Prentis Uwch y Flwyddyn heb adael i ddyslecsia ddal ei gyrfa yn ôl

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Dydi Nerys Smithwick ddim wedi gadael i ddyslecsia ddal ei gyrfa yn ôl yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd, lle mae’n gweithio ei ffordd i fyny.

Apprentice Neys Smithwick receiving her award

Nerys Smithwick yn derbyn ei gwobr oddi wrth Arwyn Watkins OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr, Hyfforddiant Cambrian.

Mae Nerys, 35 oed, yn byw ym Mlaenafon a chafodd ei hymroddiad i ddysgu ei gydnabod pan enwyd hi’n Brentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau blynyddol Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau Cwmni Hyfforddiant Cambrian. Roedd dathliad dwbl wrth i The Celtic Collection, sy’n cynnwys Gwesty Hamdden y Celtic Manor, gael ei enwi’n Gyflogwr Mawr y Flwyddyn.

A hithau wedi cwblhau cyfres o brentisiaethau dros y saith mlynedd diwethaf, gan wella’i sgiliau, ei gwybodaeth a’i hyder, mae Nerys wedi’i gwobrwyo â sawl dyrchafiad yn y Celtic Manor.

Mae hi wedi symud ymlaen o waith bar i fod yn oruchwyliwr gwasanaeth ystafelloedd a dywedir ei bod yn ysbrydoliaeth i’w chydweithwyr sydd hefyd yn gweithio tuag at brentisiaethau.

Ar ôl gwneud Prentisiaeth mewn Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch, mae Nerys wedi symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Lletygarwch a bellach y cymhwyster Lefel 5.

Mae’n ddiolchgar am gefnogaeth ei chyflogwr, Cwmni Hyfforddiant Cambrian a’i chydweithwyr, a dywedodd Nerys: “Roedd yn fraint cyrraedd y rhestr fer a doeddwn i byth yn disgwyl ennill y wobr – mae’n golygu llawer i mi.

“Mae’r wobr hon yn profi bod prentisiaethau yn gweithio. Maen nhw’n rhoi cymaint o wybodaeth a hyder i chi ac rydw i wedi rhoi popeth rydw i wedi’i ddysgu yn ystod fy mhrentisiaethau ar waith yn y gweithle.”

Os hoffech gyflogi prentis, neu gychwyn Prentisiaeth gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, cysylltwch â ni i drafod y posibiliadau a sut y gallwn ni’ch cefnogi chi.
Ebost: info@cambriantraining.com neu Ffôn: 01938 555893

Hyfforddiant Cambrian

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —