Corey’r prentis yn dringo ysgol rheolwyr Aldi

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Corey Jones, developing a promising career with Aldi.

Corey Jones, yn datblygu gyrfa addawol gydag Aldi

O gychwyn ar brentisiaeth gydag un o brif archfarchnadoedd Prydain i ddod yn rheolwr siop cynorthwyol, does dim yn cynhyrfu Corey Jones.

Wrth adael yr ysgol, roedd Corey, sy’n 22 oed ac yn byw yn Wrecsam, yn awyddus i weithio wrth ddysgu ac mae wedi synnu at ei ddatblygiad ei hunan ers iddo ymuno â Rhaglen Brentisiaethau Aldi, a gyflenwir gyda chymorth y darparwr hyfforddiant First4Skills/ITEC.

Enillodd Ddiploma Lefel 3 mewn Sgiliau Manwerthu ac mae wedi dringo o fod yn gynorthwyydd siop yn y flwyddyn gyntaf i fod yn rheolwr cynorthwyol y cwmni yn siop yr Wyddgrug ar ôl dilyn hyfforddiant rheoli siopau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae Corey wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celftic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Meddai Corey: “Mae fy natblygiad i wedi cyfrannu at amcanion Aldi yn eu siopau mewn sawl gwahanol ffordd. Rwy’n canolbwyntio ar yr holl ddangosyddion perfformiad allweddol ac rwy’n gwneud cynlluniau ac yn pennu targedau i sicrhau bod y siop yn cyrraedd y nod.”

Yn ei flwyddyn olaf, gan ei fod yn sylweddoli pa mor bwysig oedd yr hyfforddiant a’r sgiliau a gafodd, daeth yn fentor ar gyfer prentis newydd.

“A minnau’n cyrraedd diwedd fy mhrentisiaeth, roeddwn i am gyfrannu at ei hyfforddiant ef er mwyn ei helpu i fod mor llwyddiannus ag yr ydw i gydag Aldi,” meddai Corey.

Dywedodd Alice Lees, rheolwr ardal Aldi: “Mae Corey bob amser yn defnyddio’r hyn y mae wedi’i ddysgu er mwyn gwella’r siop. Mae wedi dangos ymroddiad i’r rhaglen brentisiaethau ar hyd yr amser ac felly, ymhen amser, cafodd gynnig swydd rheolwr cynorthwyol.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Corey ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —