Sioeau Teithiol Llais Ieuenctid: gwrando ar weithlu’r dyfodol

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Group of young people that attended the roadshow.

Yr haf hwn, cychwynnodd Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfres o sioeau teithiol Llais Ieuenctid, gan ymgysylltu â dros 90 o bobl ifanc ar draws pedwar coleg – Coleg Merthyr, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg y Cymoedd, a Choleg Penybont.

Roedd y sesiynau hyn yn gyfle gwerthfawr i glywed yn uniongyrchol oddi wrth fyfyrwyr am eu huchelgeisiau o ran eu gyrfaoedd, yr heriau y maent yn eu hwynebu, a’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt i ffynnu yn y byd gwaith.

Mae’r adborth, a gasglwyd trwy arolygon Mentimeter rhyngweithiol, yn paentio darlun lliwgar o genhedlaeth sy’n uchelgeisiol, yn feddylgar ac yn awyddus i gyfrannu.

O ddarpar drydanwyr a chogyddion i bobl greadigol, entrepreneuriaid a gweision cyhoeddus y dyfodol, mae pobl ifanc ledled y rhanbarth yn glir ynglŷn â’r hyn maen nhw ei eisiau a’r hyn sydd ei angen arnynt.

Uchelgeisiau a dyheadau
Mynegodd myfyrwyr ystod eang o yrfaoedd o ddiddordeb, gyda chynrychiolaeth gref yn y
diwydiannau creadigol, adeiladwaith a chrefftau, lletygarwch ac arlwyo, iechyd a gofal cymdeithasol, a llwybrau llawrydd neu entrepreneuraidd.

Ymhlith y sectorau mwyaf poblogaidd roedd y diwydiannau creadigol, adeiladwaith, digidol a thechnoleg, lletygarwch a thwristiaeth, a chyllid a busnes.

Sgiliau sy’n bwysig
Pan ofynnwyd iddynt am y sgiliau pwysicaf i’w dyfodol, tynnodd pobl ifanc sylw’n gyson at gyfathrebu, hyder, gwaith tîm, datrys problemau, gwytnwch a chreadigrwydd.

Mae’r ymatebion hyn yn adlewyrchu pwyslais cryf ar alluoedd rhyngbersonol ac ymarferol – sgiliau sy’n hanfodol yn y farchnad swyddi datblygol heddiw.

Rhwystrau a heriau
Er eu brwdfrydedd, nododd llawer o fyfyrwyr rwystrau sylweddol i ddilyniant. Ymhlith y rhai mwyaf cyffredin roedd diffyg profiad, cyfyngiadau ariannol, cyfleoedd cyfyngedig am swyddi, costau trafnidiaeth, a diffyg mynediad at gyfleoedd hyfforddiant neu rwydweithio.

Mae’r heriau hyn yn tanlinellu pwysigrwydd cymorth targedig a llwybrau cynhwysol i gyflogaeth.

Cymorth a dewisiadau dysgu
Mynegodd pobl ifanc ffafriaeth glir ar gyfer dysgu trwy brofiad.

Ystyriwyd lleoliadau gwaith, interniaethau a gweithdai ymarferol fel y ffyrdd mwyaf gwerthfawr o baratoi. Soniwyd yn aml hefyd am fentora, hyfforddiant gyrfa, a mynediad at weithwyr proffesiynol o’r diwydiant fel galluogwyr allweddol ar gyfer llwyddiant.

Dylanwadau a disgwyliadau
Nodwyd mai cyflog, boddhad yn y swydd, lleoliad, hyblygrwydd, a gwerthoedd y cwmni yw’r ffactorau pwysicaf sy’n dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch gyrfaoedd. Er bod llawer o fyfyrwyr yn teimlo’n “weddol hyderus” am y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt, dim ond tua hanner sy’n teimlo’n gwbl “barod i weithio.” Mae hyn yn tynnu sylw at yr angen am arweiniad a chefnogaeth gynharach, wedi’u teilwra’n fwy.

Sgiliau digidol a phrentisiaethau
Roedd safbwyntiau ar sgiliau digidol yn gymysg. Er bod llawer yn eu hystyried yn hanfodol, roedd eraill – yn enwedig y rhai sy’n dilyn gyrfaoedd creadigol neu ymarferol – yn credu eu bod yn llai pwysig.

Mae prentisiaethau yn parhau i fod yn llwybr poblogaidd, ond galwodd myfyrwyr am gyflogau
gwell, mwy o welededd, a chyfleoedd mwy hyblyg a pharchus.

Yr hyn y mae pobl ifanc ei eisiau
Yn anad dim, mae pobl ifanc eisiau cael eu trin â pharch, cael cyfleoedd teg, a chael eu cefnogi i ddatblygu eu hyder a’u sgiliau. Maent yn gofyn am lwybrau clir i mewn i waith, amgylcheddau cynhwysol, a system sy’n cydnabod eu potensial – beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau.

Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —