CHC yn dathlu 30 mlynedd mewn Busnes ym mis Medi

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Faith O’Brien, Managing Director of Cambrian Training Company,

Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Dros y 30 mlynedd diwethaf mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi tyfu o fod yn is-gwmni bach Twristiaeth Canolbarth Cymru, gan ddarparu sgiliau galwedigaethol i gefnogi datblygiad sector twristiaeth y rhanbarth, i fod yn un o ddarparwyr prentisiaethau mwyaf arloesol a pharchus Cymru. Gydag ymrwymiad cadarn i ragoriaeth, mae CHC wedi arloesi hyfforddiant yn y diwydiannau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod, wrth hefyd ymestyn allan i sectorau newydd megis iechyd a gofal cymdeithasol. Sydd wedi arwain at ennill nifer o wobrau gan gynnwys Darparwr Prentisiaethau’r Flwyddyn a Darparwr Prentisiaethau Dysgu Seiliedig ar Waith Gorau yng Nghymru.

Mae ymroddiad CHC i feithrin talent yn amlwg yn ei mentrau megis creu cystadleuaeth Cigydd Ifanc y Flwyddyn, gwobrau Hyfforddiant Cambrian, a chyfranogiad a chefnogaeth y cwmni wrth redeg cystadlaethau Lletygarwch Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ers ei dechreuad yn 2014. O lansio canolfannau rhagoriaeth i ddod yn gontractwyr uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru, a thrawsnewid i ddod yn ymddiriedolaeth sy’n 100% yn eiddo i’r gweithwyr, mae taith CHC yn adlewyrchu angerdd dwfn am rymuso unigolion, cefnogi cymunedau, a hyrwyddo addysg gynhwysol o ansawdd uchel ledled Cymru. Dros y 30 mlynedd o fod mewn busnes, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi cyflwyno mwy na 20,000 o raglenni prentisiaethau ledled Cymru mewn mwy na 4,500 o fusnesau.

Mae CHC hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth hyrwyddo a chefnogi datblygiad, twf, a chynaliadwyedd hirdymor sectorau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru. Mae’r diwydiannau hwn yn gyfranwyr allweddol i economi cenedlaethol Cymru ac yn sefyll fel ffynonellau allweddol o gyflogaeth, yn enwedig o fewn cymunedau gwledig. Trwy bartneriaethau a nawdd strategol – gan gynnwys Cymdeithas Goginiol Cymru, Gwobrau Bwyd a Diod Cymru, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, a gwobrau twristiaeth ranbarthol – mae CHC yn cefnogi datblygiad y sector, yn dathlu rhagoriaeth, ac yn meithrin arloesedd yn barhaus. Nid yn unig ydy ymgysylltiad dwfn â chyrff a digwyddiadau’r diwydiant yn cryfhau llwybrau galwedigaethol, ond mae hefyd yn sicrhau bod hyfforddiant yn parhau i fod yn berthnasol, ymatebol, ac wedi’i gwreiddiau mewn anghenion gwirioneddol busnesau a chymunedau Cymru.

“Rydym yn falch iawn o’n cyflawniadau yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian dros y 30 mlynedd diwethaf,” meddai Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

“Wrth symud ymlaen, fe fydd CHC yn parhau i greu amgylchedd lle mae rhaglenni dysgu seiliedig ar waith hyblyg yn cefnogi newidiadau ar gyfer system drydyddol gydgysylltiedig.

“Dyma pam rydym yn lansio’r cystadlaethau celfyddydau coginio newydd y bydd ar agor i brentisiaid dysgu seiliedig ar waith CHC a myfyrwyr lletygarwch blwyddyn 10 a 11 mewn ysgolion uwchradd ym Mhowys,” meddai Faith O’Brien.

Mae ‘Cystadleuaeth Gwrs Cyntaf Risotto CHC’ yn seiliedig ar un o dasgau yng nghystadleuaeth Celfyddydau Coginio Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2025-26. Bydd y rownd derfynol yn digwydd yn ein Pafiliwn CHC ar Faes y Sioe Frenhinol ar ail ddiwrnod Y Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ar y 25ain o Dachwedd 2025. Mae’r amser yn cyd-fynd yn berffaith â diwrnod agor cofrestriadau ar gyfer cystadleuaeth Celfyddydau Coginio Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2025-26, sydd ar agor i brentisiaid cofrestru o 25ain o Dachwedd tan 6ed o Ragfyr 2025. Mae rowndiau terfynol cystadleuaeth fach CHC hefyd yn cyd-fynd â Chymru yn cynnal Rowndiau Terfynol WorldSkillsUK, a gynhelir rhwng 25ain – 28ain Tachwedd 2025.

Bydd enillwyr y cystadlaethau ysgol a phrentisiaethau dysgu seiliedig ar waith yn ennill daleb Amazon £50.

“Mae taith CHC hyd yn hyn wedi cael ei ddiffinio gan bartneriaethau cryf, arloesi wrth ddarparu dysgu, ac ymrwymiad angerddol tuag at rymuso pobl gyda’r sgiliau a’r wybodaeth maen nhw angen i ffynnu mewn economi cystadleuol, sy’n newid yn gyflym. Byddwn yn parhau gyda’r gwerthoedd hwn wrth i ni ymgysylltu â mwyfwy o ddysgwyr Cymru a’u hysbrydoli nhw i lwyddo yn eu gyrfaoedd dewisol,” meddai Faith O’Brien.

Hyfforddiant Cambrian

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —