Busnes cig yn lansio academi i ddatblygu staff sgilgar

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mike Smith, Celtica Foods’ development officer, with apprentices.

Mike Smith, swyddog datblygu Celtica Foods, gyda rhai o’r prentisiaid.

Er mwyn denu, datblygu a chadw gweithwyr o’r cylch, penderfynodd cwmni Celtica Foods, busnes arlwyo, cigydda a phrosesu cig yn y gorllewin, ddatblygu ei academi hyfforddi ei hunan.

Mae gan y cwmni o Cross Hands 75 o weithwyr a throsiant o £12.8 miliwn. Mae’n cyflenwi’r sector lletygarwch ac arlwyo ac mae’n cynhyrchu llawer o’i fwydydd yn arbennig ar gyfer cwsmeriaid unigol ac felly mae angen cigyddion medrus i brosesu’r archebion.

Yn awr, mae Celtica Foods wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017. Bydd y cwmni’n cystadlu i fod yn Gyflogwr Canolig y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celftic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Roedd Celtica Foods, sy’n rhan o gwmni cyfanwerthwyr Bwydydd Castell Howell, yn gweld mai un rhwystr posibl i’r busnes oedd oedran y prif gigyddion – 49 oed ar gyfartaledd – ac roedd y newid yn y farchnad lafur yn golygu bod llai o gigyddion medrus ar gael i’w recriwtio.

Dywedodd Edward Morgan, Rheolwr Gyfarwyddwr Celtica Foods: “Oherwydd deinameg cyflogaeth yn y sector cig ym Mhrydain, nid oes llawer o bobl ifanc yn dysgu’r grefft.”

Roedd angen i’r cwmni ddenu gweithwyr iau a sicrhau eu bod yn dysgu holl sgiliau cigydda er mwyn bodloni gofynion y sector arlwyo a lletygarwch.

Felly, sefydlwyd academi hyfforddi ac mae’r darparwr hyfforddiant, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn cyflenwi cymwysterau sy’n amrywio o Brentisiaethau Sylfaen mewn Cig a Dofednod, a Sgiliau’r Diwydiant Bwyd, i Brentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd. Dros y degawd diwethaf, mae 114 aelod o staff wedi cwblhau rhaglenni prentisiaethau ac mae gan y cwmni naw prentis ar hyn o bryd.

Meddai Edward: “Mae’n amlwg bod y prentisiaid yn frwd iawn i gario ymlaen i ddysgu ac maent yn ymateb yn dda i’r amser sy’n cael ei fuddsoddi ynddynt.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Celtica Foods ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —