyfforddiant Cambrian Andrew Addis-Fuller a Jobe Davies.
Cafodd cogyddion ifanc yn Ysgol Bro Caereinion Cyfnod Uwchradd gyfle i arddangos eu sgiliau coginio o dan arweiniad darparwr hyfforddiant annibynnol blaenllaw yn y diwydiant lletygarwch yng Nghymru.
Cynhaliodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian dau weithdy coginio yn yr ysgol ar gyfer grwpiau o ddisgyblion blwyddyn 9, 10, ac 11 sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant lletygarwch pan fyddent yn gadael yr ysgol. Bydd fideo o’r gweithdai yn cael ei rannu gydag ysgolion ledled Cymru fel adnodd dysgu sgiliau i helpu i hyrwyddo prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith.
Y swyddog hyfforddi lletygarwch, Andrew Addis-Fuller, a Swyddog Datblygu Busnes, Jobe Davies, dau gogydd cymwys, oedd yn cynnal y gweithdai, gan ddangos sut i wneud bara soda, cawl llysieuol a Chaws Pob Cymreig.
Gyda chefnogaeth y cogyddion, dangosodd y 17 disgybl eu sgiliau coginio eu hunain trwy wneud a bwyta’r eitemau bwyd blasus. Cyflenwyd yr holl gynhwysion gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian.
Siaradodd Jobe ac Andrew â’r disgyblion am eu gyrfaoedd fel cogyddion, eu cyflawniadau a’r cyfleoedd gyrfa yn y diwydiant lletygarwch, gan esbonio bod cymwysterau coginio yn basbort i weithio unrhyw le yn y byd.
Gwahoddwyd Cwmni Hyfforddiant Cambrian i gynnal y gweithdai yn yr ysgol gan y pennaeth, Anwen Orrells, a dywedodd:
“Roedd yn gyfle unigryw i ddisgyblion gael eu hyfforddi gan godyddion o’r radd flaenaf ac fe wnaethon nhw fwynhau’r profiad gwych yn fawr.
“Roedd y cogyddion yn ardderchog wrth esbonio’n glir ac mewn ffordd hyfryd beth oedden nhw’n ei wneud. Rwyf am sicrhau bod ein disgyblion yn cael profiadau a sgiliau bywyd go iawn oherwydd mae cymaint o gyfleoedd iddyn nhw pan fyddent yn gadael yr ysgol.”
Estynnodd ei diolch i Gwmni Hyfforddiant Cambrian am redeg y gweithdai a chyflenwi’r cynhwysion i’r disgyblion.
Dywedodd Alison Collingridge, Pennaeth Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian:
“Roedd y bwyd a gynhyrchwyd y ddau grŵp blwyddyn yn anhygoel. Roedd y disgyblion a’r staff yn gwerthfawrogi Andy a Jobe am rannu eu sgiliau a’u gwybodaeth.
“Bydd fideo o’r gweithdai yn cael ei olygu i greu adnodd dysgu sgiliau defnyddiol y gellir ei rannu gydag ysgolion eraill ledled Cymru.”
Wedi’i leoli yn y Trallwng, mae gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian swyddfeydd ledled Cymru ac yn un o brif ddarparwyr annibynnol y wlad o brentisiaethau yn y diwydiant lletygarwch. Mae’r prentisiaethau yn cael eu darparu ar gyfer Medr, corff addysg drydyddol ac ymchwil Llywodraeth Cymru.
More News Articles
« Sêr newydd lletygarwch yn mynd â phrentisiaethau i galon Llywodraeth Cymru —

