Cynllun Cyffrous i Gydweithio â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Tuag at Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr

Comisiynwyd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg) i sicrhau datblygiad pellach yn y gwaith o ddarparu a chyflenwi Prentisiaethau Cymraeg a Dwyieithog yng Nghymru.

Bu NTfW yn cydweithio’n agos â’r Coleg ers rhai blynyddoedd a bydd y contract newydd yn ei helpu i anelu at gyflawni’r nodau a bennwyd yn ‘Tuag at Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr – Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg’; gan arwain at weld pob prentis yng Nghymru’n gweithio’i ffordd i fyny pyramid dysgu Cymraeg, o ymwybyddiaeth i ruglder.

Mae chwe maes blaenoriaeth i’w datblygu er mwyn sicrhau cysondeb wrth symud ymlaen i wireddu gweledigaeth Cymraeg 2050. Y meysydd hyn yw: Profiad y Dysgwr; Capasiti Staffio; Darpariaeth; Adnoddau; Asesu a Chymwysterau; ac Ymwneud â Chyflogwyr.

Mae’r cynllun newydd cyffrous i gydweithio yn dwyn ynghyd arbenigedd o bob rhan o’r gweithlu addysg ôl-16, ac yn annog rhannu arferion gorau a’r adnoddau sydd eisoes ar gael.

Mae’r gwaith o ddatblygu darpariaeth Prentisiaethau Cymraeg a Dwyieithog ac annog mwy o bobl i’w dilyn eisoes ar y gweill yn y pedwar sector blaenoriaeth allweddol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru (sef Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Blynyddoedd Cynnar, Amaeth, ac Adeiladu). Yn ogystal, mae Ryan Evans, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd NTfW wrthi’n chwilio am Lysgenhadon Prentisiaethau Cymraeg a Dwyieithog yn dilyn llwyddiant y llysgenhadon cyntaf erioed yn ystod blwyddyn academaidd 2019/2020.

Dywedodd Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae cydweithio’n agos gyda Darparwyr Prentisiaethau yn allweddol bwysig i wireddu’r Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg. Rydym yn falch iawn o allu datblygu ein perthynas a chydweithio ymhellach â NTFW ac edrych ymlaen yn fawr at gyfleoedd i gefnogi gwaith ein gilydd yn ystod y cyfnod nesaf i gynorthwyo at wireddu’r amcan o filiwn o siaradwyr Cymraeg.”

Dywedodd Jeff Protheroe, Cyfarwyddwr Gweithrediadau NTFW: “Mae gweithio gyda’r Coleg yn gam mawr ymlaen yn ein gwaith i gynyddu’r nifer o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Mae’r rhwydwaith darparwyr prentisiaethau eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol i fynd i’r afael â’r mater hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond bydd ein perthynas newydd â’r Coleg, sy’n seiliedig ar y Cynllun Addysg Bellach a Phrentisiaethau, yn mynd gam ymhellach.
 
“Byddwn yn annog pob cyflogwr ac unigolyn i wneud y gorau o’r cyfleoedd sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a sicrhau bod y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru, yn gwneud cyfraniad allweddol at y ddyhead o greu cenedl wirioneddol ddwyieithog.

Bydd yr Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yn dal i gydweithio’n agos â Sgiliaith i hybu hyder ymarferwyr yn y sector i weithio trwy gyfrwng y Cymraeg neu’n ddwyieithog. Cafodd ei ffilmio’n ddiweddar yn sôn am ei swydd ac am bwysigrwydd sgiliau Cymraeg a dwyieithog ym myd addysg seiliedig ar waith. Mae’r fideo i’w weld yma: https://www.youtube.com/watch?v=erMsWP9FlWY

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ryan Evans, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd, NTfW dros e-bost at ryan.evans@ntfw.org neu ffoniwch 07425 621710.

www.colegcymraeg.ac.uk

More News Articles

  —