Catherine Grace yn benderfynol o wireddu ei breuddwyd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Catherine Cox has shown tenacity to follow her career dream.

Mae Catherine Grace Cox wedi dangos ei bod yn benderfynol o wireddu ei breuddwyd.

Bu’n freuddwyd gan Catherine Grace Cox gael gyrfa’n trin gwallt er pan oedd yn ifanc iawn a byddai’n helpu yn salon ei modryb yn aml. Ond roedd arni ddyslecsia difrifol a bu hynny’n rhwystr iddi yn ystod ei haddysg.

Roedd wedi gobeithio dilyn Hyfforddeiaeth Ymgysylltu Alwedigaethol mewn Trin Gwallt ond cafodd ei dal y ôl am na allai feistroli sgiliau llythrennedd a rhifedd ac, ym mis Mehefin 2015, pan aeth yn feichiog, bu’n rhaid iddi ohirio ei chynlluniau tra bu’n ymdopi â bod yn fam yn ei harddegau.

Ond, roedd yn hollol benderfynol a daeth yn ôl i’r rhaglen Ymgysylltu yn 2016 trwy’r darparwr hyfforddiant Grŵp Llandrillo Menai. Cyn hir, symudodd ymlaen i NVQ Lefel 1 mewn Trin Gwallt gan wella’i sgiliau llythrennedd a rhifedd ar yr un pryd.

Erbyn hyn, mae wedi’i chydnabod yn un o ddysgwyr gorau Cymru trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu) yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celftic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Erbyn hyn, mae Catherine Grace, sy’n 19 oed, yn gweithio mewn salon gyda chyflogwr cefnogol sy’n hapus iawn â’i hynni a’i brwdfrydedd.

Dywedodd arweinydd tîm Hyfforddeiaethau Ymgysylltu Grŵp Llandrillo Menai, Eric Christie: “Ar ôl blynyddoedd o rwystredigaeth, mae gennym ddysgwraig ddeinamig, hyderus a phroffesiynol. Does dim byd yn ei dal hi yn ôl.”

Dywedodd Catherine Grace: “Mae’r Hyfforddeiaaeth wedi rhoi’r hyblygrwydd a’r amser i wella i mi. Rwy’n teimlo’n fwy hyderus am fy addysg, y sgiliau rwy’n eu datblygu a fy ngallu i gael swydd. Dwi am fynd ymlaen yr holl ffordd i fod yn dechnegydd lliw – ac mi wnaf i.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Catherine ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James:

“Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —