Mae CHC yn adeiladu gysylltiadau diwydiant i hyrwyddo gwerthiannau a chyflawni twf.

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Junior Chef of Wales, Sam Everton and National Chef of Wales, Josh Morris.

Chwith-Dde: Cogydd Ifanc Cymru, Sam Everton a Chogydd Cenedlaethol Cymru, Josh Morris

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian (CHC) yn falch o’i gysylltiadau diwydiannol blaenllaw.

Tyfodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian allan o fod yn is-gwmni i Dwristiaeth Canolbarth Cymru a darparodd sgiliau galwedigaethol i gefnogi datblygiad sector twristaidd yr ardal i helpu i gryfhau cyfleoedd economaidd yng nghefn gwlad Cymru. Ers hynny, mae’r cwmni wedi ehangu, gan ledaenu i ddysgu a sgiliau seiliedig ar waith a rhaglenni prentisiaeth i nifer o sectorau ac mae bellach yn gweithredu ledled Cymru. Ond, mae calon CHC yn parhau i fod ei gwreiddiau twristiaeth ac yn ddarparwr blaenllaw o brentisiaethau lletygarwch a bwyd a diod yng Nghymru.

Bod yn rhagweithiol wrth gefnogi sector lletygarwch Cymru
Mae CHC yn noddwyr ac yn gefnogwyr o waith Cymdeithas Coginiol Cymru. Cadeirydd Gweithredol CHC, Arwyn Watkins OBE, yw llywydd Cymdeithas Coginiol Cymru (CAW) ac mae pob Swyddog Hyfforddi Celfyddydau Coginio CHC yn aelodau o CAW.

Mae staff CHC yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau CAW i helpu i gyflawni Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru (WICC) y Gymdeithas. Mae’r digwyddiad yn dod â chogyddion crefft, cigyddion crefft a staff blaen tŷ i gystadlu mewn tridiau o gystadlaethau a dosbarthiadau sgiliau, gan gynnwys cystadlaethau Cogydd Cenedlaethol ac Iau Cymru y Flwyddyn.

Gyda chefnogaeth barhaus CHC, mae’r WICC wedi tyfu’n gynyddol ac mae wedi dod yn un o’r digwyddiadau sgiliau lletygarwch mwyaf yng Nghymru.

Arweinydd ar gyfer Rowndiau Terfynol Lletygarwch Cystadleuaeth Sgiliau Cymru
Am y tro cyntaf, bydd rowndiau terfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sy’n cael eu rheoli gan CHC, yn cael eu cynnal yn y WICC.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n rhan o Raglen Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Rhoddir cyfle i brentisiaid herio, meincnodi a chodi eu sgiliau trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.

Dywedodd Arwyn Watkins OBE: “Mae’r WICC yn gyfle gwirioneddol i’r sector ddod at ei gilydd, rhwydweithio a gwneud busnes. Mae’r WICC hefyd yn ddigwyddiad hyrwyddo allweddol ar ‘ffordd i 2026’ wrth i Gymru baratoi i gynnal Cyngres ac Expo Worldchefs yn ICC Cymru ym mis Mai 2026. Bydd hwn yn gyfle unwaith mewn oes i Gymru arddangos ei bwyd a’i diod a’i lletygarwch gwych i gynulleidfa ryngwladol sy’n cynnwys y cogyddion gorau o bob cwr o’r byd.”

Codi Proffil Bwyd a Diod Cymru
CHC yw noddwyr swyddogol Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru. Mae’r gwobrau blynyddol hyn yn rhoi cyfle wych i fusnesau bwyd a diod Cymru arddangos eu brand, nwyddau, cynlluniau a’u pobl, gan dynnu sylw at yr hyn sy’n wneud iddynt sefyll allan o’i gymharu â’r gystadleuaeth. Mae CHC yn falch i dynnu sylw at y rôl mae prentisiaethau’n chwarae yn y sector sy’n cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus ac olyniaeth gyrfaol.

