Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn penodi Llysgenhadon Prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

logo

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol newydd benodi 11 o lysgenhadon sydd yn dilyn prentisiaethau ar draws Cymru gyfan.

Trwy gydol y flwyddyn mi fydd y llysgenhadon yn helpu’r Coleg Cymraeg a’u darparwyr prentisiaethau i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dwyieithrwydd yn y gweithle wrth ddilyn eu prentisiaeth, a hybu’r defnydd o’r iaith o fewn y gweithle.

Rhai o’r tasgau fydd y llysgenhadon yn ymgymryd â nhw bydd cyflwyno blogiau ar eu gwaith fel prentisiaid Cymraeg, hybu prentisiaethau cyfrwng Cymraeg mewn digwyddiadau megis nosweithiau agored a creu cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd y prentisiaid hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg yn ystod Wythnos Prentisiaethau, fydd yn digwydd yn mis Chwefror. Bydd yr wythnos hon yn gyfle iddynt hyrwyddo’r cyfleoedd y maent wedi derbyn trwy gyfrwng y Gymraeg wrth gwblhau eu prentisiaeth.

Dywedodd Moc Roberts, un o’r llysgenhadon:
“Dwi’n gyffrous iawn i fod yn lysgennad i’r Coleg Cymraeg eleni. Mae gallu defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd gyda fy nghyflogwr a cwsmeriaid yn sgil allweddol wrth i fi ddilyn fy mhrentisiaeth Plymio a Nwy, a dwi’n edrych ymlaen i rannu fy ngwahanol brofiadau.”

Gallwch ddilyn hanesion ein llysgenhadon ar wefan a chyfryngau cymdeithasol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —