Gweminarau i dargedu prentisiaid lletygarwch a bwyd a diod y dyfodol

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Swyddog Hyfforddiant Cambrian yn hyfforddi disgyblion sy’n astudio TGAU Paratoi Bwyd a Maeth.

Mae un o brif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith Cymru yn trefnu dwy weminar ar 9 a 10 Chwefror i hyrwyddo prentisiaethau i ddisgyblion ysgol a’u rhieni.

Bydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian o’r Trallwng, sydd â swyddfeydd ledled Cymru, yn hyrwyddo prentisiaethau mewn lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod mewn gweminarau ar wahân yn ystod Wythnos Prentisiaethau Cymru – 9-15 Chwefror.

Mae’r cwmni’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa yn y ddau sector a darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar ddisgyblion a’u rhieni.

Mae prentisiaeth, lle mae dysgwyr yn ennill cyflog wrth ddysgu yn y gweithle, yn cael ei ddewis yn gynyddol gan ddisgyblion sy’n ymadael â’r ysgol fel dewis amgen i radd fel llwybr at yrfa lwyddiannus.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian a darparwyr hyfforddiant o Gymru eraill yn gweithio’n agos gyda Medr, corff ymchwil ac addysg drydyddol Cymru, i sicrhau bod parch cydradd rhwng prentisiaethau a graddau.

Bydd y gweminarau yn canolbwyntio ar voco St David’s Cardiff InterContinental Hotels (IHG), gwesty pum seren nodedig, ar 9 Chwefror o 6yp a chwmni arobryn y Drenewydd, Hilltop Honey, ar 9 Chwefror o 5.30yp.

Cyfranwyr i weminar voco St David’s Cardiff IHG fydd Lauren Bailey, partner busnes adnoddau dynol, voco St David’s Cardiff, ac un o’u brentisiaid, rheolwr y tîm sba Kanchan James, sy’n gweithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid, Arwyn Watkins, OBE, llywydd Cymdeithas Goginiol Cymru a chynghorydd goruchwylio gweithredol Grŵp Hyfforddiant Cambrian, a Chris Bason, pennaeth lletygarwch Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Bydd gweminar Hilltop Honey yn cynnwys cydlynydd adnoddau dynol a hyfforddiant y cwmni, Kate Preston, prentis Rheoli Technegol yn y Diwydiant Bwyd Wyn Griffiths, sy’n gweithio mewn sicrhau ansawdd cyflenwyr, Carys Evans, swyddog datblygu busnes Cwmni Hyfforddiant Cambrian a Nia Griffith, rheolwr ymgysylltu sgiliau bwyd a diod ar gyfer Mentera.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gweminarau trwy Eventbrite, gan ddefnyddio’r dolenni canlynol:
Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod: https://tinyurl.com/yzs9am4p
Lletygarwch: https://tinyurl.com/yeywftff.

Bydd y gweminarau yn gynnwys fideo byr am Gwmni Hyfforddiant Cambrian a throsolwg o’r sectorau gweithgynhyrchu bwyd a diod a lletygarwch yng Nghymru.

Bydd siaradwyr gwadd yn rhannu sut mae prentisiaethau yn gweithio yn eu busnesau a bydd prentis yn adrodd eu profiad uniongyrchol o ennill cyflog wrth ddysgu.

Bydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn rhoi manylion o’r llwybrau prentisiaeth dysgu seiliedig ar waith sydd ar gael.

Bydd sesiwn holi ac ateb byw gyda’r siaradwyr gwadd yn dilyn gyda chyfle i’r gynulleidfa holi cwestiynau.

“Mae’r gweminarau wedi’u cynllunio i ddarparu gwybodaeth fanwl i ddisgyblion sy’n ymadael â’r ysgol yn y dyfodol a’u rhieni, felly y gallent wneud penderfyniadau gwybodus am yrfaoedd yn y sectorau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod,” meddai Faith O’Brien, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

“Mae’r ddau yn sectorau pwysig iawn i economi Cymru ac yn cynnig gyrfaoedd cyffrous a gwerth chweil i ddysgwyr sy’n ymadael â’r ysgol. Mae’r gweminarau yn rhan allweddol o’n rhaglen o weithgareddau yn ystod Wythnos Prentisiaethau Cymru i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd dysgu seiliedig ar waith.”

Hyfforddiant Cambrian

Yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —