Annog y Sector Sgiliau i Gadw Hyfforddiant yn Uchel ar Agenda Llywodraeth Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn galw ar randdeiliaid yn y sector sgiliau a hyfforddiant i gydweithio i sicrhau bod sgiliau’n dal yn uchel ar yr agenda wleidyddol.

Gwrandewch yma – Sgwrs lle mae Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW, yn siarad â Cathy Owens, cyfarwyddwr yn Cavendish Consulting (Sain – Saesneg yn unig).

 

Bu Lisa a Cathy’n trafod yr hyn y gallai Llywodraeth newydd Plaid Cymru ei olygu i’r ecosystem sgiliau yng Nghymru a’r hyn a ddywedai maniffesto Plaid Cymru am addysg bellach a sgiliau. Mae’r ddwy’n cytuno bod angen i randdeiliaid gydweithio i sicrhau bod yr ymrwymiadau hynny’n cael eu cyflawni yn awr bod y blaid mewn llywodraeth.

Maent hefyd yn trafod yr angen i ddarparwyr hyfforddiant, cyflogwyr a’r gymuned sgiliau ehangach rannu gwybodaeth ag Aelodau newydd o’r Senedd, Aelodau sy’n dychwelyd a gweinidogion a dirprwy weinidogion newydd.

Yn ôl i’r brig

More News Articles

  —