CHC yw’r darparwyr dysgu seiliedig ar waith mwyaf o brentisiaeth cigyddiaeth yng Nghymru a noddwyr swyddogol o’r Prentis Cigydd Crefft Cymreig y Flwyddyn newydd. Bydd y gystadleuaeth newydd hon, wedi’i greu gan Swyddog Hyfforddi Cigyddiaeth CHC, Craig Holly, yn taflu goleuni ar y sgiliau, yr arbenigedd a’r wybodaeth sydd eu hangen i lwyddo yn y maes cigyddiaeth, yn ogystal â hyrwyddo siopau cigydd yng Nghymru a chig Cymreig GI.

Roedd Craig Holly yn Cigydd Cymreig y Flwyddyn yn 2018, ac yn ail yn rownd derfynol Cigyddiaeth Worldskills UK yn yr un flwyddyn. Roedd hefyd yn aelod o Dîm Cigyddiaeth Crefft Cymru lle cafodd yr anrhydedd o gystadlu dros ei wlad yn Her Cigydd y Byd 2022 a gynhaliwyd yn America. Heddiw, mae’n hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o gigyddion o Gymru i helpu i sicrhau eu bod yn llwyddo yn eu proffesiwn.

Hyrwyddo Twristiaeth Cymru
Noddodd CTC y Gwobrau Mid-Wales Tourism cyntaf ac mae’n noddwr cyswllt yn 2024 ar ôl iddynt ddychwelyd ar ôl pandemig COVID.

“Mae twristiaeth yn un o’r cyflogwyr mwyaf yng Nghanolbarth Cymru ac mae wedi tyfu’n sylweddol dros y deng mlynedd diwethaf. Mae CHC yn falch o gefnogi’r sector pwysig hwn ar gyfer economi gwledig canolbarth Cymru,” meddai Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr CHC.

Mae gan Grŵp Cwmni Hyfforddiant Cambrian nifer o fusnesau hefyd, felly mae’r cwmni’n deall ei sectorau busnes o’r pen gwaith. Mae’n berchen Get Jerky, cwmni bwyd Cymreig artisan sy’n arbenigo mewn cynhyrchu cig eidion GI Cymreig ac yn ddiweddar mae wedi lansio Salt Beef by Trailhead unwaith eto gan ddefnyddio cig eidion GI o Gymru.Yn fwy diweddar maent wedi cynnal Ffair Hydref Canolbarth Cymru ar y penwythnos gyntaf o Hydref ar Faes y Sioe Frenhinol i helpu i ymestyn y tymor twristiaeth i’r Hydref. Mae’r Ffair yn darparu llwyfan gwerthfawr i fusnesau bwyd a diod artisan Cymru, a busnesau bach a micro Cymru i hyrwyddo, marchnata a gwerthu eu nwyddau ac arddangos popeth sy’n arbennig am Gymru. Un o’r atyniadau mwyaf yw’r cogyddion a’r cigyddion gorau ledled Cymru, sy’n arddangos eu sgiliau ac yn tynnu sylw at letygarwch, bwyd a diod a chig Cymru, i helpu i ysgogi gwerthiannau a chefnogi economi gwledig Canolbarth Cymru. Eleni bydd Cogydd Cenedlaethol Cymru, Josh Morris a Chef Iau Cymru, Sam Everton yn serennu yn theatr fyw y gegin.

Dywedodd Faith O’Brien: “Yn CHC, rydyn ni’n cael ein gyrru gan weithred, ac rydyn ni wedi ymrwymo i wneud i bethau ddigwydd. Mae’r ymroddiad hwn yn ein gwahaniaethu, gan ein galluogi i gadw cysylltiad agos ag anghenion ein cleientiaid busnes a’n dysgwyr, a sicrhau ein bod bob amser yn barod i’w cefnogi’n effeithiol.”

Hyforddiant Cambrian

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —